Skip to main content
  1. Hafan
  2. Nôl yn y gêm

Nôl yn y gêm

Mae'n amser bod nôl yn y gêm.

Wrth i Gymru barhau i ddod allan o'r cyfyngiadau symud, mae'r genedl yn cael ei hannog i fod 'nôl yn y gêm' drwy fanteisio i'r eithaf ar bob cyfle i fod yn actif.

Diolch i'r sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n gwella, mae oedolion a phlant yng Nghymru bellach yn gallu dychwelyd i'r rhan fwyaf o'r gweithgareddau chwaraeon a ffitrwydd roeddent yn eu mwynhau gymaint cyn i'r pandemig daro.

Os yw hynny'n golygu bod yn rhan o dîm unwaith eto, cyflawni'r teimlad gwych hwnnw gewch chi o ymarfer corff da, dal i fyny gyda ffrindiau, rhyddhau eich ochr gystadleuol, neu'r pleser syml o gael pêl mewn twll, mae'n amser i Gymru gael hwyl eto.

 

I helpu i ledaenu’r gair, dyma dair ffordd y gallwch chi gefnogi ar y cyfryngau cymdeithasol... 

  1. Sut: Negeseuon am gyfleusterau sy’n agor a sut gall pobl ddychwelyd at chwaraeon.
  2. Pam: Negeseuon yn annog pobl yn eich cymuned i ailgydio yn y gêm ac ailgysylltu â’u hoff gampau.
  3. Pwy: Rhannu straeon positif a chalonogol am eich profiadau ’nôl yn y gêm.

Cofiwch ddefnyddio #NôlynyGêm bob tro mewn negeseuon.

  

Bod yn Actif – Y Manteision i bawb

Gyda phobl yn treulio mwy o amser gartref, a gyda rhai cyfleusterau hamdden a chwaraeon yn dal i wynebu…

Darllen Mwy

Statws chwaraeon a gweithgareddau ar ôl y cyfyngiadau symud

Ydi eich camp chi’n cael ailddechrau? Sut mae cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Darllen Mwy