Skip to main content

Hyfforddwr ffitrwydd o Ystrad Mynach yn cefnogi’r gymuned i wella iechyd meddwl ar ôl y cyfyngiadau symud

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Hyfforddwr ffitrwydd o Ystrad Mynach yn cefnogi’r gymuned i wella iechyd meddwl ar ôl y cyfyngiadau symud

Mae hyfforddwr ffitrwydd o Ystrad Mynach yn rhannu pwysigrwydd manteision iechyd meddwl ymarfer corff wrth i bobl ledled Cymru fod nôl yn y gêm wrth i gyfyngiadau ar chwaraeon godi.

Mae Haydn Pritchard, 60 oed, hyfforddwr personol a hyfforddwr ffitrwydd, yn rhannu sut mae wedi bod yn cefnogi pobl drwy gydol y cyfyngiadau symud a nawr bod dosbarthiadau ymarfer corff yn gallu ailddechrau, sut mae'n annog magu hyder a hunan-barch ymhlith pobl dros 55 oed.

Ar ôl ymddeol wedi 35 mlynedd yn y lluoedd arfog, dychwelodd Haydn i'w dref enedigol yng Nghwm Rhymni i ddarganfod diffyg cefnogaeth ar gael i bobl hŷn yn y pentref.

Mae ein hymchwil yn awgrymu bod mwy na 50% o bobl dros 55 oed yn ymarfer i reoli eu hiechyd meddwl, ond gyda 22% o'r un ddemograffeg yn dweud eu bod wedi lleihau eu gweithgarwch corfforol yn ystod y pandemig oherwydd cysgodi a chyfyngiadau symud, mae Haydn yn un o'r rhai sydd eisiau cefnogi ei gymuned.

Aelod FitYard .
Aelod FitYard .

 

Gan ddefnyddio ei angerdd dros iechyd corfforol a meddyliol positif, mae Haydn bellach yn rhedeg FitYard, gan helpu cannoedd o bobl ym mhentref Ystrad Mynach a hyd yn oed ymhellach i ffwrdd drwy ddosbarthiadau ar-lein.

Wrth drafod y cysylltiad rhwng iechyd corfforol a meddyliol, dywedodd Haydn: “Roeddwn i’n swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl gwirfoddol yn y fyddin ac rydw i wedi gweld yn uniongyrchol y manteision mae ymarfer corff yn eu cynnig i les. Mae marchnad enfawr i bobl ifanc mewn ffitrwydd drwy gampfeydd a dosbarthiadau, ond dim llawer ar gyfer y bobl hŷn yn ein cymuned ni. Fel rhywun wedi ymddeol fy hun, rydw i’n gwybod nad ydi pawb yn gyfforddus mewn campfa, yn enwedig ar hyn o bryd yn ystod y pandemig.

“Ers dechrau’r cyfnod clo cyntaf, mae llawer o’n cymuned ni wedi bod yn cysgodi, mae llawer o’r rheini’n bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain ac a fyddai wedi mynd am gyfnodau hir heb unrhyw gyswllt ag unrhyw un. Yn ogystal â chynnal ein dosbarthiadau ar-lein, fel bod pobl yn gallu cymryd rhan o’u hystafelloedd byw a’u gerddi, fe wnaethon ni hefyd sefydlu gweithgareddau adloniant wythnosol fel bingo i helpu pobl i gadw mewn cysylltiad.”

Mae cyn-athro, Roger Price, 73 oed, a chyn-nyrs, Rose Batton, 71 oed, y ddau wedi ymddeol, ymhlith y nifer fawr o bobl sydd wedi bod yn mynychu'r dosbarthiadau FitYard gyda Haydn. Gan rannu ei brofiadau, dywedodd Roger: “Ddwy flynedd yn ôl, doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu gwneud naid seren, a nawr, yn 73 oed, rydw i’n rhedeg pellteroedd o 10km. Mae’r dosbarthiadau yma wedi rhoi strwythur a chymhelliant i mi na fyddwn i wedi ei gael fel arall, maen nhw wedi trawsnewid fy mywyd i. Mae’r cyfnodau clo wedi bod yn brofiadau ynysig iawn ac ochr yn ochr â damwain gefais i gan dorri fy mhigwrn, roeddwn i mewn perygl o fod yn isel iawn o ran fy agwedd i at bethau. Fe wnaeth y dosbarthiadau fy nghadw i i fynd ac maen nhw wedi gwella fy lles yn fawr. ”

FitYard's Haydn Pritchard.
FitYard's Haydn Pritchard.

 

Mae Rose, nyrs adsefydlu cardiaidd wedi ymddeol, yn gwybod yn iawn am y manteision y gall gweithgarwch eu cynnig i bobl. Meddai Rose: “Y dosbarthiadau yma ydi’r glud yn ein cymuned ni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yma. Mae gen i ofn meddwl sut brofiad fyddai e wedi bod hebddyn nhw. Yn bersonol, rydw i wedi teimlo llawer o ofn a thensiwn o amgylch y pandemig ond mae gallu siarad am hyn gyda phobl o'r un anian, pobl yn fy ngrŵp oedran i, mae wedi bod o help mawr ac rydw i'n cael fy atgoffa ein bod ni i gyd yn hyn gyda'n gilydd.”

Gyda’r cyfyngiadau wedi'u codi i ganiatáu ymarfer corff wedi'i drefnu yn yr awyr agored a dan do, chwaraeon tîm a dosbarthiadau ffitrwydd grŵp, bydd pobl ledled Cymru yn gallu mwynhau gweithgareddau grŵp eto, sy'n hanfodol i les ein cymunedau ni. 

Wedi’i chalonogi gan sut bydd llacio’r cyfyngiadau’n agor chwaraeon i fwy o bobl, dywedodd Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: “Mae wir yn bwysig ein bod ni’n tynnu sylw at fanteision gweithgarwch corfforol i les corfforol a meddyliol. Drwy gydol cyfnod anhygoel o heriol, mae'r teulu chwaraeon yng Nghymru wedi dangos amynedd mawr, gan weithredu'n gyfrifol ac yn greadigol i helpu i gefnogi ffyrdd iach o fyw yn ystod y pandemig.

“Dim ond un enghraifft yw’r straeon cadarnhaol yma sy’n cael eu rhannu gan y gymuned yn Ystrad Mynach o’r grwpiau ledled Cymru sydd wedi bod yn cefnogi ei gilydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yma. Rydyn ni’n hynod falch bod gweithgareddau a chwaraeon wedi'u trefnu yn gallu ailddechrau'n ddiogel eto."

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad

Mae pobl ifanc yn gwirioni ar dennis bwrdd, diolch i dechnoleg fodern

Mae Clwb Tenis Bwrdd Cynffig yn defnyddio technoleg laser modern i helpu i wneud eu camp yn fwy deniadol…

Darllen Mwy

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Darllen Mwy

Chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan

Dyma gyngor y Sefydliad Chwaraeon Mwslimaidd ar gyfer cyflwyno a chymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer…

Darllen Mwy