Skip to main content

Lle mae Breuddwydion Olympaidd yn Cychwyn

Mae pob breuddwyd Olympaidd yn dechrau gyda syniad mwy lleol ac, i Jake Hayward, eisiau bod y plentyn cyflymaf yn Ysgol Gynradd Llanisien Fach oedd y nod.

Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach mae Jake eisiau croesi'r llinell yn gyntaf o hyd.

Ond mae’r plentyn a rasiai ar draws y tarmac fel bachgen ysgol 10 oed yng Nghaerdydd bellach yn anelu at gyrraedd rownd derfynol Olympaidd yn nigwyddiad athletau mwyaf anrhydeddus y Gemau - y 1500 metr.

Hayward yw'r unig athletwr trac a chae o Gymru sydd wedi sicrhau ymddangosiad yn Tokyo, er bod Team GB hefyd yn cynnwys Cymro arall, Joe Brier, sydd ymhlith y grŵp bach o athletwyr wrth gefn sy’n teithio.

Ond i bob un o’r 26 o gystadleuwyr o Gymru yn y chwaraeon amrywiol - 13 o ddynion a 13 o ferched - dechreuodd eu straeon mewn chwaraeon ar lawr gwlad ar lefel clwb ac ysgol, gan danio eu hoffter o chwaraeon a hefyd eu huchelgais.

Jake Heyward gyda thlws yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru
Jake Heyward

Jake Heyward: Athletau, 1500m - Ysgol Gynradd Llanisien Fach, Ysgol Uwchradd Llanisien ac Athletau Caerdydd

"Roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod i'n eithaf cyflym, fel bod y plentyn cyflymaf yn yr ysgol ar y cae chwarae.

“Fe wnaeth ein hysgol gynradd roi ein henwau ni mewn cystadleuaeth leol gyda’r Urdd. Roedden nhw’n arfer trefnu cyfarfodydd traws gwlad bach ar gyfer merched a bechgyn ym mlwyddyn pump a chwech. Fe wnes i ennill y gystadleuaeth ac fe gychywynnodd popeth o’r fan honno.

"Felly, yn yr ysgol gynradd wnes i ddechrau, ond ar ôl cyrraedd yr ysgol uwchradd, fy athro AG, Dai Griffin, ef oedd y person wnaeth fy annog i’n fawr a gwneud yn siŵr ’mod i’n mynd i lawr i'r trac.

“Roedd yn rhywbeth roeddwn i’n mynd i’w wneud beth bynnag a mynd i lawr i Athletau Caerdydd, ond yn bendant roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn athletau.

"Fe wnes i ymuno gyntaf â grŵp Athletau Caerdydd - Track Rats rwy'n credu oedd ei enw.

“Ond ar y pwynt hwnnw, rydych chi'n rhoi cynnig ar bob dim, naid uchel, sbrint a thipyn o bopeth.

“Wedyn mi wnes i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ac fe wnes i symud i fyny i grŵp gyda boi o’r enw Tim Fry. Roedd rhai athletwyr hŷn yn y grŵp hwnnw, felly fe wnes i ddechrau hyfforddi gyda nhw am ychydig.

"Ac wedyn y grŵp uwch ben hynny, Paul Darney oedd yn gofalu amdano, ac roedd yn cynnwys Mike Ward, Jacob Preece, Matthew Edwards, pobl felly, oedd dair neu bedair blynedd yn hŷn na fi.

“Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau hyfforddi gyda nhw, oherwydd roeddwn i’n gwybod y gallwn i gadw i fyny gyda nhw. Ac felly dyna'r tro cyntaf i mi ddechrau ei gymryd o ddifrif pan symudais i hyfforddi gyda Paul. " 

Lauren Williams gyda Thlws yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru
Lauren Williams

 

Lauren Williams: Taekwondo, -67kg – Clwb Cicfocsio’r Devils, Caerffili 

“Rob Taylor oedd fy hyfforddwr i ac roeddwn i yno gyda Lauren Price cyn iddi hi fynd i focsio a finnau’n symud i taekwondo.

