Skip to main content

Dathlu treftadaeth chwaraeon wych Cymru

Mae pob camp yn hoffi anrhydeddu ei harwyr o'r gorffennol.

Boed yn dimau neu'n unigolion, gall cydnabod y rhai sydd wedi mynd o'n blaen fod yn ysbrydoledig i bawb - yn berfformwyr elitaidd, selogion ar lawr gwlad, neu ieuenctid sy'n rhoi cynnig ar weithgaredd newydd am y tro cyntaf.

Mae’r Diwrnod Treftadaeth Chwaraeon Cenedlaethol - Medi 30 - yn gyfle blynyddol i godi ymwybyddiaeth o gyflawniadau chwaraeon ar draws y sbectrwm cyfan.

I nofio yng Nghymru, mae’r digwyddiad eleni yn darparu cyfle - neu efallai floc deifio - i anelu tuag at 2022 pan fydd y sefydliad yn dathlu ei ben-blwydd yn 125 oed.

Roedd cyfle i Nofio Cymru ddathlu chwe arwr cyfredol eleni, pan gystadlodd Matt Richards, Callum Jarvis, Alys Thomas, Dan Jervis, Harriet Jones a Kieran Bird i gyd yng Ngemau Olympaidd Tokyo - y nifer uchaf erioed o nofwyr o Gymru.

Daeth Richards a Jarvis â’r aros o 108 o flynyddoedd i nofwyr o Gymru i ben drwy ennill aur yn y Gemau Olympaidd pan oeddent yn rhan o sgwad ras gyfnewid dull rhydd 4x200m Prydain Fawr a gafodd fuddugoliaeth ysgubol.

Paolo Radmilovic dives into open water in front of a crowd of people
Paolo Radmilovic

 

Daeth â chanrif o aros i ben. 1912 oedd y tro diwethaf i nofiwr o Gymru sefyll ar y podiwm Olympaidd, pan enillodd Irene Steer aur yng Ngemau Olympaidd 1912 yn Stockholm.

Pa well rheswm i nofio yng Nghymru ddathlu nid yn unig rhagoriaeth Richards a Jarvis eleni, ond hefyd cydnabod holl nofwyr gwych Cymru - fel Steer arloesol - sydd wedi bod o'r blaen.

Bob blwyddyn mae gan y Diwrnod Treftadaeth Chwaraeon Cenedlaethol thema wahanol. Thema eleni yw: ‘Ysbrydoli, Rhannu a Dathlu’.

Mae'r ffocws ar weithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau a bydd dysgu a sgyrsiau rhwng cenedlaethau’n cael eu hannog fel bod plant a phobl ifanc yn gallu dysgu gan yr arloeswyr chwaraeon a aeth o’u blaen.

Mae’r diwrnod wedi’i gynllunio i fod yn ysbrydoledig a meithrin dyhead, gyda'r nod o ysbrydoli a chymell plant ac oedolion i ddysgu mwy am chwaraeon a threftadaeth chwaraeon.

Pwy allai beidio â chael ei ysbrydoli gan nofiwr gorau un Cymru, yr unigryw Paolo Radmilovic?

“Raddy” fel yr oedd yn cael ei adnabod oedd yr athletwr cyntaf o Gymru, mewn unrhyw gamp, i ennill medal aur Olympaidd yn 1908. Aeth ymlaen i ennill tair arall.

Ac wedyn daeth Steer - y fenyw gyntaf o Gymru i ennill aur yn y Gemau Olympaidd - cyn i arwyr Cymru yn y pwll dros y degawdau efelychu ei gwaddol.

Ymhlith y rhai a ddaeth ar ei hôl roedd Valerie Davies, John Brockway, Martyn Woodroffe, Robert Morgan, David Roberts, Jemma Lowe, Jazz Carlin, Ellie Simmonds, David Davies ac eraill.

Os ydych chi'n pendroni beth ddigwyddodd i Raddy, symudodd i Weston-super-Mare i chwarae i'w tîm polo dŵr a byw am ran helaeth o'i fywyd yr ochr honno i Fôr Bryste.

Daeth yn ffigwr chwedlonol yn y dref, gan redeg sawl bar a gwesty yno.

Mae bar wedi’i enwi ar ei ôl ar lan y môr, Raddy’s, ac mae Plac Glas hefyd yng Ngwesty’r Imperial, ar South Parade, un o’r gwestai y bu’n eu rhedeg a lle bu’n arddangos llawer o’i dlysau.

Yn anffodus, mae ei fedalau Olympaidd wedi mynd ar goll. Mae Nofio Cymru ac Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru yn cadw llygad amdanynt drwy’r amser.

Os byddwch chi'n digwydd dod ar eu traws, rhowch wybod iddyn nhw!

Yn y cyfamser, os ydych chi eisiau gweld medal aur a gwisg nofio Olympaidd Steer yn 1912, a medalau nofio eraill, ewch i Sain Ffagan i weld arddangosfa Cymru yn y Gemau Olympaidd.

Nid nofio yw'r unig gamp sydd wedi defnyddio’r diwrnod treftadaeth fel cyfle i ddathlu arwyr a chyflawniadau i ysbrydoli eraill.

Mae gan griced Cymru brosiect arbennig ar y gweill sy'n nodi cyfraniad Herbert Merrett, diwydiannwr blaenllaw o Gymru yn yr 20fed ganrif, a helpodd i ariannu twf criced a phêl droed.

Roedd Merrett yn ymwneud â Morgannwg a Dinas Caerdydd ac mae ei rôl yn y ddwy gamp yn cael ei chydnabod gan Amgueddfa Criced Cymru CC4 yng Nghaerdydd, Criced Morgannwg, a disgyblion Ysgol Gynradd Radnor yng Nghaerdydd.

Dywedodd Andrew Hignell, cydlynydd treftadaeth ac addysg yng Nghriced Morgannwg a churadur Amgueddfa Criced Cymru: “Mae stori HH Merrett yn un ysbrydoledig iawn, gyda llanc oedd wedi gwirioni’n llwyr ar chwaraeon yn codi o gefndir gwylaidd i ddod yn un o’r entrepreneuriaid mwyaf blaenllaw yn Ne Cymru yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel, ar wahân i fod yn noddwr hael criced a phêl droed hefyd.”

Mwy o wybodaeth am Herbert Merrett a’i gyswllt â chriced.

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy