Skip to main content

Chwaraewr tennis 70 oed dall nôl yn y gêm

Ar ôl i’r sêr tennis gorau ddychwelyd i fwrlwm a chyffro cyrtiau Wimbledon, mae menyw ddall o Bontprennau yn dychwelyd ei hun i’r gamp raced ar ôl cysgodi am fwy na blwyddyn oherwydd Covid-19. 

Cyn i'r pandemig ddechrau, roedd Maggie Rees, 70 oed, wedi bod yn chwarae tennis ers pedair blynedd. Yn cael ei chategoreiddio fel difrifol ddall, sy'n golygu bod ei golwg yn wan iawn i ddim golwg o gwbl, roedd Maggie wedi bod yn cysgodi drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, ac felly nid oedd yn gallu mynychu hyfforddiant ar gyfer y gamp mae mor hoff ohoni.

Gyda’r cyfyngiadau bellach yn cael eu codi i ganiatáu chwaraeon dan do, mae Maggie yn un o lawer o bobl ledled Cymru sydd nôl yn y gêm gyda sesiynau'n cael eu cynnal yn benodol ar gyfer pobl â nam ar eu golwg.

Mae'r chwaraewr tenis 70 oed, Maggie Rees o Pontprennau yn gwenu ar y cwrt tennis.
Maggie Rees

 

Mae ein hymchwil yn awgrymu bod mwy na hanner yr oedolion yng Nghymru yn colli'r mathau o weithgarwch roeddent yn gallu eu gwneud cyn i'r pandemig ddechrau. Er gwaethaf hyn, roedd mwy na hanner y bobl oedd yn ynysu oherwydd cyflwr neu salwch hirsefydlog yn teimlo'n bryderus am adael y tŷ ar ôl y pandemig, gyda 60 y cant o'r holl oedolion yn teimlo'n bryderus am ymarfer yn agos at bobl eraill.

Er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u cymell i ddychwelyd i ymarfer, lansiwyd ein hymgyrch #NôlynyGêm gyda'r nod o ysbrydoli pobl i syrthio mewn cariad â chwaraeon ac ymarfer eto yr haf yma.

Mae'r sesiynau yng Nghaerdydd y mae Maggie yn eu mynychu yn rhan o'r Rhaglen Cwrt Agored, sy’n cael ei chyllido gan y Gymdeithas Tennis Lawnt a sefydliad Tennis Cymru, a'u nod yw hyrwyddo a darparu cyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan yn y gamp raced. 

Mae'r chwaraewr tenis 70 oed, Maggie Rees o Pontprennau yn gwenu ar y cwrt tennis.
Maggie Rees

 

Wrth drafod effeithiau cysgodi yn ystod y pandemig, dywedodd Maggie: “Fe wnaeth fy niddordeb i mewn chwarae tennis leihau yn ystod y cyfnod clo a phan ddychwelodd tennis, roedd gen i feddyliau negyddol am ddychwelyd i chwarae. Doeddwn i ddim wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw bobl eraill a doeddwn i ddim wedi bod o fy nghartref heblaw am i ymweld â theulu agos yn lleol. Roeddwn i’n nerfus ac yn teimlo'n bryderus ond fe es i i'r sesiwn cyntaf a chadw fy mhellter oherwydd bod angen. 

“Er gwaethaf hyn, rydw i wedi dal ati i fynychu bob wythnos ac rydw i’n falch o weld fy hen ffrindiau eto. Mae fy mhryderon i wedi mynd bellach ac mae wedi codi fy ysbryd i. Nid dim ond gweithgaredd yw chwaraeon, mae'r bobl rydyn ni'n ymarfer gyda nhw a'r bobl rydyn ni'n chwarae gyda nhw yn ffactorau pwysig sy'n cyfrannu at fwynhau'r profiad cyfan. "

Mae adroddiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod pobl ledled Cymru yn dal i roi gwybod am deimladau o unigedd ac unigrwydd ond bod cynyddu gweithgarwch corfforol gydag elfen gymdeithasol yn effeithiol i wella canlyniadau iechyd meddwl.

Wrth drafod buddion dychwelyd i chwaraeon, dywedodd Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: “Yn Chwaraeon Cymru, rydyn ni’n annog pobl ledled Cymru i fod nôl yn y gêm yn eu ffordd eu hunain, boed drwy fod yn rhan o dîm eto, mynd allan ac ailgysylltu â'r gymuned leol, cael y teimlad braf hwnnw ar ôl ymarfer neu ddim ond cael hwyl. Gyda Wimbledon yn dychwelyd yr wythnos yma am y tro cyntaf mewn dwy flynedd, mae stori Maggie yn esiampl ysbrydoledig o’r effeithiau cadarnhaol y mae ymarfer corff yn eu cael ar les corfforol a meddyliol.”

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad

Mae pobl ifanc yn gwirioni ar dennis bwrdd, diolch i dechnoleg fodern

Mae Clwb Tenis Bwrdd Cynffig yn defnyddio technoleg laser modern i helpu i wneud eu camp yn fwy deniadol…

Darllen Mwy

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Darllen Mwy

Chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan

Dyma gyngor y Sefydliad Chwaraeon Mwslimaidd ar gyfer cyflwyno a chymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer…

Darllen Mwy