Skip to main content

GEMAU'R GYMANWLAD CYMRU YN CROESAWU NICKI PHILIPS FEL CHEF DE MISSION BIRMINGHAM 2022

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. GEMAU'R GYMANWLAD CYMRU YN CROESAWU NICKI PHILIPS FEL CHEF DE MISSION BIRMINGHAM 2022

Heddiw, mae Gemau'r Gymanwlad Cymru yn cyhoeddi ei Chef de Mission ar gyfer Birmingham y flwyddyn nesaf. Bydd Nicola Philips yn arwain Tîm Cymru i Gemau'r Gymanwlad 2022, a fydd yn gweld Birmingham yn cynnal y Gemau am y tro cyntaf erioed.

Rhannwyd y newyddion fel rhan o ddathliadau Tîm Cymru ar Ddiwrnod y Gymanwlad – digwyddiad blynyddol sy'n gweld pob un o 71 Gwlad y Gymanwlad yn dod at ei gilydd i rannu nodau mewn perthynas â democratiaeth a datblygiad. 

Bydd penodiad Nicola yn ei gweld yn arwain Tîm Cymru yn y Gemau nesaf yn Birmingham. Ymgymerodd â rôl Chef De Mission yn heulwen Gold Coast, Awstralia yn 2018, felly mae Nicki’n hen law ar y rôl ac mae'n dod â'i phrofiad arwain i'r Gemau unwaith eto. 

Fel Athro ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Nicola hefyd yn arbenigwr Ffisiotherapi Chwaraeon sydd wedi'i chofrestru'n rhyngwladol. Mae hi hefyd wedi gweithio'n helaeth gyda thimau Cymru a Phrydain yn y Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad, ac ar hyn o bryd mae'n Bennaeth Gwersyll Paratoi Tîm Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo 2021.

 

Cyn hynny, roedd Nicola yn Llywydd y Ffederasiwn Rhyngwladol ar gyfer Therapi Corfforol Chwaraeon ac mae'n Gymrawd yn y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi; Aelod Bywyd Anrhydeddus o’r Gymdeithas Ffisiotherapyddion Siartredig mewn Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff; ac Aelod o Fwrdd Gwrth Gyffuriau'r DU. Mae hi hefyd yn Aelod o Fwrdd Gemau'r Gymanwlad Cymru.

Ar ei phenodiad, dywedodd Nicola: 

"Rwy'n hapus iawn o gael fy enwi'n Chef de Mission ar gyfer Tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2022. Mae'n anrhydedd enfawr ac rwy'n gyffrous iawn o gael bod yn rhan o deulu Tîm Cymru wrth i ni helpu i greu amgylchedd i'n hathletwyr berfformio hyd orau eu gallu."

"Rwy'n credu y gallai Birmingham fod yn Gemau arbennig iawn lle gall Cenhedloedd y Gymanwlad ddod at ei gilydd unwaith eto i ddathlu chwaraeon ar ôl bod ar wahân am gyfnod rhy hir. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at y flwyddyn nesaf."

Mae rôl academaidd yr Athro Nicola Philips yn cynnwys arwain MSc mewn Ffisiotherapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff a gwaith ymchwil, cyhoeddi a darlithio mewn meysydd fel adsefydlu yn dilyn anafiadau chwaraeon; effeithiau anafiadau ar reolaeth echddygol; a mesur adferiad gweithredol yn dilyn anaf wrth wneud chwaraeon – anafiadau i'r pen-glin yn benodol, sy'n cynnwys athletwyr o bob oed a gallu. Mae Nicki hefyd wedi cyhoeddi a darlithio ar ystyriaethau o ran moeseg ac uniondeb ym maes ymarfer ffisiotherapi chwaraeon. Yn 2019, dyfarnwyd OBE i Nicola am ei gwasanaethau ymroddedig i ffisiotherapi. 

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru: 

"Rydym yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Nicki fel ein Chef de Mission ar gyfer Gemau Birmingham. Bydd y 18 mis nesaf yn eithriadol o brysur, ond hefyd yn gyffrous iawn wrth i ni ddechrau cynyddu ein paratoadau ar gyfer Gemau 2022."

"Mae gan Nicki hanes cyfoethog o weithio ar Gemau'r Gymanwlad a'r Gemau Olympaidd, ac mae ei gwybodaeth a'i phrofiad yn golygu ei bod yn parhau i fod yn ased anhygoel i ni."

"Fel arfer, yr adeg hon o'r flwyddyn byddem yn gweld ein hathletwyr yn hyfforddi, yn cystadlu ac yn ceisio ennill eu lle ar gyfer y Gemau. Ond oherwydd y cyfyngiadau parhaus o ganlyniad i COVID-19, nid yw hyn wedi bod yn bosibl. Fodd bynnag, rydym ni yng Ngemau'r Gymanwlad Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein hathletwyr, hyfforddwyr, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, a theulu a ffrindiau i gyd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn y cyfnod cyn y Gemau nesaf. Er gwaethaf yr anawsterau rydym i gyd wedi'u hwynebu, rydym yn gwybod bod y penderfyniad i lwyddo yn parhau'n gryf ac rwy'n hyderus y bydd 2022 yn flwyddyn wych arall i Dîm Cymru."

"Rwy'n siŵr bod y newyddion am benodiad Nicki yn dod â rhywfaint o obaith a sicrwydd yn ystod y cyfnod hwn, wrth i'n tîm barhau i weithio'n galed y tu ôl i'r llenni gan baratoi Tîm Cymru ar gyfer y ffordd i Birmingham."

Cynhelir Gemau'r Gymanwlad 2022 ar draws gwahanol leoliadau yn Birmingham a ledled Gorllewin Canolbarth Lloegr rhwng 28 Gorffennaf ac 89 Awst. 

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy