Skip to main content

Bachgen yn ei arddegau a chanddo Syndrom Down yn codi pŵer eto ar ôl llythyr emosiynol yn ystod y cyfyngiadau symud

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Bachgen yn ei arddegau a chanddo Syndrom Down yn codi pŵer eto ar ôl llythyr emosiynol yn ystod y cyfyngiadau symud

Yr wythnos hon, wrth i godwyr pŵer gorau'r byd gyrraedd rowndiau terfynol y Gemau Olympaidd, mae bachgen yn ei arddegau a chanddo Syndrom Down ac a ysgrifennodd lythyr emosiynol i Chwaraeon Cymru yn ystod y cyfyngiadau symud yn sôn am golli ei ffrindiau o’r gampfa yn gosod ei fryd ar y Gemau Olympaidd Arbennig. 

Mae Bleddyn Gibbs o Aberdaugleddau, bellach wedi bod yn codi pŵer ers dros ddwy flynedd. Mae gan y bachgen 16 oed Syndrom Down, cyflwr genetig y mae tua 40,000 o bobl yn y DU yn byw gydag ef. Roedd yr angen iddo warchod a'r cyfyngiadau symud parhaus drwy gydol y pandemig yn golygu nad oedd Bleddyn yn gallu mynd i’w gampfa hyfforddi cryfder arferol.

Mewn llythyr a ysgrifennodd Bleddyn i Chwaraeon Cymru yn ystod y cyfyngiadau symud, dywedodd: “Rwy'n 16 oed. Rwy'n mynd i Academi Cryfder Cymru. Y peth rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ei wneud yw hyfforddi gyda fy ffrindiau. Rwyf am fod yn gryf fel The Rock eto drwy ddefnyddio’r fainc wthio, dwy law yn lân ac yn herciog, codi’r pengliniau a hongian a defnyddio’r aml-gampfa. Rwyf wedi colli fy ffrindiau gymaint, alla i ddim aros i'w gweld.”

Bleddyn Gibbs

 

Gyda Chymru bellach ar lefel rhybudd un a’r cyfyngiadau bron wedi'u codi'n llawn, mae'r bachgen yn ei arddegau wedi dychwelyd i'r gampfa ac mae ganddo uchelgais i gystadlu ar lefel ryngwladol i godi pŵer yn y Gemau Olympaidd Arbennig, sefydliad mwyaf y byd ar gyfer plant ac oedolion ag anableddau deallusol.

Mae Bleddyn yn hyfforddi yn Academi Cryfder Cymru, canolfan achrededig ar gyfer campau Olympaidd Arbennig Prydain Fawr a'r unig ganolfan Codi Pŵer Olympaidd Arbennig yng Nghymru. Mae Academi Cryfder Cymru yn fenter gymdeithasol gynhwysol, sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, gan gynnig cyfleoedd i bawb gan gynnwys y rhai ag anableddau neu namau deallusol. 

Wrth drafod ei fab, dywedodd Steff Gibbs: "Mae bod mewn amgylchedd cynhwysol lle mae'n gallu hyfforddi gydag eraill wedi rhoi cyfle i Bleddyn fagu hyder, dysgu bod yn gwrtais a dysgu sgiliau bywyd defnyddiol. Mae'n debyg mai bod i ffwrdd o'r ganolfan gymdeithasol hon oedd y rhan anoddaf o'r cyfyngiadau symud.

Bleddyn Gibbs
Bleddyn Gibbs

 

"Mae Bleddyn yn uchelgeisiol gyda phopeth mae'n ei wneud ond mae wir wedi gosod ei fryd ar godi pwysau. Nid dim ond yn gorfforol y mae’r hyfforddiant wedi ei helpu, er bod ei gryfder a'i dechneg wedi gwella'n aruthrol, mae ei sgiliau cymdeithasol wedi gweld budd mawr."

Mae adroddiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod pobl ledled Cymru yn dal i brofi teimladau o unigedd ac unigrwydd ond bod cynyddu gweithgarwch corfforol gydag elfen gymdeithasol yn effeithiol o ran gwella canlyniadau iechyd meddwl.

Wrth drafod manteision dychwelyd i chwaraeon, dywedodd Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: “Yn Chwaraeon Cymru, rydym yn annog pobl ledled y wlad i ddychwelyd i'r gêm yn eu ffordd eu hunain, boed hynny'n rhan o dîm eto, mynd allan ac ail-gysylltu â'r gymuned leol, mwynhau'r teimlad hwnnw ar ôl ymarfer neu gael hwyl. Gyda'r Gemau Olympaidd ar ein sgriniau ar hyn o bryd ac yn gobeithio ysbrydoli cenedl, mae stori Bleddyn yn enghraifft galonogol o'r effeithiau cadarnhaol y mae ymarfer corff yn eu cael ar les corfforol a meddyliol.”

Er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u cymell i ddychwelyd i ymarfer corff, yr haf hwn mae Chwaraeon Cymru wedi lansio ymgyrch o'r enw #NôlynyGêm gyda'r nod o ysbrydoli pobl i fwynhau chwaraeon ac ymarfer corff eto. 

I gael gwybod mwy am sut y gallwch fod nôl yn y gêm, ewch i https://www.chwaraeon.cymru/nol-yn-y-gem/ neu ddefnyddio’r hashnod #NôlynyGêm ar y cyfryngau cymdeithasol.

Newyddion Diweddaraf - Unigolion a Theuluoedd

Hwb i chwaraeon eira drwy uwchraddio llethrau artiffisial

Mae Cymru'n dod yn lle gwell ar gyfer chwaraeon eira diolch i arian grant o £100,000 gan Chwaraeon Cymru…

Darllen Mwy

Dynion a Merched gyda’i gilydd – rhai o’r tueddiadau mewn chwaraeon cymysg

Yn y  1970au gwelwyd Brwydr y Rhywiau rhwng seren y byd tennis i ferched  Billie Jean King…

Darllen Mwy

Mae’n amser am Ionawr Tri

Mae llawer o bobl yn addo cael Ionawr Sych y mis yma, ond beth am Ionawr Tri?Mae Triathlon Cymru yn…

Darllen Mwy