Skip to main content

Sbrintiwr yn ei arddegau sydd â pharlys yr ymennydd yn anelu am y Gemau Paralympaidd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sbrintiwr yn ei arddegau sydd â pharlys yr ymennydd yn anelu am y Gemau Paralympaidd

Wrth i Baralympwyr gorau’r byd baratoi i gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol yn Tokyo yr wythnos hon, mae bachgen yn ei arddegau sydd â pharlys yr ymennydd yn gobeithio cystadlu mewn Gemau Paralympaidd yn y dyfodol wrth iddo sbrintio tuag at lwyddiant.

Mae gan Tomi Robert Jones o’r Mynydd Bychan yng Nghaerdydd barlys yr ymennydd, sef cyflwr sy’n effeithio ar ei olwg, ei symudiad a’i symudedd cyffredinol ar ochr dde ei gorff. Er hynny, mae’r bachgen 15 oed wedi bod yn angerddol am redeg ers oedd yn naw oed.

Heb fod yn un i adael i’w anabledd ei ddal yn ôl, mae Tomi yn sbrintiwr, ac mae’n ymarfer sawl gwaith yr wythnos. Ar ôl cynrychioli Cymru yn y Pencampwriaethau Athletau Iau Cenedlaethol yn ddiweddar, mae Tomi yn paratoi i gystadlu yng Ngemau Ysgol 2021 ym mis Medi. 

Mae Tomi yn rhan o Raglen Llwybr Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru, cynllun sydd wedi’i greu i gynnig hyfforddiant a chefnogaeth i bobl ifanc fel Tomi i gyrraedd eu potensial ym maes chwaraeon. 

Ar ôl i ymarferion ddod i stop am bron i flwyddyn yn ystod y cyfnod clo, mae Tomi bellach wedi dychwelyd i ymarfer gyda’i hyfforddwr, sef sbrintiwr Paralympaidd Cymru ac athletwr Gemau’r Gymanwlad Tîm Cymru, Morgan Jones. 

Morgan Jones ar drac athletau
Sbrintiwr Paralympaidd Cymru ac athletwr Gemau’r Gymanwlad Tîm Cymru, Morgan Jones yw hyfforddwr Tomi

 

Wrth siarad am fod ’nôl yn y gêm, meddai Tomi: “Dw i mor hapus fy mod yn cael ymarfer ar drac athletau eto. Yn ystod y cyfnod clo, roeddwn i’n gallu defnyddio ein gardd a’r parc lleol, ond ar y trac ymarfer dw i’n perfformio orau. Ro’n i’n gweld eisiau’r ochr gymdeithasol y gymuned o ffrindiau dw i’n ymarfer gyda nhw, felly mae’n grêt bod ’nôl. Dw i’n edrych ymlaen at wylio’r Gemau Paralympaidd, mae’r sbrintiwr o Gymru, Jordan Howe, yn ysbrydoliaeth fawr i fi. Rhyw ddydd, dw i’n gobeithio cystadlu fel sbrintiwr yn y Gemau Paralympaidd.” 

Wrth drafod manteision dychwelyd i wneud chwaraeon, meddai Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Yn Chwaraeon Cymru, rydyn ni’n annog pobl i fod ’nôl yn y gêm yn eu ffordd eu hunain, p’un a yw hynny’n golygu bod yn rhan o dîm unwaith eto, mynd allan i ailgysylltu â’r gymuned leol, mwynhau’r teimlad ar ôl gwneud ymarfer corff, neu ddim ond cael hwyl. Wrth i ni weld y Gemau Paralympaidd ar ein sgriniau ar hyn o bryd a’r gobaith i ysbrydoli cenedl, mae dyhead Tomi i gystadlu yno ei hunan rhyw ddydd yn ein hatgoffa ni y gall pawb anelu’n uchel gyda’u breuddwydion ym maes chwaraeon.”

Er mwyn cynorthwyo â sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u hysgogi i fynd nôl i ymarfer, mae Chwaraeon Cymru wedi lansio ymgyrch #NôlynyGêm gyda’r nod o ysbrydoli pobl i syrthio mewn cariad â chwaraeon ac ymarfer corff unwaith eto yr haf hwn. 

I gael rhagor o wybodaeth am sut allwch chi fod ’nôl yn y gêm, ewch i https://www.chwaraeon.cymru/nol-yn-y-gem/ neu defnyddiwch yr hashnod #NôlynyGêm ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bachgen yn ei arddegau a chanddo Syndrom Down yn codi pŵer eto ar ôl llythyr emosiynol yn ystod y cyfyngiadau symud

Yr wythnos hon, wrth i godwyr pŵer gorau'r byd gyrraedd rowndiau terfynol y Gemau Olympaidd, mae bachgen…

Darllen Mwy

Chwaraewr tennis 70 oed dall nôl yn y gêm

Ar ôl i’r sêr tennis gorau ddychwelyd i fwrlwm a chyffro cyrtiau Wimbledon, mae menyw ddall o Bontprennau…

Darllen Mwy

Hyfforddwr pêl droed o Gaerdydd yn helpu Mwslimiaid i ailgysylltu â chwaraeon wrth ymprydio

Gyda phobl ledled Cymru nôl yn y gêm wrth i’r cyfyngiadau ar chwaraeon godi, mae dyn o Gaerdydd sy’n…

Darllen Mwy

Goroeswr strôc nôl yn y gêm gyda bowls

Mae goroeswr strôc o Lantrisant yn ddim ond un o filiynau o bobl ledled Cymru sy'n edrych ymlaen at…

Darllen Mwy

Gŵr o Bontypridd y cafodd ei fywyd ei achub gan ei dîm pêl droed nôl yn y gêm

Ar ôl i Gymru ddod allan o’u grŵp am yr eildro yn olynol a'r Eidal wedi’u coroni’n bencampwyr Ewro 2020,…

Darllen Mwy

Hyfforddwr ffitrwydd o Ystrad Mynach yn cefnogi’r gymuned i wella iechyd meddwl ar ôl y cyfyngiadau symud

Mae hyfforddwr ffitrwydd o Ystrad Mynach yn rhannu pwysigrwydd manteision iechyd meddwl ymarfer corff…

Darllen Mwy