Skip to main content

Ffocws Gemau'r Gymanwlad: Pencampwraig Prydain Holly Jones â’i llygaid ar y podiwm

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Ffocws Gemau'r Gymanwlad: Pencampwraig Prydain Holly Jones â’i llygaid ar y podiwm

Nod Holly Jones yw cael dau dîm y tu ôl iddi pan fydd yn cystadlu dros ei gwlad yng Ngemau'r Gymanwlad y flwyddyn nesaf - Tîm Cymru a Thîm Jones.

Mae gan Jones - a adenillodd deitl llamu hŷn Prydain ym Mhencampwriaethau Gymnasteg Prydain yn ddiweddar - flwyddyn fawr o’i blaen ac mae hi’n gobeithio y bydd yn cynnwys ennill medal yn Birmingham.

Yng Ngemau’r Gymanwlad y tro diwethaf ar yr Arfordir Aur yn Awstralia yn 2018, methodd y ferch 20 oed o Abertawe o drwch blewyn â chyrraedd y podiwm yn y gystadleuaeth llamu pan orffennodd yn bedwerydd.

Roedd ei mam a’i thad yno i’w chefnogi yn Awstralia, ond gyda’r Gemau nesaf ar garreg drws Cymru, ni fydd prinder cefnogaeth i Jones.

“Rydw i’n hynod gyffrous am Gemau’r Gymanwlad,” meddai Jones, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Treforys.

“Mae'n amlwg y bydd ychydig yn wahanol i Awstralia. ’Fydd y tywydd ddim mor braf i ddechrau, a ’fydd hi ddim mor heulog.

“Ond rydw i’n falch eu bod nhw’n gemau cartref oherwydd dim ond fy rhieni a fy hyfforddwyr ddaeth allan i ’ngwylio i yn Awstralia. Rydw i'n credu y bydd yn braf cael torf a fy holl deulu, ffrindiau a phawb i ddod i fy ngwylio i. 

“Fe ddois i mor agos i efydd y tro diwethaf, gan orffen yn bedwerydd. Felly dyna un o fy mhrif nodau i ar gyfer 2022 - cyrraedd y rowndiau terfynol, yn bendant, ac wedyn gobeithio cael medal. Dyna’r nod.”

Yn sicr mae Jones wedi paratoi’r ffordd gyda’i pherfformiad a gipiodd y teitl iddi yn Guildford ym mis Tachwedd, yn dilyn hefyd ei harian buddugol ar yr un cyfarpar ym Mhencampwriaethau Gogledd Ewrop a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ystod yr un mis.

I fod yn bencampwraig Prydain, roedd angen marc cyfartalog o 13.425 ar gyfer ei dwy naid. Gorffennodd yn chweched ar y llawr hefyd ac yn 23ain ar y trawst.

Roedd ei buddugoliaeth i gipio teitl Prydain yn ailadrodd yr aur a enillodd yn 2018, cyn i anaf difrifol i'w phen-glin brofi ei gwytnwch gyda'i hail anaf difrifol.

“Ar ôl cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2018 a hefyd ennill y llamu ym Mhencampwriaethau Prydain yn 2018, roeddwn i’n wirioneddol falch o’r cyflawniadau hynny.

“Cyn 2018 yn y treialon ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, fe gefais i anaf cefn drwg iawn. Doeddwn i ddim yn siŵr iawn ’fyddwn i’n gallu mynd i bob un o'r treialon a chystadlu ynddyn nhw. 

“Roedd hynny’n anodd iawn oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai’n digwydd yn y dyfodol – cael lle yn y tîm ar gyfer Awstralia oedd fy mreuddwyd i, a fy nod, a phan wnes i ddarganfod ’mod i wir wedi brifo fy nghefn, roeddwn i’n meddwl bod popeth drosodd.

“I bawb yn y byd chwaraeon, fe fyddwn i'n dweud cofiwch gael hwyl a mwynhau'r profiad dysgu.

“Bydd isafbwyntiau ac uchafbwyntiau, a phan fyddwch chi'n teimlo na all pethau fod yn waeth neu eich bod chi wedi taro’r gwaelod ac yn methu dal ati, jysd ewch amdani, oherwydd fe fydd pethau’n gwella.”

Holly Jones yn eistedd ar drawst cydbwysedd gyda'i medal a'i thlws
Coronwyd Holly Jones yn Bencampwraig Llamu Hŷn Prydain am yr eildro ym Mhencampwriaethau Artistig Merched Prydain 2021. Llun: Gymnasteg Cymru

"Rydw i wrth fy modd gyda digwyddiadau aml-chwaraeon"

Dechreuodd Jones ar ei siwrnai gymnasteg ychydig ar ôl iddi ddysgu cerdded. Aethpwyd â hi i ddosbarthiadau rhieni a phlant bach, aeth ymlaen i grwpiau hamdden, ac oddi yno i sgwadiau cystadleuol, gan gael ei dewis i chwarae dros Gymru yn y pen draw.

Ond er mai gymnasteg oedd ei nod o oedran ifanc, mae Jones yn edmygydd mawr o chwaraeon eraill, a dyma pam mae cystadlu mewn digwyddiadau fel Gemau'r Gymanwlad yn teimlo mor arbennig. 

“Mae'n brofiad gwych. Rydw i wrth fy modd gyda digwyddiadau aml-chwaraeon. Dydyn ni ddim yn gwneud llawer o hynny yn y gampfa, dim ond y pethau cyffredinol, cystadlaethau tîm a dim ond campfa.

“Ond rydw i’n hoffi gweld a mynd i wylio gwahanol chwaraeon, y pentref, gweld pawb o gwmpas, cyfnewid pin - popeth!”

Yn wreiddiol o Ganolfan Gymnasteg Abertawe, mae Jones bellach yn cael ei hyfforddi gan Natalie Lucitt-Jenkins, a oedd hefyd yn gwisgo coch Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 1998.

Mae'n gynnydd, a throsglwyddo'r baton dros ei gwlad yr hoffai Jones ei hun ei efelychu un diwrnod. Mae hi eisoes wedi dechrau cymryd ei chamau cyntaf at hyfforddi gyda gymnastwyr iau.

“Rydw i wedi bod gyda Natalie fel fy hyfforddwr ers pan oeddwn i tua chwech neu saith oed, felly rydw i wedi bod gyda hi drwy bopeth a dweud y gwir.

“Ond yn ogystal ag ymarfer, rydw i'n hyfforddi ar hyn o bryd. Mae gen i grŵp o rai bach, plant saith i wyth oed rydw i'n eu hyfforddi, felly rydw i'n bendant eisiau dal ati gyda hynny a symud ymlaen gyda nhw.

“Nid eu datblygu nhw fel gymnastwyr yw’r unig nod, ond fi fel hyfforddwr hefyd.

“Rydw i eisiau aros yn y gamp. Rydw i'n teimlo ei bod hi wedi rhoi cymaint i mi, rydw i eisiau rhoi yn ôl. Gobeithio, rhyw ddiwrnod, y gallaf i gael y bobl ifanc hynny i gystadlu mewn cystadlaethau mawr.”

Lluniau: DE Photos/Gymasteg Cymru

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy