Skip to main content

Ffordd wahanol o gyllido chwaraeon ar lawr gwlad

Mae algâu a llinellau pŵer ymhlith cynnwys mwy anarferol y prosiectau sydd wedi’u cefnogi gan Chwaraeon Cymru yn ystod y chwe mis diwethaf i wella’r profiad cyffredinol o chwaraeon ar lawr gwlad.  

Drwy gronfa ‘Lle i Chwaraeon’, mae Chwaraeon Cymru yn cynnig hyd at £15k i gefnogi ymdrechion codi arian clybiau a sefydliadau cymunedol i wneud gwelliannau i gyfleusterau oddi ar y cae.  

Mae’n gronfa wahanol iawn i unrhyw beth sydd wedi’i gynnig yn flaenorol yng Nghymru gan ei bod yn ofynnol i glybiau godi o leiaf hanner yr arian eu hunain drwy gyllido torfol ar wefan Crowdfunder.  

Ymhlith y clybiau a fanteisiodd ar y cyfle mae Clwb Chwaraeon a Chymunedol Ponthir yng Nghasnewydd. Wrth i linellau pŵer uwchben amharu ar ran fawr o faes chwaraeon Oaklands, sefydlodd y clwb brosiect cyllido torfol i godi digon o arian i dalu i Western Power am gladdu'r ceblau o dan y ddaear fel bod posib cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon yno. Helpodd grant o £10,500 gan Chwaraeon Cymru y clwb i gyrraedd ei darged codi arian cyffredinol o £35,000.                                                                                    

Yn Sir y Fflint, mae cyllid yn cael ei ddefnyddio i gael gwared ar algâu gwyrddlas gwenwynig o lecyn prydferth ‘Parc yn y Gorffennol’ i wneud y llyn yn addas drwy gydol y flwyddyn ar gyfer nofio, caiacio a deifio. Gyda hwb o £4,050 gan Chwaraeon Cymru, cododd grŵp cymunedol lleol gyfanswm o £13,560 i dalu am raglen trin dŵr gynaliadwy sy’n cynnwys gosod dau fwi wltrasonig yn eu lle a fydd yn allyrru tonfeddi uwchsain. Mae'r tonfeddi sain yn ddiniwed i'r bywyd gwyllt yn y llyn, ond byddant yn lleihau'r algâu peryglus fwy na 90%.  

Aerial  view of Park in the Past in Flintshire with canoes on the lake

 

Mae’r prosiectau llwyddiannus eraill oddi ar y cae wedi cynnwys clybiau’n codi arian tuag at adnewyddu adeilad y clwb a’r ystafelloedd newid, adnewyddu cyfleusterau cegin, addasiadau hygyrchedd i ddefnyddwyr anabl, a gosod ffensys terfyn yn eu lle. 

Dywedodd Owen Hathway, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus yn Chwaraeon Cymru: “Fe wnaethon ni dreialu ‘Lle i Chwaraeon’ am chwe mis ac rydyn ni’n falch o’i ymestyn nawr am y flwyddyn nesaf. Mae clybiau wedi creu rhai ymgyrchoedd cyllido torfol hynod apelgar sydd wedi denu cefnogaeth gan ymhell dros fil o bobl. 

“Wrth gynnal ymgyrch cyllido torfol, mae gwirfoddolwyr yn dysgu llu o sgiliau defnyddiol yn ymwneud ag ymgysylltu ag aelodau a’r gymuned, cyfathrebu ar gyfryngau cymdeithasol, marchnata busnes i fusnes a chodi arian yn gyffredinol. 

“O ganlyniad, mae’r broses hon yn helpu clybiau i ddod yn gynaliadwy yn y tymor hir a sefydlu eu hunain mewn ffordd sy’n creu cylch o lwyddiant, nid dim ond cais untro cadarnhaol am gyllid. 

“Rydyn ni wedi cael ein plesio’n fawr gan sut mae clybiau wedi dod o hyd i atebion creadigol i broblemau – mawr a bach – a fydd yn gwneud chwaraeon ar lawr gwlad yn well, naill ai drwy wella’r profiad cyffredinol, helpu clwb i ddod yn fwy cynaliadwy yn economaidd, neu drwy gyfrannu’n gadarnhaol at yr amgylchedd.” 

Mae’r enghreifftiau pellach o’r mathau o brosiectau a allai dderbyn cyllid gan Chwaraeon Cymru, os ydynt yn bodloni meini prawf penodol, yn cynnwys clybiau sy’n codi arian ar gyfer paneli solar, generaduron, storfeydd, camerâu teledu cylch cyfyng, offer dadansoddi perfformiad, neu i sefydlu gwefannau a systemau archebu. 

Dywedodd Rob Love, Prif Swyddog Gweithredol Crowdfunder: “Mae'r gronfa Lle i Chwaraeon gan Chwaraeon Cymru wedi bod yn enghraifft wych o ysbryd cymunedol yng Nghymru. Mae'r gronfa wedi'i chynllunio ar gyfer gwella mannau yn y gymuned leol, gwella'r profiad cymunedol a chynaliadwyedd amgylcheddol ac ariannol cyfleusterau oddi ar y cae.

“Rydyn ni wedi gweld ystod wych o brosiectau hyd yn hyn sydd wir wedi cofleidio cyllido torfol ac, o ganlyniad, wedi codi ymwybyddiaeth ar gyfer eu clwb, wedi annog aelodau newydd ac, wrth gwrs, wedi codi arian hanfodol i wella cyfleusterau ar gyfer eu cymunedau.”

Mae gweminar ar-lein 30 munud o hyd yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 10 Mai rhwng 12pm a 12:30pm i helpu clybiau i ddysgu mwy am Gyllido Torfol a sut i gael mynediad at gyllid Chwaraeon Cymru. Gellir cofrestru ar gyfer y weminar yma.