Dydi pandemig ddim yn gallu effeithio ar bopeth ac un o’r pethau hynny yw Diwrnod Llyfr y Byd, sy’n cael ei gynnal ddydd Iau Mawrth 4.
Mae'r dathliad byd-eang o ddarllen yn mynd yn ei flaen, gyda gwerth llyfr da’n ymddangos yn bwysicach nag erioed yn ystod y 12 mis diwethaf.
I nodi'r diwrnod, pa well ffordd nag awgrymu hoff lyfrau chwaraeon – hen a newydd – wedi’u dewis gan newyddiadurwyr chwaraeon o Gymru.
Peter Jackson – The Rugby Paper
Pe bai'n rhaid i mi ddewis un llyfr chwaraeon, The Sweet Science gan A J Liebling fyddai hwnnw. Fe greodd Tony Liebling, sy’n cael ei adnabod fel AJ, y cofnod atgofus gwych yma o focsio yn nyddiau Sugar Ray Robinson a Rocky Marciano. O safbwynt Cymru, mae cyfeiriad anrhydeddus at Tommy Farr hyd yn oed.
Mae'r straeon yn troi o amgylch brwydrau mawr y cyfnod. Dywedodd y diweddar Hugh McIlvanney wrthyf ei fod yn credu mai Tony Liebling oedd yr awdur gorau yn y busnes, felly mae hynny'n dipyn o argymhelliad.
Ffefryn arall gen i yw Jacob’s Beach: The Mob, the Garden and the Golden Age of Boxing gan Kevin Mitchell. Fe wnes i ei ddarllen ar fy ngwyliau ryw flwyddyn ac roedd mor dda fel ’mod i wedi ffonio Kevin i ddweud hynny wrth orwedd yn yr haul.
Llyfr gwych arall yw The Silent Season of a Hero gan awdur mawr arall o America, Gay Talese. Mae'n newyddiaduraeth pryf ar y wal go iawn am y chwedlonol Joe DiMaggio – gwych iawn.
Pam llyfrau bocsio? Rwy'n credu mai'r rheswm am hyn yw am fod bocswyr, a hefyd jocis hela cenedlaethol, ymhlith y bobl ddewraf yn y byd chwaraeon, felly mae eu straeon nhw’n teimlo mor amrwd.
Beth Fisher – ITV Wales
Does dim digon o lyfrau chwaraeon am fenywod, a dim digon o lyfrau chwaraeon wedi’u hysgrifennu gan fenywod. Dyna'r peth cyntaf i'w ddweud.
Fe wnes i fwynhau It's Not About The Bike gan Lance Armstrong. Ond, wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn gwybod ei hanes nawr, felly mae e oddi ar y rhestr.
Felly, byddai'n rhaid i mi argymell Proud: My Autobiography gan Gareth Thomas a Michael Calvin, oherwydd mae cymaint o wirionedd personol ynddo fe, ac am yr un rheswm, hunangofiant gwych Andre Agassi, Open.
Gyda'r ddau ohonyn nhw, rydych chi'n cael mynd at graidd pwy ydyn nhw – y da a'r drwg. Rydych chi'n teimlo eich bod chi’n dod i adnabod y person go iawn, nid dim ond y bersonoliaeth gyhoeddus.