Skip to main content

Cyngor McGoldrick i obeithion Cymanwlad Bocsio Cymru

Mae seren focsio Cymru, Sean McGoldrick, wedi ennill medal ddwywaith yng Ngemau'r Gymanwlad ac wrth i'r cyfrif i lawr ddechrau ar gyfer Birmingham 2022 mae'n cynnig rysáit syml ar gyfer llwyddiant.

Dim ond wyth mis sydd tan y Gemau nesaf ac mae pob un o obeithion Cymru yn chwilio am y dull cywir o baratoi i fod ar eu gorau fis Gorffennaf nesaf.

Enillodd McGoldrick, sy’n cystadlu yn y pwysau bantam, fedal aur yn 2010 yn Delhi a chafodd efydd wedyn yn Glasgow bedair blynedd yn ddiweddarach.

Yn dilyn yn ôl ei droed, enillodd Cymru bedair medal mewn bocsio ar yr Arfordir Aur yn 2018. Hawliodd Sammy Lee a Lauren Price aur ac enillodd Rosie Eccles arian a Mickey McDonagh efydd.

Y flwyddyn nesaf, bydd Cymru yn gobeithio am fwy fyth o fedalau. Ymhlith yr aelodau tebygol o’r tîm fydd yn chwilio am lwyddiannau yn y cylch mae'r brodyr Ioan a Garan Croft, Taylor Bevan ac Eccles â’i phrofiad.

Gallai arwres Olympaidd Cymru, Lauren Price, geisio amddiffyn ei medal aur yn y Gymanwlad hefyd os bydd yn penderfynu parhau i gystadlu fel amatur.

Dywed McGoldrick mai’r allwedd i'w lwyddiant oedd sylfaen syml iawn, ond un sy’n cael ei hesgeuluso yn aml.

“Fy nghyngor pennaf i i unrhyw un sy’n mynd i Gemau’r Gymanwlad yw, yn syml, mwynhau’r profiad,” meddai.

“Mae pa mor bell rydw i wedi dod ers i mi ddechrau bocsio yn ddim llai na gwyrth yn fy marn i.

“Fel rheol, rydw i’n berson sy’n edrych ymlaen ond pan fyddaf yn edrych yn ôl, rydw i'n credu bod rhai o fy eiliadau balchaf i yn y byd bocsio wedi bod yng Ngemau'r Gymanwlad.

“Roedd pobl bob amser yn arfer dweud wrtha’ i am ei fwynhau ond pan rydych chi'n gobeithio ennill, rydych chi'n anghofio am y rhan honno weithiau.

“Fe ddywedodd ychydig o bobl wrtha’ i am ddefnyddio fy Ngemau Cymanwlad cyntaf i gael profiad a’i fwynhau ond yn fy mhen y cyfan oeddwn i eisiau ei wneud oedd ennill. 

“Ond balans sy'n bwysig. Os oes gennych chi feddylfryd o ennill ond eich bod yn mwynhau'r hyn rydych chi'n ei wneud hefyd, bydd yn dod â llawer o lwyddiant i chi.” 

Enillodd McGoldrick, sydd bellach yn bocsio'n broffesiynol o dan reolaeth MTK Global, fedal arian i ddechrau yn 2010 ond cafodd ei uwchraddio i aur ar ôl i'w wrthwynebydd o Sri Lanka, Manju Wanniarachchi, fethu prawf cyffuriau.

Ochr yn ochr â mwynhau'r siwrnai, dywed y dylai pob athletwr yng ngharfan Cymru geisio datblygu eu hunan-gred.

“Yn fy Ngemau Cymanwlad cyntaf, fe alla’ i warantu nad oedd unrhyw un yn disgwyl i mi ennill,” ychwanegodd y bocsiwr 29 oed.

“Nid bod neb yn credu yno’ fi, ond roeddwn i’n un o’r rhai lleiaf profiadol yn y tîm o ddigon. 

“Os ydych chi'n ymladdwr ifanc sy'n mynd i'r Gemau, y cyfan sy'n bwysig yw eich bod chi'n credu y gallwch chi fynd yno i ennill. 

