Skip to main content

Helen Ward: Cydbwyso bod yn fam gyda sgorio goliau ar Sul y Mamau

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Helen Ward: Cydbwyso bod yn fam gyda sgorio goliau ar Sul y Mamau

Mae Helen Ward yn credu bod chwaraeon yn symud i'r cyfeiriad iawn o ran delio â beichiogrwydd a bod yn fam – ond ni fydd hynny'n ei hatal rhag poeni am weld ei phlant ei hun ar Sul y Mamau.

Mae’r ymosodwr eiconig o Gymru - sy'n dod yn agosach at ennill 100 o gapiau rhyngwladol dros ei gwlad - yn chwarae i Watford i ffwrdd yn Sunderland ddydd Sul.

Mae'n golygu taith hir yn ôl i lawr i'r de, a dim gwastraffu amser os yw hi am gael cardiau a chusanau gan Emily sy'n saith oed, a Charlie sy'n bedair oed.

“Dydw i ddim yn siŵr a fydda i hyd yn oed yn eu gweld ar Sul y Mamau," meddai. "Mae'r gic gyntaf am 12.30, felly efallai y byddaf yn ôl erbyn amser gwely!”

Nid yw canfod y cydbwysedd rhwng bod yn fam a chwaraeon elît yn dasg hawdd, yn yr un modd ag y gall ceisio sicrhau amser i wneud gweithgarwch corfforol o amgylch plant fod yn anodd i unrhyw fam.

Ond mae Ward yn credu bod pêl-droed a chwaraeon eraill yn gwella yn araf, hyd yn oed o'r adeg wyth mlynedd yn ôl pan oedd hi'n feichiog am y tro cyntaf.

Ers hynny, mae Serena Williams wedi ennill twrnamaint tenis y Gamp Lawn pan oedd hi'n feichiog, sylweddolodd y beiciwr o Gymru, Elinor Barker, ei bod yn feichiog tra’r oedd gyda thîm Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Tokyo y llynedd, ac mae Uwch Gynghrair y Merched (WSL) yn cyflwyno cymalau mamolaeth i gontractau chwaraewyr.

Unwaith y bydd gan athletwyr eu plant, yna mae llawer o chwaraeon yn mabwysiadu systemau mwy hyblyg sydd â'r nod o ddiogelu statws y mamau hynny o fewn y gamp a lefelau eu hincwm.

Y llynedd, cyflwynodd UK Sport ganllawiau beichiogrwydd swyddogol ar gyfer athletwyr Tîm Prydain Fawr am y tro cyntaf, gyda'r sefydliad yn dweud "na ddylai dechrau teulu a bod yn athletwr elît ddibynnu ar ei gilydd.”

Cynlluniwyd y canllawiau newydd i gefnogi athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd “cyn genedigaeth, yn ystod, ac ar ôl genedigaeth."

Dywedodd Ward, a allai gyrraedd carreg filltir ac ennill ei 100fed cap yn erbyn Ffrainc mewn gêm ragbrofol hollbwysig yng Nghwpan y Byd fis nesaf: "Ro'n i wastad yn meddwl ar ôl i mi gael teulu mai dyna fyddai'r diwedd i mi o ran pêl-droed, ond cyn gynted ag yr oeddwn i'n feichiog gydag Emily, ro'n i'n gwybod yn syth nad oeddwn i'n barod i roi'r gorau i chwarae.

"Diolch byth, fe lwyddais i gael fy hun yn ôl i lefel dda a pharhau â fy ngyrfa.”

Ond heb fawr o wybodaeth wrth law, mae Helen yn cyfaddef nad oedd yn siŵr beth oedd hi’n ei wneud.

“Doedd dim llawer o chwaraewyr yn cario ymlaen felly doedd dim llawer o brofiad perthnasol gan famau eraill i mi fanteisio arno. 

"Ro'n i'n ddigon ffodus i chwarae gyda Katie Chapman yn Arsenal ac roedd ganddi dri o blant, a Katie Sherwood, y bûm yn chwarae gyda hi dros Gymru.

"Mae Katie hefyd wedi cael tri o blant a daeth hi'n ôl ar ôl cael ei phlentyn cyntaf a'i hail. Felly, roedd gen i'r math yna o fodelau rôl, ond doedd dim llawer y gallech chi ddibynnu arnyn nhw, ac ychydig o wybodaeth, felly do’n i ddim yn siŵr beth o'n i’n ei wneud gydag Emily.”

