Diweddariad 14/04/2021
Ym mis Medi 2020, daeth UK Sport, Sport England, sportscotland, Chwaraeon Cymru a Sport Northern Ireland at ei gilydd i fynd ati i Drechu Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol mewn Chwaraeon gyda'r uchelgais ar y cyd o sefydlu system chwaraeon sy'n gwbl gynhwysol ac yn adlewyrchu cymdeithas y DU yn briodol.
Fel rhan o gam cyntaf y fenter hon, comisiynodd y Cynghorau Chwaraeon ddau ddarn o waith - prosiect casglu a dadansoddi data dan arweiniad Canolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon ym Mhrifysgol Sheffield Hallam a phrosiect profiadau byw o dan arweiniad AKD Solutions.
Mae'r ddau ddarn o waith wedi'u cwblhau erbyn hyn ac ar hyn o bryd mae'r pum Cyngor Chwaraeon yng ngham terfynol y prosiect ac yn defnyddio'r canfyddiadau a godwyd ac a gyflwynwyd i sefydlu adroddiad llawn a chyfres o argymhellion yn unol â'r uchelgais ar y cyd. Mae disgwyl i'r rhain gael eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Mai.
Erioed wedi profi hiliaeth mewn chwaraeon? Hoffwn glywed gennych chi...