Jamie Donaldson oedd y Cymro diwethaf i gynrychioli Ewrop yng Nghwpan Ryder yn ôl yn 2014, ond gyda meddylfryd llwyddiannus newydd wedi’i gyflwyno gan Golff Cymru, mae’r gobeithion yn uchel bod seren golffio nesaf Cymru rownd y gornel.
Dywed Gillian O’Leary – cyfarwyddwr perfformiad Golff Cymru – mai un o’i phrif dasgau ers symud o’i gwlad enedigol, Iwerddon, i Gymru yw newid meddylfryd rhai o’r golffwyr mae’n gweithio â hwy.
“Rydw i eisiau i golffwyr Cymru ganolbwyntio nid yn unig ar fod y gorau yng Nghymru, ond y gorau yn y byd,” meddai O’Leary, a ddechreuodd weithio i Golff Cymru bum mlynedd yn ôl ar ôl ymuno o Undeb Golff Merched Iwerddon.
“Mae’n bosib i unrhyw un ohonyn nhw gyflawni hynny, ond nid dim ond gyda thalent. Mae angen gwaith caled a dyfalbarhad.
“Dyna’r neges allweddol ydyn ni wedi ceisio ei mynegi i bawb yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Cael pobl i feddwl a breuddwydio ar raddfa fwy yw’r nod. Gyda’r meddylfryd hwnnw, pwy a ŵyr pa mor bell fyddan nhw’n gallu mynd?”
Un o uchafbwyntiau cyfnod Gillian yn Golff Cymru hyd yma yw gweithio gyda Chwaraeon Cymru er mwyn agor academi gêm fer yng Nghlwb Golff Parc yng Nghasnewydd.
Nod yr academi yw helpu pobl o bob gallu a chefndir ac mae’n canolbwyntio ar nifer o agweddau allweddol ar golffio, fel gyrru, tsipio a phytio.
Mae hefyd yn rhoi cyfle i olffwyr ymarfer ar arwynebau amrywiol.
“Yn gynharach eleni agorwyd academi gêm fer gennym yng Nghlwb Golff Parc. Roedd yn bartneriaeth rhyngom ni, Chwaraeon Cymru a Chlwb Parc, oedd wir eisiau gwneud i hyn ddigwydd,” meddai O’Leary, a gynrychiolodd Iwerddon am wyth mlynedd ar lefel ryngwladol hŷn.
“Fe wnaethon ni lwyddo i roi popeth at ei gilydd, hyd yn oed yn ystod Covid, a oedd yn gyflawniad gwych gan bawb.
“Roedd yn grêt ein bod ni wedi llwyddo i gyflawni hynny mewn amserlen dynn.
“Mae’n gyfleuster gwych a gobeithio y gall helpu i greu gwaddol i bawb cysylltiedig.
“Fe allwn ni, fel sgwad perfformiad uchel, ei ddefnyddio ac mae’n ddefnyddiol iawn oherwydd yr arwynebau a’r ansawdd uchel.
“Ond mae wedi’i gynllunio gan feddwl am gynhwysiant hefyd, fel bod posib ei ddefnyddio fel lle i bobl ag anableddau ddechrau ar eu siwrnai golffio.
“Rydw i’n teimlo ei fod yn esiampl o sut mae Golff Cymru yn gweithredu – gyda phawb yn dod at ei gilydd i greu cyfleuster sy’n hygyrch i bobl o bob cefndir a gallu."