Skip to main content

Hyfforddwr pêl droed o Gaerdydd yn helpu Mwslimiaid i ailgysylltu â chwaraeon wrth ymprydio

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Hyfforddwr pêl droed o Gaerdydd yn helpu Mwslimiaid i ailgysylltu â chwaraeon wrth ymprydio

Gyda phobl ledled Cymru nôl yn y gêm wrth i’r cyfyngiadau ar chwaraeon godi, mae dyn o Gaerdydd sy’n Gymro a hefyd yn Fangladeshaidd yn helpu Mwslimiaid eraill i ailgysylltu â chwaraeon wrth ymprydio fel rhan o Ramadan.

Jalal Goni, 31, yw rheolwr a sylfaenydd Clwb Pêl Droed Dreigiau Bengal ac mae wedi bod yn cael ei chwaraewyr i gynnwys pêl droed yn ôl yn eu trefn wythnosol ochr yn ochr ag ymrwymiadau i osgoi bwyd a dŵr yn ystod oriau golau dydd.

Er bod cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a chwaraeon yn ystod Ramadan wedi parhau ers canrifoedd, gallai eleni deimlo'n anoddach i filoedd o Fwslimiaid ledled Cymru ar ôl llai o ymarfer corff yn ystod y pandemig.

Mae ein hymchwil yn awgrymu bod mwy na hanner yr oedolion yng Nghymru yn colli'r mathau o weithgarwch yr oeddent yn gallu eu gwneud cyn i'r pandemig ddechrau, tra bod 60% o oedolion yn bwriadu cynyddu faint o weithgarwch corfforol ac ymarfer fyddant yn ei wneud wrth i Gymru ddod allan o’r cyfnod clo.

Pêl-droedwyr
Pêl-droedwyr.

 

Gyda’r cyfyngiadau wedi'u codi i ganiatáu ymarfer corff wedi'i drefnu yn yr awyr agored eto a chwaraeon tîm, a dosbarthiadau ffitrwydd grŵp dan do a chwaraeon dan do i oedolion a phlant yn ailddechrau'r wythnos hon - bythefnos ynghynt na'r disgwyl, mae Jalal yn awyddus i fod nôl yn y gêm gyda'i drefn ymarfer corff. 

Gan egluro ei drefn arferol, dywedodd Jalal: “Rydw i’n teimlo mai’r ffordd orau o wneud ymarfer corff yn effeithiol yw hyfforddi ychydig cyn machlud haul a thorri’r ympryd. Drwy wneud hynny gallaf ddefnyddio pob owns o egni sydd gen i ar ôl i wneud ymarfer dwys byr, gan wybod y gallaf hydradu a bwyta'n syth ar ôl ymarfer.

“Gyda champfeydd yn ailagor a chwaraeon tîm yn gallu digwydd eto, rydw i'n teimlo cymaint o ryddhad ac yn croesawu hyn yn fawr. Mae gweld faint mae'n ei olygu i'r tîm i fod yn ôl yn anhygoel, rydyn ni i gyd yn llawn brwdfrydedd am fod nôl yn y gêm. ”

Pêl-droed
Pêl-droed.

 

Fel rheolwr Dreigiau Bengal, tîm pêl droed sy'n cynnwys chwaraewyr Cymraeg-Bangladeshaidd, a Gweithiwr Prosiect ar gyfer y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, sefydlodd Jalal fenter ychydig flynyddoedd yn ôl ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau pêl droed am hanner nos yn ystod mis Ramadan. Roedd y digwyddiadau, a drefnwyd ochr yn ochr â sefydliadau'r trydydd sector, yn annog chwaraewyr o bob gallu o bob rhan o Dde Cymru i gymryd rhan mewn gemau pêl droed am hanner nos yn ystod yr egwyl o ymprydio.

Oherwydd y pandemig, nid yw hyn wedi digwydd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Wrth drafod nid yn unig y manteision corfforol roedd hyn yn ei gynnig, ond hefyd y cyfle i gysylltu â'r gymuned Islamaidd, dywedodd Jalal: “Mae’r gemau pêl droed Ramadan am hanner nos wedi cael eu colli yn fawr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae cymdeithasu â'n cymuned ni’n ein hatgoffa ein bod ni i gyd yn hyn gyda'n gilydd fel un ac mae'n fy llenwi i â llawer o falchder. ”

Wedi’i chalonogi gan sut bydd llacio’r cyfyngiadau’n agor chwaraeon i fwy o bobl, dywedodd Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: “Drwy gydol cyfnod anhygoel o heriol, mae'r teulu chwaraeon yng Nghymru wedi dangos amynedd mawr, gan weithredu'n gyfrifol ac yn greadigol i helpu i gefnogi ffyrdd iach o fyw yn ystod y pandemig.

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy

Paneli solar yn rhoi ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae chwyldro ynni gwyrdd ar droed mewn chwaraeon cymunedol yng Nghymru, gyda phaneli solar yn dod yn…

Darllen Mwy