Mae Megan Barker yn gobeithio y bydd hi'n taro deuddeg mewn dwy rôl newydd yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf - ennill medal ym Mhencampwriaethau’r Byd a bod yn fodryb ddefnyddiol pan fydd ei chwaer, Elinor, yn cael ei phlentyn cyntaf y gwanwyn nesaf.
Tra mae Elinor yn arafu ychydig yn barod ar gyfer geni ei phlentyn cyntaf - ar ôl datgelu’n ddiweddar ei bod wedi darganfod ei bod yn feichiog yn ystod Gemau Olympaidd Tokyo - mae gyrfa Megan, y chwaer iau, wedi cyflymu a chystadlodd am y tro cyntaf ym Mhencampwriaethau Beicio Trac y Byd yn Roubaix, Ffrainc fis diwethaf.
Nododd y ferch 24 oed o Gaerdydd ei hymddangosiad cyntaf mewn pencampwriaethau byd hŷn drwy ennill medal efydd yn y gweithgaredd tîm i ferched.
Roedd Barker yn beicio gyda Katie Archibald, Neah Evans a Josie Knight i drechu Canada o fwy na phum eiliad.
Roedd y fedal yn ddechrau ar flwyddyn brysur iawn i Barker, gydag uchafbwyntiau cystadleuol ochr yn ochr â’r cyhoeddiad teuluol mawr.
“Rydw i wir yn gyffrous, rydw i’n credu ei fod yn dipyn o syndod i bawb,” meddai Megan am y newyddion am fabi Elinor.
“Does dim llawer o bobl yn dod yn ôl o’r Gemau Olympaidd gyda newyddion mawr fel yna felly, ie, mae’n gyffrous iawn.
“Rydw i’n credu ei fod yn braf gweld pa mor hapus yw hi a pha mor gefnogol mae ei thîm yn Beicio Prydain wedi bod hefyd.
“Mae popeth yn edrych yn dda iddi, sy'n wych, ac rydw i wedi cyffroi am gael dyletswyddau rhan amser yn gofalu am y babi!”
Tra oedd Elinor yn Japan, ni chafodd Megan ei dewis ar gyfer Gemau Olympaidd 2020, felly nid oedd yno ochr yn ochr â’i chwaer pan gynhaliwyd y Gemau wedi’u gohirio yn Tokyo yn gynharach eleni.
Roedd yn golygu bod y newyddion am feichiogrwydd Elinor yn sypreis iddi hi fel pawb arall yn y teulu o chwech.
Bydd yn golygu saib o leiaf yng ngyrfa feicio Elinor, ar yr union adeg mae’n ymddangos pryd mae Megan yn torri tir newydd ar y lefel ryngwladol elitaidd.
Er hynny, nid yw ei llwybr i’r brig wedi bod yn syml o gwbl, ar ôl goresgyn twymyn y chwarennau, niwmonia a chlotiau gwaed yn ei choes a’i hysgyfaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ond yn gwbl heini bellach ac ar dân, cystadlodd ym Mhencampwriaethau Trac Ewrop oedd wedi’u gohirio, yn y Swistir ym mis Hydref, ac wedyn yn y digwyddiad byd yn ddiweddarach yn ystod y mis.