Skip to main content

Evan Hoyt: Ar ôl uchelfannau Wimbledon, mae'n brwydro'n ôl o anaf

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Evan Hoyt: Ar ôl uchelfannau Wimbledon, mae'n brwydro'n ôl o anaf

Mae Evan Hoyt wedi cyfaddef mai ei anaf diweddaraf yw un anoddaf ei yrfa a'i fod wedi gwneud iddo gwestiynu ei ddyfodol yn y byd tennis hyd yn oed.

Mae chwaraewr rhif un Cymru yn Sbaen ar hyn o bryd, yn gwella o anaf i'w ben-glin sy’n golygu nad yw wedi bod ar y cwrt ers yr haf diwethaf.

Mae’r chwaraewr a gyrhaeddodd rownd gogynderfynol Wimbledon yn 2019 yn dweud ei fod wedi dod drwy gyfnodau tywyll yn ystod y misoedd diwethaf, ond mae bellach yn benderfynol o frwydro drwodd a dringo'n ôl yn safleoedd y byd.

Yn ddim ond 26 oed, mae Hoyt eisoes wedi dioddef digon o anafiadau i brofi unrhyw athletwr. Ond ar ôl delio'n ddewr ag anafiadau ysgwydd a olygodd ei fod wedi colli 18 mis o gystadlu, mae’r anaf diweddaraf wedi ei daro yn galed.

Evan Hoyt hitting tennis ball on court

 

Yn eironig, nid ar y cwrt ddigwyddodd yr anaf, ond mewn sesiwn ioga - er bod y llawdriniaeth o ganlyniad yn dangos ôl traul ar ei gartilag a bod anaf fel hwn yn siŵr o ddigwydd. 

"Efallai bod rhai pobl yn meddwl bod anafiadau'n haws delio â nhw wrth i chi fynd yn hŷn, ond mewn gwirionedd, fe fyddwn i'n dweud i'r gwrthwyneb," meddai Hoyt, a gyrhaeddodd wyth olaf y dyblau cymysg yn Wimbledon ddwy flynedd yn ôl, gyda’i bartner chwarae Eden Silva.

"Pan ydych chi'n iau, rydych chi'n anghofio am anafiadau’n fuan iawn gan fod gennych chi gymaint o amser o’ch blaen o hyd.

"Wrth i chi fynd yn hŷn, mae pwysau gwahanol - yn enwedig pan rydych chi’n cyrraedd y pwynt lle rydw i, ddim yn ennill bywoliaeth dda o'r gamp.

"Mae amheuon yn treiddio i'ch meddwl chi ynghylch a ddylech chi ddal ati, neu a fyddech chi'n well yn rhoi’r gorau i bopeth, dod â’r cyfan i ben, a mynd i wneud rhywbeth sy'n fwy diogel yn ariannol.

"Yn sicr, mae'r meddyliau hynny wedi dod i fy meddwl i yn ystod y cyfnod diweddaraf yma. Ond rydw i'n ’meddwl ’mod i wedi dod allan yr ochr arall nawr – rydw i'n teimlo'n dda eto ac rydw i eisiau dal ati.

"Ond fe fyddwn i'n bendant yn dweud, o'r holl anafiadau rydw i wedi'u cael yn ystod fy ngyrfa, mai dyma'r mwyaf heriol yn feddyliol."

Mae Hoyt bellach yn gobeithio dychwelyd i ffitrwydd llawn ym mis Ebrill neu fis Mai, a ddylai gyd-daro â dychweliad llawer o dwrnameintiau tennis ledled y byd ar ôl y pandemig.

Mae ei waith adfer wedi cyrraedd y cam lle mae'n dweud ei fod yn rhedeg ar 80 y cant o’i gyflymder llawn, ond yn dal i deimlo anesmwythyd pan mae’n ceisio arafu.           

"Dydw i ddim wedi cael problemau pen-glin erioed o'r blaen, felly mae wedi bod yn rhwystredig," meddai Hoyt, a fagwyd yn Llanelli ond a gafodd ei weld fel unigolyn talentog yn ei arddegau, ei roi yn sgwadiau grŵp oedran Prydain Fawr ac wedyn mynd ymlaen i ennill y Cwpan Davis Iau.