Elinor Barker gyda'r Ddraig Goch
Sylweddolodd y beiciwr o Gymru, Elinor Barker, ei bod yn feichiog tra’r oedd gyda thîm Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Tokyo y llynedd
Gyda phlentyn rydych chi'n dod yn fam yn gyntaf, sef eich blaenoriaeth wrth gwrs, ond do'n i ddim eisiau colli fy hunaniaeth fy hun
Helen Ward, peldroediwr Cymru

Parhaodd Helen i hyfforddi nes ei bod wedi mynd 13 wythnos gyda'i beichiogrwydd ac yna mae'n cyfaddef ei bod wedi "stryffaglo drwyddi a gobeithio am y gorau.”

Erbyn iddi gael mab Charlie, roedd hi yng nghanol cwblhau gradd ysgrifennu a darlledu chwaraeon felly penderfynodd dreulio amser yn ymchwilio i feichiogrwydd, babanod, bod yn fam a chwaraeon elît.

Y canlyniad oedd ei blog ei hun yn manylu ar ei phrofiadau hi a phrofiadau pobl eraill y gwnaeth eu cyfweld.

"Fe wnaeth weithio i mi ac roedd yn fy nghadw i'n gall hefyd gan fod gen i'r amser hwnnw. 

"Gyda phlentyn rydych chi'n dod yn fam yn gyntaf, sef eich blaenoriaeth wrth gwrs, ond do'n i ddim eisiau colli fy hunaniaeth fy hun.

"Felly, drwy gael y gampfa a'r ymarfer corff i fynd yn ôl ato, tra'r oeddwn dal yn fam i Emily, ac yn amlwg yn cario Charlie, roedd hynny'n rhyw fath o 'amser i fi' a dyma fy amser i fod yn Helen Ward, y pêl-droediwr.

"Er nad o’n i’n chwarae fel y cyfryw, roedd yn dal yn braf cael yr amser hwnnw i fod yn fi a gweithio arna i'n hun.” 

Mae Ward yn teimlo bod y sefyllfa o ran mamau sy'n feichiog mewn chwaraeon wedi gwella, ond mae diffyg gwybodaeth hawdd ei defnyddio o hyd.

"Nid yw ar gael yn amlwg, ond rwy'n credu mai'r peth pwysicaf, yn sicr mewn pêl-droed, yw bod gan eich timau meddygol, boed hynny'r meddygon, y ffisiotherapyddion, neu'r hyfforddwyr cryfder a chyflyru, lawer mwy o wybodaeth.”

Yn yr un modd, mae'n teimlo bod cynnydd wedi'i wneud o ran amddiffyniadau cyfreithiol ond mae ffordd i fynd o hyd.

"Pan o'n i'n feichiog, dim ond chwarae rhan-amser o'n i ac fe wnes i ganslo fy nghontract, ac rwy'n gwybod mai dyna’r dewis iawn i mi a’r clwb.

“Fe wnes i ddweud, 'dydw i ddim am allu chwarae i chi a dydw i ddim eisiau eich dal chi’n ôl. Dydw i ddim eisiau i chi gael trafferthion ariannol pan allech chi roi’r arian hwnnw i chwaraewr arall.’

"Oherwydd y deddfau newydd sydd wedi dod i rym, yn enwedig ym maes pêl-droed menywod o ran mamolaeth, mae’r clybiau dan gontract i gefnogi chwaraewyr a chynnig tâl mamolaeth.

"Mae'n ddechrau da i FIFA, UEFA a'r FA, ond rwy'n credu bod lle i wella o hyd.”

Yna, mae'r cwestiwn mawr.

Os bydd Helen yn ennill ei 100fed cap yn fuan, a fydd hi'n mynd ar y cae gydag Emily yn dal un llaw a Charlie yn dal y llall?

“Mae hwnna'n gwestiwn da, dwi'm yn gwybod. Byddai'n rhaid i mi ddechrau'r gêm er mwyn i hynny ddigwydd, ond byddai’n hyfryd os bydd yn digwydd, fe fyddwn i'n hoffi iddyn nhw fod yn y stadiwm mewn rhyw ffordd.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy