Mae’r Gronfa Cymru Actif bresennol, sy'n cael ei gweinyddu gan Chwaraeon Cymru, yn ymdrechu i sicrhau bod clybiau sydd dan fygythiad oherwydd effaith Covid-19, yn gallu cadw eu pennau uwchben y dŵr a pharhau i gyflawni eu rôl hanfodol yn y gymuned.
Dyna swyddogaeth mae Maindy Flyers wedi bod yn ei chyflawni ers tri degawd – blynyddoedd euraid sydd wedi ehangu profiadau chwaraeon i bobl ifanc yng Nghaerdydd, ond hefyd wedi cynhyrchu'r sêr elitaidd Geraint Thomas, Luke Rowe ac Owain Doull yn ogystal ag Elinor a’i chwaer iau, Megan.
Mae'n stori sydd wedi'i chofnodi'n gelfydd mewn llyfr newydd – The Maindy Flyers, clwb beicio mwyaf llwyddiannus y byd – a ysgrifennwyd gan Juan Dickinson ac mae Elinor wedi cyfrannu rhagair annwyl.
“Yr hyn oedd yn wych am y Flyers fel clwb oedd ei fod wir yn cynnwys pawb oedd yn rhan ohono," meddai.
"Roedd y sesiynau bob amser yn amrywiol – p'un ai a oedden nhw'n canolbwyntio ar ochr sgiliau beicio, neu sbrintiau, neu deithiau pellter hirach – byddai rhywbeth at ddant pawb.
“Roedd yr awyrgylch bob amser yn groesawgar iawn hefyd. Roedd y gwersylloedd hyfforddi bob amser yn benwythnosau hwyliog i ffwrdd, gyda llawer o weithgareddau a fyddai'n cynnwys y rhieni yn ogystal â'r plant.
"Un tro, aethom i wylio'r Tour de France ac aros am benwythnos. Roedd popeth yn gymdeithasol iawn ac roedd teimlad cymunedol am yr holl beth."