"Fe gefais i’r anaf fis Mehefin diwethaf ac mae'n debyg mai'r llinyn arian yn hynny o beth ydi nad oedd llawer o dennis yn digwydd, felly doeddwn i ddim wir yn colli dim. 

"Ar un ystyr, rydw i wedi mwynhau'r seibiant oherwydd roeddwn i'n mynd drwy gyfnod heb fod yn chwarae cystal.

"Efallai bod ychydig wythnosau o seibiant wedi gwneud lles i mi, ond wedyn fe drodd ychydig wythnosau'n ychydig fisoedd."

Un o'r digwyddiadau wnaeth eu colli oedd Brwydr y Brits – gornest ddomestig a gafodd groeso brwd ac roedd fel pe bai'n cynnwys pawb ym myd tennis y DU ar wahân iddo fo.

Yr hyn sydd wedi codi ei hwyliau eto, meddai, yw sylweddoli bod arno angen cefnogaeth pobl eraill yn ogystal â'i gefnogaeth ei hun. 

"Rydw i'n credu bod amheuon yn naturiol. Ond y tro yma, fe fyddwn i'n dweud ei fod wedi bod yn fwy anodd oherwydd bod adegau pan oeddwn i’n meddwl, yw hyn i gyd werth e mewn gwirionedd?

"Rydw i'n credu mai cyfathrebu yw'r tric – siarad am y teimladau hynny gyda phobl. ’Dyw e ddim yn rhywbeth sy’n dod yn naturiol i mi efallai ac rydw i wedi gorfod gweithio arno.

"Yn y gorffennol, rydw i wedi tueddu i geisio cadw’r holl feddyliau hynny’n fewnol, ond y tro yma rydw i wedi ceisio estyn allan a thrafod pethau gyda fy nghariad, fy nheulu a’r tîm am sut rydw i'n teimlo. Mae hynny'n sicr wedi fy helpu i yn ystod y cyfnod yma."

Cyn ei antur yn Wimbledon a hawliodd y penawdau, roedd Hoyt yn brysur yn cipio casgliad o deitlau senglau a dyblau ledled Ewrop, America ac Awstralia ar Daith Tennis y Byd ITF, yn ogystal â chyrraedd nifer o rowndiau terfynol eraill.

Cyrhaeddodd y chwaraewr llaw dde ei safleoedd uchaf yn ystod ei yrfa yn y byd, 319 yn y senglau a 217 yn y dyblau yn ôl yn haf 2019, ac mae'n dal i deimlo bod digon o fusnes heb ei orffen – a phwyntiau safle heb eu hawlio.

Ar ôl dychwelyd i Gymru ar gyfer rhan gyntaf ei adferiad, mae bellach yn ôl yn ei ganolfan yn Sbaen ac yn bwriadu dychwelyd i gystadlu yr haf yma.

"Mae tennis wedi bod yn uchelfannau ac iselfannau i mi, ond mae cymaint o deithio wedi bod, cymaint o straeon i'w hadrodd a phobl wych rydw i wedi cwrdd â nhw. Felly dyna un o'r prif resymau pam rydw i am ddal ati i chwarae.

"Rydw i'n gwybod y gallaf barhau i wella yn y gamp yma ac mae gen i'r gêm i wella. 

"Mae chwaraeon unigol fel tennis a golff mor heriol yn feddyliol oherwydd mae'n rhaid i chi fod yn ffrind gorau i chi’ch hun allan yna. Rhaid i chi wthio eich hun mor galed ag y gallwch chi, ond hefyd bod yn garedig gyda chi'ch hun pan fydd angen hynny. Mae'n anodd.

"Ond rydw i'n dal i gredu y galla’ i godi'n uwch yn y safleoedd. Yr agwedd feddyliol, mae hwnnw'n faes lle galla’ i wella o hyd. Mae popeth yn dechrau gyda'r ochr feddyliol.

"Rhaid i chi allu delio â nerfusrwydd, gorbryder, straen a phopeth."

A bydd seibiant cwbl haeddiannol o anafiadau ysgwydd a phen-glin yn help llaw hefyd.

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy