Er mwyn sicrhau bod y broses ddynodi hon yn cael ei goruchwylio a'i llywodraethu'n briodol, mae Chwaraeon Cymru wedi sefydlu'r NSG. Bydd y grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru, Cyngor Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru a Llywodraeth Cymru.
Yn ddelfrydol dylid gwneud ceisiadau i’r grŵp drwy’r corff rheoli cenedlaethol. Agorodd y broses ymgeisio ddydd Iau 19eg Tachwedd.
Bydd yr amser rhwng gwneud y cais a’r penderfyniad yn dibynnu ar bob cais unigol a graddfa'r wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau dadansoddiad trylwyr o'r cyflwyniad.
Beth ddylai fod yn sail i geisiadau?
Wrth geisio dynodiad, rhaid i'r ymgeisydd ddangos pam mae'n angenrheidiol a pha gyfyngiadau yn rheolau cenedlaethol y coronafeirws sy'n atal y gweithgaredd rhag digwydd heb yr eithriad y mae dynodiad statws elitaidd yn ei ddarparu.
Wrth geisio dynodiad, rhaid dangos ei fod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau’r canlynol:
- nad yw athletwyr o dan anfantais gystadleuol oherwydd rheolau cenedlaethol y coronafeirws;
- cyfle cyfartal i athletwyr, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n dda neu sydd o dan anfantais, i gystadlu ar y lefelau uchaf yn eu camp;
- nid yw athletwyr sy'n ennill bywoliaeth o chwaraeon o dan anfantais ariannol oherwydd rheolau cenedlaethol y coronafeirws.
Rhaid i geisiadau nodi nifer yr athletwyr y ceisir y dynodiad ar eu cyfer, y math o ryngweithio a'r amgylchedd y byddai'r athletwyr yn hyfforddi neu'n cystadlu ynddo, a'r mesurau rhesymol a fyddai'n cael eu gweithredu i leihau’r risg o ddal a throsglwyddo'r coronafeirws, gan gynnwys ymgynghoriad a chytundeb perthnasol gyda darparwyr cyfleusterau/lleoliadau.
Nid oes hawl i gael y statws dynodedig perthnasol. Mae'n ymarfer barn sy'n seiliedig ar ganllawiau sy'n bodoli eisoes ac unrhyw gyngor y gallai'r grŵp ei geisio gan Lywodraeth Cymru a/neu Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Bydd diweddariadau’n cael eu darparu pan fyddant ar gael.