“Fe wnaeth Lauren a finnau dyfu i fyny gyda’n gilydd a hi yn y bôn oedd fy model rôl i. Fe wnaethon ni hyfforddi llawer gyda'n gilydd ac roedd hi’n edrych ar fy ôl i mewn cystadlaethau.

“Roedd clwb y Devils fel teulu i ni ac fe wnaethon ni ennill teitlau byd gyda’n gilydd yng Nghyprus. Ond y Gemau Olympaidd oedd yn apelio ata’ i a dyna pam es i ymlaen i drosglwyddo i taekwondo.

“Mae'n anhygoel meddwl bod y ddwy ohonon ni yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo gyda'n gilydd. Mae'n ffordd anhygoel i barhau â’r daith a gobeithio dangos i ferched eraill yr hyn y mae'n bosib ei gyflawni.

“Pan es i ar wyliau gyda fy rhieni mewn carafán, fe wnaethon ni eistedd a gwylio Gemau Olympaidd Llundain yn 2012 ar y teledu. Roedd Jade Jones yn ennill yn y rownd derfynol ar y pryd gyda thua deg eiliad ar ôl - roedd y pwyntiau'n mynd yn uwch ac yn uwch ac roedd yn mynd yn gyffrous iawn.

“Fe drodd fy nhad ataf i a gofyn: ‘ydi hyn yn rhywbeth fyddet ti’n hoffi ei wneud?’Doeddwn i erioed wedi gweld y gamp o’r blaen - roeddwn i’n gicfocsiwr a doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd taekwondo.

“Fe ddywedais i na ar y pryd, ond fe wnaeth taekwondo gynnal cynllun Fighting Chance yn ôl yn 2013 a oedd yn annog athletwyr o wahanol chwaraeon a chefndiroedd i ddod i roi cynnig ar taekwondo.

“Fe wnes i roi cynnig arni, fe wnaeth fy nhad adael i mi wneud beth oeddwn i eisiau ei wneud ac fe wnes i lwyddo i guro'r merched o fy mlaen. Fe welodd fy nghyfarwyddwr perfformiad i dalent a dyma fi heddiw – fe gefais i fy newis a dydw i heb edrych yn ôl. ” 

Athletwyr Cymru yn Tokyo:

Athletics

Jake Heyward - Track Rats section at Cardiff Athletics Club 

Taekwondo

Lauren Williams - Devils Martial Arts

Jade Jones - Flint TAGB

Lauren Price - Pontypool ABC 

Geraint Thomas - Maindy Flyers

Elinor Barker - Maindy Flyers

Ethan Vernon - Corley Cycles 

Football

Sophie Ingle - Vale Wanderers 

Hockey

Leah Wilkinson - Belper Hockey Club 

Sarah Jones - Howells School in Cardiff 

Rupert Shipperley - Whitchurch

Jacob Draper - Gwent Hockey Club 

Judo

Natalie Powell - Irfon Judo Club 

Rowing

Victoria Thornley - Sporting Giants

Oliver Wynne-Griffith - Radley College 

Joshua Bugajski - Cardiff University

Tom Barras - Burway Rowing Club

Rugby Sevens

Jasmine Joyce - St.Davids RFC 

Sailing

Hannah Mills - Llanishen Sailing Centre 

Chris Grube - Bala Sailing Club 

Swimming

Alys Thomas - Kingston Royals Swimming Club 

Daniel Jervis - Plymouth Leander Swimming Club

Harriet Jones - City of Cardiff Swimming Club

Matt Richards - Droitwich Dolphins 

Kieran Bird - Blue Fins

Calum Jarvis - Plymouth Leander Swimming Club

Travelling Reserves

James Jones (BMX freestyle)

Matthew Tarrant (Rowing)

Joe Brier (Athletics)

Newyddion Diweddaraf

Mae pobl ifanc yn gwirioni ar dennis bwrdd, diolch i dechnoleg fodern

Mae Clwb Tenis Bwrdd Cynffig yn defnyddio technoleg laser modern i helpu i wneud eu camp yn fwy deniadol…

Darllen Mwy

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Darllen Mwy

Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye…

Darllen Mwy