Skip to main content

Gwariant Cronfa Cymru Actif yn fwy na £500,000 bellach

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Gwariant Cronfa Cymru Actif yn fwy na £500,000 bellach

Mae’r cyllid i glybiau chwaraeon ledled Cymru sydd wedi’u taro'n galed gan y cyfyngiadau presennol wedi pasio'r marc £500,000 bellach – ac mae mwy i ddod.

Hyd yma, mae Cronfa Cymru Actif - a wnaed yn bosib diolch i Lywodraeth Cymru ac arian a gafodd ddiben newydd gan y Loteri Genedlaethol - wedi darparu mwy na hanner miliwn o bunnoedd i glybiau mewn angen ac mae £3.5m arall i'w rannu.

Mae'r grantiau hyn yn ychwanegol at y £600,000 a roddwyd ar ddechrau'r cyfyngiadau symud yn gynharach eleni drwy gyfrwng y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng.

Ond gyda chyfyngiadau symud lleol bellach yn cael eu gorfodi ledled Cymru a'r DU, mae Chwaraeon Cymru yn benderfynol o sicrhau bod mwy o glybiau'n goroesi ac yn gallu cynnig llefydd i bobl ar gyfer gweithgarwch corfforol a rhyngweithio cymdeithasol.

 

Roedd dwy elfen benodol i'r gronfa. Yn gyntaf, darparodd arian cyflym i ddiogelu clybiau a oedd mewn perygl o ddiflannu yng nghamau cynnar y cyfyngiadau symud.

Wedyn, helpodd glybiau i baratoi ar gyfer ailagor drwy eu galluogi i wneud y newidiadau oedd eu hangen i ddatgloi eu drysau'n ddiogel.

Ond gyda chyfyngiadau symud lleol wedi creu rheolau o'r newydd mewn rhannau o Gymru eisoes yr hydref yma, mae cyfarwyddwr cynorthwyol Chwaraeon Cymru Owen Hathway yn glir bod rhaid i'r ymateb barhau'n ddigon hyblyg i ymdopi ag amgylchiadau sy'n newid yn gyflym iawn.

Meddai: "Rydyn ni wedi bod yn falch iawn o'r camau cychwynnol a'r ffaith ein bod ni wedi gallu amddiffyn cymaint o glybiau.

"Rydw i wir yn credu y byddwn ni’n edrych yn ôl ar y cyfnod yma ac yn cydnabod bod degau ar filoedd o bobl wedi gallu dal ati i fod yn actif yn gorfforol – a dal ati i gymryd rhan mewn chwaraeon – am ein bod ni wedi gallu atal clybiau rhag cau.

"Yn ail, rydyn ni wedi gallu helpu clybiau i ddychwelyd at weithgarwch pan oedd yr amser yn iawn.

"Mae elfen diogelu’r angen wedi lleihau wrth i glybiau ddechrau dychwelyd at weithgarwch. Ond bydd angen i ni gadw'r ddwy elfen yma oherwydd, yn amlwg, mae angen i ni allu ymateb.

"Os bydd rhagor o gyfyngiadau symud, a bod angen cyllid brys ar bobl, bydd rhaid i ni ddiogelu a pharatoi. Yn anffodus, efallai y bydd rhaid i ni gamu ymlaen ac wedyn camu'n ôl wrth i wahanol fesurau gael eu rhoi ar waith."

Wrth i lawer o glybiau ar gyfer gwahanol chwaraeon ddychwelyd at ddarparu ymarfer corff, hyfforddiant ac, mewn rhai achosion, gemau hyd yn oed, roedd gwir angen y cyllid i sicrhau eu bod yn llefydd diogel unwaith eto.

Roedd hynny'n golygu gwario ar eitemau fel diheintyddion dwylo, cynhyrchion glanhau, dillad gwarchodol a rhwystrau corfforol i sicrhau cadw pellter cymdeithasol.

"Roedd hyder yn ffactor mawr," ychwanega Owen. "Roedd angen i bobl weld eu bod yn dychwelyd i amgylchedd diogel."

Ond nid dim ond diheintyddion dwylo a masgiau wyneb yw ffocws y gronfa. Anogir clybiau a chwaraeon i feddwl y tu allan i'r bocs os yw hynny'n golygu y gall mwy o bobl ddychwelyd at chwaraeon.

Os oes syniadau ar gyfer ffyrdd newydd o wneud pethau – pa mor radical bynnag – fe hoffai Chwaraeon Cymru gael clywed amdanynt.

Mae clybiau nofio wedi edrych ar logi cronfeydd dŵr, mae chwaraeon cyrtiau dan do wedi meddwl sut gallent ymdopi yn yr awyr agored dros y gaeaf yng Nghymru, ac mae clybiau o wahanol chwaraeon wedi ystyried sut gallent rannu cyfleuster.

"Os oes gan glybiau rai syniadau amgen am sut gallent ail-greu eu camp a darparu math gwahanol o ddarpariaeth o fewn cyfyngiadau'r coronafeirws, fe fydden ni’n hoffi clywed ganddyn nhw."

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy