Skip to main content

Pobl yn cael eu hannog i ailddechrau ymarfer corff wrth i Gymru symud i lefel rhybudd un

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Pobl yn cael eu hannog i ailddechrau ymarfer corff wrth i Gymru symud i lefel rhybudd un

Gyda haf o chwaraeon o’n blaenau ac wrth i gyfyngiadau Covid Cymru gael eu symud i lefel rhybudd un dros y penwythnos, mae pobl ar draws y wlad yn cael eu hannog i ailafael yn y campau a’r gweithgareddau roedden nhw’n eu mwynhau cyn y pandemig.

Mae gwaith ymchwil gan Chwaraeon Cymru yn awgrymu bod mwy na hanner oedolion Cymru yn gweld eisiau’r mathau o weithgarwch corfforol roedden nhw’n gallu eu gwneud cyn y pandemig. Felly, gan fod symud i lefel rhybudd un yn golygu bod y rhan fwyaf o gyfyngiadau sy’n ymwneud â chwaraeon a gweithgareddau wedi’u llacio, mae Chwaraeon Cymru yn gobeithio y bydd pobl ar draws y wlad yn manteisio ar hyn ac yn ailafael mewn chwaraeon i’r un graddau ag o’r blaen ar draws yr holl sbectrwm.

Mae rhaglen frechu lwyddiannus Cymru hefyd yn hwb i hyder y genedl pan ddaw hi at ymarfer corff, gyda thros 45 y cant o oedolion yn teimlo’n fwy cadarnhaol am gymryd rhan yn sgil llwyddiant y rhaglen frechu. Ar hyn o bryd, mae Cymru ar y blaen i weddill gwledydd Prydain o ran cyfanswm y boblogaeth sydd wedi cael y brechlyn cyntaf, gydag o leiaf 72% o’r boblogaeth, neu 2.27 miliwn o bobl, wedi cael eu dos cyntaf.

Haf o Chwaraeon

Wrth drafod manteision dychwelyd i wneud chwaraeon, meddai Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Mae bwrlwm Ewro 2020 a phencampwriaeth Wimbledon wedi rhoi cychwyn ar haf sy’n llawn chwaraeon rhagorol, a gyda Gemau Olympaidd 2020, a gafodd eu gohirio llynedd, yn dechrau yn Siapan yr wythnos hon, mae cymaint mwy i ddod.

Yn hynny o beth, rydyn ni’n annog pobl Cymru i fod nôl yn y gêm yn eu ffordd eu hunain, p’un a yw hynny’n golygu bod yn rhan o dîm unwaith eto, mynd allan i ailgysylltu â’r gymuned leol, mwynhau’r teimlad ar ôl gwneud ymarfer corff, neu ddim ond cael hwyl.

“Wrth gwrs, rydyn ni’n deall bod llawer o bobl yn dal i deimlo rhywfaint o bryder ynghylch gwneud ymarfer corff yn agos at bobl eraill, rhywbeth sy’n cael ei ddangos gan ein gwaith ymchwil, ond mae cymaint o ffyrdd o gymryd rhan mewn ymarfer corff yn ein cymunedau gydag amrywiaeth o ddosbarthiadau a gweithgareddau wedi’u datblygu’n benodol dros y flwyddyn ddiwethaf i ddarparu ar gyfer yr holl anghenion a gofynion o ganlyniad i’r pandemig. 

“Cofiwch wneud rhywfaint o waith ymchwil am beth sydd ar gael yn lleol fel bod modd i chi gymryd rhan mewn ffordd sy’n teimlo’n gyfforddus i chi. Ac os yw’n well gennych ddianc oddi wrth y torfeydd, mae digonedd o olygfeydd hardd i’w harchwilio ar droed neu ar feic. Yr hyn sy’n bwysig yw cael pobl i symud eto.”

 #NôlynyGêm

Er mwyn cynorthwyo â sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u hysgogi i fynd nôl i ymarfer, mae Chwaraeon Cymru wedi lansio ymgyrch #NôlynyGêm gyda’r nod o ysbrydoli pobl i syrthio mewn cariad â chwaraeon ac ymarfer corff unwaith eto yr haf hwn. 

I gael rhagor o wybodaeth am sut allwch chi fod nôl yn y gêm, ewch i https://www.chwaraeon.cymru/nol-yn-y-gem/ neu defnyddiwch yr hashnod #NôlynyGêm ar y cyfryngau cymdeithasol.
 

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy