Skip to main content

Meghan Willis: “Mae chwaraeon wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus am fy anabledd.”

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Meghan Willis: “Mae chwaraeon wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus am fy anabledd.”

Mae hi'n prysur wneud enw iddi'i hun fel nofwraig addawol gydag uchelgais i gystadlu yn y Gemau Paralympaidd, ond mae Meghan Willis yn dweud bod nofio wedi rhoi cymaint mwy na medalau a goreuon personol iddi.

Wedi'i geni heb law dde a dim ond rhan o flaen ei braich, roedd Meghan bob amser yn ymwybodol o fod yn wahanol:

“Roeddwn i'n arfer casáu pobl yn syllu arna’ i, fe fyddwn i bob amser yn rhoi fy llaw i fyny fy llawes neu'n ei chuddio y tu ôl i fy nghefn. Ond wrth gwrs, mewn gwisg nofio, doedd dim posib cuddio. Ac fe wnes i sylweddoli hefyd nad oedd pobl wir yn sylwi. Doedd neb yn poeni am y peth. Roedd ganddyn nhw fwy o ddiddordeb yn yr hyn roeddwn i’n ei wneud yn y pwll.”

Mae Meghan, sy’n un ar bymtheg oed, yn hyfforddi ddwywaith y dydd yn aml, gan nofio 40km yr wythnos ar gyfartaledd. Mae hi’n gwneud hyn i gyd wrth astudio hefyd ar gyfer ei harholiadau TGAU, felly mae ei hymrwymiad i’r gamp yn glir. 

Ond dydi hi ddim yn berson oedd bob amser yn mynd i ragori mewn chwaraeon. "Dydw i ddim yn siŵr ydw i erioed wedi ystyried fy hun fel rhywun da mewn chwaraeon," chwertha Meghan. “Ond roeddwn i bob amser wrth fy modd yn chwarae yn yr awyr agored a rhedeg o gwmpas.”

Fe ddechreuodd nofio yn yr un ffordd ag y mae miliynau o blant eraill yn ei wneud, drwy gael ei chofrestru gan ei rhieni i dderbyn gwersi nofio. Symudodd yn gyflym drwy’r gwahanol lefelau, neu Donnau fel maen nhw’n cael eu hadnabod, a phan wnaeth hi gyrraedd Tonnau saith – pan rydych chi’n cwblhau eich gwersi nofio yn swyddogol – fe awgrymwyd ei bod hi’n ymuno â chlwb.

Ymuno â Dolffiniaid Torfaen a charfan Cymru

Cerddodd drwy ddrysau Dolffiniaid Torfaen am y tro cyntaf pan oedd yn wyth oed. A dyma ei chlwb hi hyd heddiw:

“Fe wnes i gwrdd â chymaint o ffrindiau yno ac rydyn ni i gyd wedi tyfu i fyny gyda'n gilydd. Mae fel teulu.”

Sicrhaodd y clwb hefyd eu bod yn gosod Meghan mewn dosbarth yn gynnar. Mewn chwaraeon anabledd, mae’n rhaid cael dosbarthiad i gystadlu ar lefel benodol. Ar ôl hyn cafodd ei dewis i garfan Cymru.

“Roedd yn agoriad llygad enfawr i mi oherwydd fe welais i nofwyr eraill gydag amrywiaeth o anableddau. Roedd yna nofwraig o’r enw Molly heb draed, ac roedd yn cŵl gweld rhywun ychydig fel fi yn y gamp yn gwneud yn dda.”

Roedd Liz Johnson, a enillodd fedal aur yng Ngemau Paralympaidd Beijing 2008, yn ysbrydoliaeth enfawr hefyd.

Mae Meghan yn dweud mai i’w rhieni mae’r diolch am ei chynnydd gan eu bod bob amser wedi ei chefnogi, a'i hyfforddwyr.

"Rydw i wedi bod yn ffodus iawn gyda fy hyfforddwyr," ychwanegodd Meghan. “Maen nhw'n wych am gyfathrebu ac addasu sesiynau. Mae fy hyfforddwr cryfder a chyflyru i, Ray Morgan, bob amser yn mynd yr ail filltir drwy addasu offer a sesiynau i mi. Mae wedi cysylltu â chodwyr pwysau un llaw hyd yn oed er mwyn i mi allu cael y gefnogaeth orau bosibl.”

Meghan Willis yn gwenu mewn pwll nofio
Llun: Nofio Prydeinig
Dydw i ddim yn siŵr ydw i erioed wedi ystyried fy hun fel rhywun da mewn chwaraeon.
Meghan Willis

Cystadlu yn erbyn ei modelau rôl

Roedd hi wrth ei bodd yn 2022 pan gyflawnodd yr amseroedd cymhwyso ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2022 yn Birmingham, a hi oedd y nofwraig ieuengaf a ddewiswyd gan Dîm Cymru.

“Rydw i wedi nofio dros Brydain ambell waith ond dydi’r cyfleoedd i nofio dros Gymru ddim yn dod mor aml,” meddai. “Roedd yn anhygoel. Doeddwn i ddim yn gallu credu, wrth gynhesu, fy mod i yn yr un lôn ag Adam Peaty. Roedd yn swreal!"

Yn Birmingham hefyd fe fu Meghan yn cystadlu yn erbyn arwres arall o’r byd nofio, Toni Shaw – Pencampwraig Byd dair gwaith o'r Alban, sydd hefyd ag un llaw.

“Dyma lle roeddwn i’n cystadlu yn erbyn rhywun roeddwn i wedi edrych i fyny ati ers cymaint o amser. Roeddwn i yn y lôn nesaf ati hi a doeddwn i ddim yn gallu credu. Roedd gweld athletwyr fel Toni Shaw a Hollie Arnold o Gymru yn rhoi’r anogaeth yna i mi. Roedd gweld pobl, fel fi, yn ei gwneud hi yn beth bynnag maen nhw'n ei wneud yn gwneud i mi sylweddoli beth oedd yn bosibl.

Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Ond wrth i hyder Meghan gynyddu drwy nofio ac wrth iddi ddod i gysylltiad â modelau rôl mewn chwaraeon anabledd, mae hi hefyd wedi dod yn ffigwr blaenllaw ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Mae hi bellach yn llysgennad Reach – yr elusen yn y DU sy’n darparu cefnogaeth i blant sy’n wahanol o ran aelodau uchaf eu corff, a’u teuluoedd.

“Rydw i eisiau i blant iau sylweddoli y gall eu breuddwydion nhw fod yn realiti. Ewch amdani. Rhowch gynnig ar lawer o chwaraeon, rhowch eich hun allan yna a pheidiwch â phoeni am unrhyw beth.”

Pan ofynnwyd iddi sut mae hi’n teimlo am fod yn fodel rôl ei hun nawr, dywedodd: “Wel, gobeithio fy mod i. Rydw i eisiau ysbrydoli plant ifanc. Rydw i eisiau iddyn nhw wybod y gallan’ nhw wneud beth bynnag maen nhw eisiau a pheidio â bod yn swil.

“Pan oeddwn i'n iau roeddwn i'n bendant yn amau fy hun a byth yn credu yno i fy hun. Ond mae cymryd rhan mewn chwaraeon a dod i gysylltiad â chymaint o fodelau rôl ysbrydoledig wedi newid hynny i gyd.”

Newyddion Diweddaraf

Athletau wedi rhoi cymaint mwy na medalau i James Ledger

Roedd James yn poeni efallai nad oedd chwaraeon yn addas iddo, ond mae nawr yn gobeithio gwisgo fest…

Darllen Mwy

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy