Skip to main content

Gwobr i Tirion yr arwr tawel

Mae merch yn ei harddegau sydd wedi datblygu rygbi menywod a merched yn ardal y Bala ar ei phen ei hun mwy neu lai wedi cael ei henwi fel Arwr Tawel BBC Cymru ar gyfer 2020.

Dechreuodd Tirion Thomas, sy'n 19 oed, drwy sefydlu tîm rygbi i fenywod pan aeth i Ysgol y Berwyn, ac mae bellach yn hyfforddi tri grŵp oedran gwahanol o ferched yng Nghlwb y Bala. 

Er gwaethaf yr heriau niferus y mae 2020 wedi'u cyflwyno, mae Tirion wedi parhau yn fodel rôl i bobl ifanc eraill, gan roi o'i hamser yn hael i helpu eraill i fwynhau chwaraeon tra hefyd yn astudio Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae hi hefyd wedi troi ei llaw at helpu cyd-hyfforddwyr drwy greu rhwydwaith o hyfforddwyr ifanc.

 

A hithau wrth ei bodd gyda'i gwobr, dywedodd Tirion: "Mae derbyn y wobr hon yn fraint anhygoel ac rydw i mor ddiolchgar! Er nad oedd angen y wobr hon arnaf a doeddwn i'n sicr ddim yn ei disgwyl, mae bod yn hyfforddwr a gwirfoddoli yn rhywbeth rwy'n ei fwynhau ac yn ffynnu ynddo ac mae gwobr fel hon yn ei gwneud ychydig yn fwy gwerth chweil, gan fy helpu i gydnabod bod yr hyn rwy'n ei wneud yn gweithio ac yn cael yr effaith gadarnhaol honno ar eraill!”

Mae Tirion hefyd yn allweddol yn y gwaith o hyrwyddo'r Rhaglen Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru, sy'n cael ei chefnogi gan yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid a'i hariannu gan Chwaraeon Cymru. Dechreuodd ymwneud â'r rhaglen dair blynedd yn ôl, gan symud ymlaen yn fuan drwy'r rhengoedd i fod yn Llysgennad Ifanc Platinwm, ac fe'i penodwyd yn ddiweddar i Grŵp Llywio Llysgenhadon Ifanc Cenedlaethol Cymru.  

Mae Chwaraeon Cymru a'r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid yn hynod falch o lwyddiannau Tirion.

Dywedodd Aled Davies, Swyddog Datblygu'r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid: "Mae Tirion yn enghraifft berffaith o'r effaith y mae Llysgenhadon Ifanc yn ei chael ledled Cymru. Mae'n dangos y gofal a'r tosturi sydd gan Lysgenhadon Ifanc at bobl ifanc yn eu cymuned, gan gyflwyno sesiynau chwaraeon a chyfleoedd sy'n helpu'r bobl ifanc hyn i ddatblygu eu sgiliau corfforol a chymdeithasol mewn amgylchedd diogel a chadarnhaol.”

Ychwanegodd Claire Ewing, Swyddog Llywodraethu a Datblygu Pobl Chwaraeon Cymru: "Mae Llysgenhadon Ifanc wedi codi calon dros y flwyddyn ddiwethaf. Maent wedi bod yn hynod greadigol, wedi dangos gwytnwch aruthrol ac wedi chwarae rhan bwysig yn y ffordd y mae eu cymunedau'n dychwelyd yn ddiogel i gymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae stori Tirion yn 2020 yn ysbrydoliaeth i deulu'r Llysgenhadon Ifanc a'r sector chwaraeon ehangach.”

Cyflwynwyd y cynllun Llysgenhadon Ifanc am y tro cyntaf yng Nghymru yn 2010 fel gwaddol y cais llwyddiannus i gynnal Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Ers hynny, mae'r rhaglen wedi grymuso tua 19,000 o Lysgenhadon Ifanc fel modelau rôl sy'n annog eraill i rannu eu hangerdd at chwaraeon, gan ddatblygu cenhedlaeth o arweinwyr ifanc medrus. 

 

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy