“Dim ond pethau da sydd gen i i'w dweud am fy mhrofiadau fy hun o ddysgu gyda Nia, ond mae'n gwneud i chi feddwl yn galed am y ffordd gywir o siarad â phlant yn y gamp, a sut i’w trin.
“Mae'n drist bod rhai pobl yn teimlo nad ydynt wedi cael y profiad iawn o gymnasteg, ond y cyfan dwi eisiau i'r plant dwi'n eu hyfforddi ei deimlo yw eu bod nhw'n cael hwyl.
"Efallai y bydd rhai ohonynt yn gadael y gamp yn eithaf cyflym a dim ond ychydig iawn fydd yn mynd ymlaen i fod ymhlith y gorau yn y wlad, felly'r peth pwysicaf i mi yw eu bod yn edrych yn ôl ac yn teimlo eu bod wedi mwynhau'r profiad.
"Mae gymnasteg yn wahanol i lawer o gampau eraill, oherwydd gall y bobl sy'n cymryd rhan fod yn cyrraedd y gorau y gallant fod pan fyddan nhw'n 16 oed. Gall hyfforddwyr fod yn angerddol iawn am blant talentog, ond y peth pwysicaf i unrhyw hyfforddwr o bell ffordd yw nid eu bod yn cynhyrchu pencampwyr Prydain, ond bod yr holl blant yn eu grŵp wedi cael hwyl ar hyd y ffordd.”
Diolch byth, nid oes yr un o'r penawdau cythryblus wedi gwneud i Laura gwestiynu’r llwybr o'i dewis ac mae'n benderfynol o greu rôl sy'n ei gwneud hyd yn oed yn fwy gwerthfawr i'w chwaraeon yng Nghymru nag yr oedd fel perfformiwr.
Mae disgwyl iddi gwblhau ei chwrs hyfforddi lefel dau – sydd wedi'i ohirio gan y pandemig coronafeirws – yn ddiweddarach eleni a bydd yr athletwr o Swindon wedyn yn ceisio parhau i ddringo'r ysgol hyfforddi.
“Un o'r pethau sy'n fy helpu yw pan oeddwn yn 18 oed, dechreuais gael fy hyfforddi gan Nia, ond dim hi oedd yn rheoli’r berthynas yn gyfan gwbl.
“Ro'n i'n cael digon o gyfleoedd i ddweud fy nweud. Roedd hi bob amser yn gefnogol iawn ac rwy'n ddiolchgar iawn iddi am ddangos i mi mai dyna sut y dylai’r broses hyfforddi fod.”
Ar gyfer gymnastwyr elitaidd, mae'r ymrwymiad amser yn golygu bod yn rhaid i'r berthynas rhwng yr hyfforddwr a’r perfformiwr fod yn seiliedig ar y math hwnnw o ymddiriedaeth a dealltwriaeth ar y cyd.
Pan oedd hi ar ei gorau, roedd Laura yn arfer codi am 6am y rhan fwyaf o foreau, hyfforddi rhwng 7am a 9am, gwneud diwrnod o astudio yn y brifysgol, ac yna hyfforddi eto rhwng 4pm ac 8pm.
"Roedd hynny'n ymrwymiad mawr ac fel hyfforddwr bellach rwy'n deall hynny oherwydd dyna o'n i'n ei wneud fel gymnastwr.
“Ond mae gen i gymaint o bethau eraill i'w dysgu o hyd – y ffyrdd gorau o gyfathrebu, y gwahanol fathau o bersonoliaeth, yn ogystal ag addysgu'r holl sgiliau i’w perfformio.
"Rwy'n gallu dweud pethau o'm safbwynt i – beth sy'n gweithio a beth nad yw'n gweithio – ac mae hynny'n teimlo'n ddefnyddiol.
“Felly, rwy'n mwynhau hyfforddi'n fawr, byddwn yn ei argymell fel cam i unrhyw un mewn chwaraeon ei ystyried, fel ffordd o roi rhywbeth yn ôl i'r gamp, ond hefyd ar gyfer datblygu sgiliau ac uchelgeisiau newydd eu hunain."
Stori gan Dai Sport (@Dai_Sport_)