“Nid ennill medal sy’n bwysig, ond ennill medal aur. Dyna'r meddylfryd pwysig i'w gael. 

“Does dim ots am y gwrthwynebwyr. Fe wnes i wynebu enillydd medal efydd y byd ac enillydd medal arian Olympaidd.

“Fe wnes i gwrdd â rhai ymladdwyr oedd yn llawer gwell na mi ar bapur, ond fe wnes i ennill yr un fath, felly meddylfryd yw popeth.” 

Lauren Price yn ei chornel gyda'i hyfforddwr Colin Jones
Lauren Price a Colin Jones. Cydnabyddiaeth: Gemau’r Gymanwlad Cymru

Bydd gan unrhyw un sy’n ymladd mewn fest goch y flwyddyn nesaf ffactor arall o’u plaid hefyd, yn ôl McGoldrick. Byddant yn cystadlu o dan arweiniad hyfforddwr bocsio cenedlaethol Cymru, Colin Jones.

Mae Jones wedi gweithio gyda rhai o'r enwau mwyaf yn y byd bocsio, fel Price, Joe Cordina ac Andrew Selby. 

“Heb yn wybod iddo’i hun, mae mor ysbrydoledig,” eglura McGoldrick. 

“Pan mae Colin yn dweud rhywbeth rydych chi'n gwrando, mae ei record mewn bocsio yn siarad drosti'i hun. Mae'n hyfforddwr clyfar iawn ac felly'n dda yn seicolegol i'r ymladdwr. 

“Mae'n gwneud i chi feddwl llawer am yr hyn rydych chi'n ei wneud. Yn ddiweddar, rydw i wedi dechrau helpu i hyfforddi fy hun gyda thîm ieuenctid Cymru. Mae wedi bod yn wych gwylio Colin o safbwynt hyfforddi. 

“I fod yn hyfforddwr gwych mae angen i chi gael effaith ar bobl ac yn sicr mae e’n gwneud hynny.

“Does dim gwell dyn i fod yng ngofal bocsio yng Nghymru, yn fy marn i.”

Erbyn hyn, gall y bocsiwr o Gasnewydd edrych yn ôl ar ei brofiad yn y Gymanwlad wrth iddo ddod i oed.

“Dydych chi ddim yn ei werthfawrogi ar y pryd, rydych chi'n ei werthfawrogi'n fwy wrth edrych yn ôl. Ond mae'n bendant ymhlith rhai o fy eiliadau balchaf.

“Mae’n anrhydedd bod yn rhan o hanes bocsio Cymru, ond mae’r un mor braf o safbwynt teuluol hefyd. 

“Gobeithio y bydd cenedlaethau o fy nheulu yn y dyfodol bob amser yn siarad am yr hyn rydw i wedi'i wneud yn fy ngyrfa ac yn falch o'r hyn rydw i wedi’i gyflawni. 

“Dyna’r stori fydd yn cael ei phasio i lawr.”

Mae bocsio wedi cael effaith fawr ar fywyd McGoldrick i gyd a byddai’n annog unrhyw un – bocswyr proffesiynol addawol, amaturiaid, neu bobl sy’n frwdfrydig am ffitrwydd - i estyn am fenig a rhoi cynnig arni.

“Ewch amdani,” meddai.

“Mae'n un o'r chwaraeon hynny mae rhai pobl yn edrych arnyn nhw ac mae'n eu dychryn, neu efallai eu bod nhw'n rhy nerfus i fynd i gampfa.

“Ond, ewch i'ch clwb bocsio lleol i weld lle fydd y gamp yn mynd â chi.

“Mae pob un o’r bocswyr gorau yn cychwyn yn lleol a gall agor llawer o ddrysau newydd i chi yn bendant.”

Mae McGoldrick yn anelu at ennill teitlau yn y rhengoedd proffesiynol bellach ond mae’n edrych ymlaen hefyd at weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig i focsio Cymanwlad yng Nghymru.

Newyddion Diweddaraf

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Darllen Mwy

Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye…

Darllen Mwy

Chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan

Dyma gyngor y Sefydliad Chwaraeon Mwslimaidd ar gyfer cyflwyno a chymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer…

Darllen Mwy