Skip to main content

Hygyrchedd ac ymarfer corff

Wrth agor cylchgrawn rai dyddiau’n ôl, roedd ei gynnwys yn drawiadol; tudalennau o fodelau ifanc, main ac erthyglau am iechyd. Fel rhywun sydd ag anabledd, rwy’n ei gweld yn anodd iawn uniaethu â phobl sydd â’r math o gorff y gallwn ond breuddwydio amdano, ac nid oedd yr erthyglau ar ffitrwydd a bwyta’n iach yn helpu llawer. Meddyliais i mi fy hun: does dim ots beth rwy’n ei fwyta, alla’ i ddim gwneud yr ymarferion sydd yn yr erthyglau, ac ni fydda’ i fyth yn edrych fel un o’r modelau hyn.

Roeddwn i’n meddwl ei fod braidd yn drist fy mod i’n teimlo fel yna, oherwydd mae bod yn iach ac yn heini yn rhywbeth unigol, ac ni ddylwn i fod yn cymharu fy hun â phobl eraill mewn ffordd negyddol. Penderfynais yn y fan a’r lle y byddwn i’n rhannu fy mhrofiad a’m myfyrdodau â chi, oherwydd rwy’n siŵr fod yna bobl eraill sy’n teimlo’n debyg i fi.

Dychmygwch mai fi ydych chi. Rydw i’n bwyta’n weddol iach, yn fy marn i. Peidiwch â chamddeall, rydw i’n hoffi pitsa neu bryd parod ar nos Sadwrn, a fyddwn i ddim yn gwrthod gwydraid o win. Ond rydw i’n fath o berson sy’n cael grawnfwyd i frecwast, cinio ysgafn a llawer o lysiau gyda swper. Felly, gadewch i ni ddweud fy mod i eisiau colli pwysau. Sut ydw i’n mynd i wneud hynny os nad ydw i eisiau dilyn diet neu’n meddwl na fydd diet yn gwneud llawer o wahaniaeth? Gallwn i roi’r gorau i gael prydau parod, am wn i, ond dim ond hanner y pos yw beth rydych chi’n ei fwyta. Mae’r hanner arall yn ymwneud â pha mor egnïol rydych chi.

Pippa Britton

 

‘Cadw’n heini’ ydy lle mae’r broblem fawr yn codi i mi a llawer o bobl eraill. Rydw i’n defnyddio cadair olwyn, ac mae hynny’n rhoi llawer o gyfyngiadau ar ba fath o ymarfer corff y gallaf ei wneud. Ond, mewn gwirionedd, does dim angen llawer o gyfyngiadau corfforol i wneud i gadw’n heini deimlo’n her. Os oes gennych chi bengliniau gwael, poen yn eich cefn neu unrhyw fath o anabledd, beth allwch chi ei wneud?

Os nad ydych chi’n gwneud unrhyw fath o ymarfer corff o gwbl, y peth pwysicaf y gallwch ei wneud ar gyfer eich iechyd yw dechrau arni. Gall gweithgareddau ddechrau’n sylfaenol iawn, fel cerdded yn eich unfan tra’r ydych chi’n aros i’r tegell ferwi, neu ddringo’r grisiau. Gallwch greu eich pwysau eich hun hefyd, gan ddefnyddio tuniau ffa neu hen gynwysyddion llaeth wedi’u llenwi â dŵr. Ond, yn bwysicaf oll, symudwch ym mha ffordd bynnag y gallwch. Os gwnewch chi hynny bob dydd, cewch eich synnu faint y gallwch wella dros amser.

Rhodda’ i enghraifft i chi. Yn ystod y cyfnod clo, doeddwn i ddim yn gallu mynd y tu allan, felly roedd ymarfer corff yn anodd iawn. Dechreuais i weithio gartref o flaen cyfrifiadur, gyda Zoom a Teams wedi’u cysylltu’n dragywydd, i bob pwrpas. Dechreuais i deimlo fy mod yn colli’r cryfder a’r ffitrwydd y byddwn fel arfer yn eu cael drwy wthio fy nghadair olwyn. I fynd i’r afael â hyn, dechreuais i wneud ymwthiadau (push-ups). Nawr, cyn i chi feddwl, ‘Arhoswch funud, alla’ i ddim gwneud hynny’, gwrandewch am funud. Dechreuais i drwy fod yn gefnsyth a gwthio i ffwrdd o’r wal. Wrth i amser symud ymlaen, dechreuais i wthio i ffwrdd o’r wyneb gweithio yn y gegin, ac yna rheilen y gwely. Yn raddol, rydw i’n symud yn agosach at y llawr i wneud y pethau y byddai’r rhai sy’n arfer mynd i’r gampfa yn eu galw’n ymwthiadau. Fyddan nhw byth yn edrych fel ‘rhai go iawn’, oherwydd nid yw fy nghoesau’n fy nghynnal yn yr un ffordd, ond fy fersiwn i ydyn nhw – ac rwy’ wedi gwella dros amser. Rwy’n teimlo’n gryfach ac yn fwy heini, ac mae fy nghryfder craidd wedi gwella, sy’n rhoi sylfaen dda ar gyfer pethau eraill. Efallai ei fod yn un peth bach, ond mae’n fy helpu i aros mewn amrediad pwysau iach.

Pippa Britton

 

Fy mhwynt yw hyn: does dim angen i chi ddechrau gwneud ymwthiadau, ond mae angen i chi archwilio beth allwch chi ei wneud. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n hyderus – does dim angen i chi ddechrau gwneud ymarfer corff yn gyhoeddus hyd yn oed. Beth am ddawnsio i’ch hoff gân – hyd yn oes os byddwch chi’n gwneud hynny’n debyg i fi, drwy chwifio eich breichiau’n wyllt dros bob man!

Gwnewch beth allwch chi yma mha ffordd bynnag y gallwch. Pan fyddwch yn teimlo y gallwch chi wneud rhywbeth, gallwn edrych ar fynd allan ac ymuno â phobl eraill. Rhowch gynnig ar Soffa i 5k neu dechreuwch wneud math o chwaraeon. Wrth i amser fynd heibio, fe welwch chi ba mor dda y gall ymarfer corff fod i’ch iechyd corfforol a’ch iechyd meddwl, a pha mor wych ydyw – mewn byd ar ôl COVID – i allu mynd allan a threulio amser â phobl iach sydd â meddylfryd tebyg i chi.

Bydd mwy gennyf i cyn bo hir. Cadwch olwg ar y blog!

Hwyl fawr a phob lwc gyda'ch taith i bwysau iach!