Skip to main content

Dan Jervis yn gosod amser byd newydd wrth i nofwyr ddychwelyd i’r pwll

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Dan Jervis yn gosod amser byd newydd wrth i nofwyr ddychwelyd i’r pwll

Mae Dan Jervis wedi cael ei ganmol am y ffordd mae wedi dychwelyd mewn cyflwr mor dda i’r pwll ond mae ef a gweddill nofwyr elitaidd Cymru angen mwy o gystadlaethau. 

Dyna gais cyfarwyddwr perfformiad Nofio Cymru, Ross Nicholas, ar ôl i Jervis, Georgia Davies a nifer o nofwyr blaenllaw eraill Cymru ddychwelyd at rasio yn y pwll mewn Cyfarfod Nofio Rhyngwladol diweddar ym Manceinion.

Jervis oedd yn serennu ymhlith perfformiadau Cymru – gan gofnodi’r ail amser cyflymaf yn y byd y tymor yma pan enillodd ddull rhydd 1500m y dynion mewn 14:58:05.

Hefyd roedd Harriet Jones yn tynnu sylw, gan orffen yn drydydd yn rownd derfynol pili pala 50m y merched a gosod record newydd yng Nghymru o 26:34, yn ogystal â gorau personol yn y digwyddiad 100m. Dim ond o drwch blewyn y daeth y nofwraig gyda Dinas Caerdydd yn ail i’r athletwraig o Sweden, Louise Hansson.

Roedd y para nofiwr Rhys Davies yn cystadlu hefyd a daeth yn ail yn null cefn 100m y dynion y tu ôl i Jordan Catchpole.

 

Ond gyda Phencampwriaethau Prydain yn cael eu cynnal ym mis Ebrill, a hithau hefyd yn flwyddyn Olympaidd – os bydd Tokyo yn digwydd – a’r Gemau Cymanwlad i ddilyn y flwyddyn nesaf, mae’r angen am fwy o gystadlu’n amlwg.     

Manceinion oedd y cyfarfod cyntaf yn y DU ers y cyfyngiadau symud ac er bod tarfu mawr wedi bod ar amserlenni hyfforddi’r nofwyr elitaidd, mae Nicholas yn dweud bod arwyddocâd symbolaidd nofwyr yn gallu rasio eto’n enfawr.                                       

“Wrth gwrs mae wedi bod yn flwyddyn heriol iawn ac mae’n anodd pennu disgwyliadau pan nad ydych chi wedi gweld pobl yn rasio ers deuddeg mis,” meddai Nicholas.

“Dan Jervis a Harriet Jones oedd ein perfformwyr gorau ni, gyda rhai o’r nofwyr eraill wedi gwneud argraff dda hefyd wrth ddychwelyd. 

“Doedd dim cyfle i’r athletwyr i gyd nofio, ond yr hyn oedd yn bwysig oedd y ffaith bod y digwyddiad wedi cael ei gynnal – er bod yr awyrgylch yn eithaf rhyfedd heb wylwyr. 

“Roedd protocolau Covid llym yn eu lle a gweithdrefnau profi. Fe gafodd ein nofwyr ni i gyd eu profi yn Abertawe cyn mynd ac eto wedyn wrth gyrraedd Manceinion.       

“Wedyn roedden nhw’n gweithredu mewn swigen yn y gwesty ac yn y cyfarfod ei hun. Doedd yr hyfforddwyr ddim yn cael yr un cyswllt ag arfer gyda’r nofwyr, felly roedd yn wahanol. 

“Ond y realiti ydi mai dyma sydd raid i ni ei wneud er mwyn cael cystadlu eto ar hyn o bryd, a’r gwir amdani ydi os bydd y Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal, dyma sut bydd pethau.”

Fe berfformiodd y nofiwr ifanc, Matt Richards, yn dda ym Manceinion hefyd, ac er nad oedd posib i Alys Thomas gystadlu oherwydd anaf, mae’n un o obeithion Olympaidd Cymru ac yn bencampwraig y Gymanwlad ac mae’n eithaf agos at fod yn ffit. 

Mae Thomas – brenhines y pili pala 200m ar yr Arfordir Aur yn 2018 – â’i llygaid ar Tokyo ac ymddangosiad Olympaidd cyntaf ac mae Nicholas yn credu ei bod ar y targed i fod yno.           

“Doedd Alys ddim yn barod i rasio eto, ond mae hi’n hyfforddi a bydd yn iawn i gystadlu eto’n fuan iawn.”

Y cwestiwn nawr yw beth nesaf. Mae Nofio Prydain yn gobeithio y bydd posib cynnal digwyddiad arall ym mis Mawrth cyn y pencampwriaethau domestig hynny, a’r lleoliad mwyaf tebygol fydd dychwelyd i Fanceinion.         

O ran cystadlu ar gyfer y genhedlaeth nesaf o nofwyr Cymru, o dan y lefel elitaidd bresennol, mae’r darlun yn llai sicr gyda phyllau yng Nghymru ar gau o hyd ar wahân i hyfforddiant ar gyfer grwpiau elitaidd. 

“Fe fyddwn i wrth fy modd yn gweld cystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghymru, ond y ffaith ydi mai dim ond 18 nofiwr sydd gennym ni’n nofio yng Nghymru ar hyn o bryd, ac felly ni fyddai’n llawer o gystadleuaeth y tu hwnt i’r treialon amser, yr ydyn ni’n eu cynnal beth bynnag,” ychwanegodd Nicholas.

“Mae’r niferoedd yn gyfyngedig oherwydd bod y pyllau ar gau o hyd, felly pe baem ni’n llwyddo i gynnal cyfarfod, byddai angen cefnogaeth y gwledydd cartref eraill i ddarparu rhai athletwyr.”

Mae’r genhedlaeth nesaf o nofwyr blaenllaw Cymru’n gorfod cadw’n heini ac ymarfer allan o ddŵr ar hyn o bryd, gyda’r holl rwystredigaeth mae hynny’n ei olygu.                          

Mae amser o blaid y grŵp mewn un ffordd, oherwydd does neb yn debygol o dorri drwodd ar gyfer cael eu dewis ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn Birmingham y flwyddyn nesaf. 

Ond er bod yr holl nofwyr yn dyheu am fod yn ôl yn y dŵr eto cyn gynted â phosib, mae Nicholas yn credu bod teimladau pobl wedi newid ers y cyfyngiadau symud cyntaf y llynedd. 

“Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, roedd pobl yn fwy parod i alw am ailagor pyllau. Nawr rydw i’n credu bod yr agwedd yn fwy realistig ac mae pobl yn sylweddoli bod rhaid i ni gael y feirws yma dan reolaeth unwaith ac am byth. 

“Y realiti ydi bod angen i ni fod ar ben y pandemig yma’n barhaol gyda brechiadau ac wedyn fe allwn ni ddechrau agor pethau’n fwy parhaol.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy