Skip to main content

O hoci a marchogaeth ceffylau i Gemau Olympaidd y Gaeaf - Siwrnai Laura Deas

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. O hoci a marchogaeth ceffylau i Gemau Olympaidd y Gaeaf - Siwrnai Laura Deas

Mae Laura Deas yn credu bod athletwyr Gemau Olympaidd y Gaeaf yn cael eu creu, yn hytrach na'u geni - wrth edrych ar wlad fel Cymru o leiaf.

Yr Ogleddwraig oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ennill medal Olympaidd y Gaeaf pan gipiodd efydd yn y sgeleton yng Ngemau 2018 yn Pyeongchang yn Ne Corea.

Drwy wneud hynny, rhoddodd Deas Gymru ar y map o ran chwaraeon y gaeaf, gan lithro ei ffordd i'r un gofod elitaidd ar bodiymau Olympaidd â phobl fel Jade Jones, Lauren Price a Nicole Cooke. 

Ond, yn wahanol i taekwondo, bocsio neu feicio, mae'n anodd dod o hyd i unrhyw le yng Nghymru lle gallwch chi fireinio’ch sgiliau drwy gydol y flwyddyn fel slediwr ifanc addawol.

Ond mae gan Deas neges i unrhyw un sydd wedi’i ysbrydoli ganddi pan fydd yn dychwelyd i lwyfan Gemau Olympaidd y Gaeaf ym mis Chwefror yn Beijing: Does dim angen rhuthro.

Doedd y ferch 33 oed ddim yn hedfan i lawr llethr iâ yn ei harddegau yn Wrecsam ac mae'n credu mai'r peth pwysicaf i bobl ifanc yw hogi sgiliau trosglwyddadwy drwy ddull aml-chwaraeon.

“Wnes i ddim dod o hyd i sgeleton nes oeddwn i bron yn 20 oed,” meddai Deas.

“Rydw i’n credu nawr, gyda gwyddoniaeth chwaraeon fodern, bod y syniad yma o drosglwyddo talent yn dod yn fwyfwy cyffredin.

“Felly, pan rydych chi’n ifanc, os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi wedi dod o hyd i'ch camp eto, neu os ydych chi'n cymryd rhan mewn sawl camp, yn sicr dydi hynny ddim yn beth drwg.

“Fe wnes i gystadlu mewn llawer o wahanol chwaraeon wrth i mi dyfu i fyny. Wnes i ddim dod o hyd i'r peth roeddwn i'n dda iawn amdano nes gadael fy arddegau.

“Rydw i'n credu ei bod hi'n bwysig mwynhau'r hyn rydych chi'n ei wneud yn ogystal â gweithio'n galed arno. ’Chefais i mo fy ngwthio mor galed yn fy ieuenctid nes rhoi'r gorau i fwynhau chwaraeon.

“Mae hynny'n bwysig iawn. Os ydych chi'n athletwr ifanc, ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn camp benodol, un nad ydych chi'n ei gwneud ar hyn o bryd, mae'n syniad da cysylltu â'r gamp honno.

“Cadwch lygad am ddyddiau adnabod talent efallai a manteisio ar y cyfleoedd hynny.

“Ond, ar y cyfan, mwynhau sy’n allweddol. Mae'n rhaid i chi roi cynnig ar rywbeth a gweld ydych chi’n ei hoffi. "

Roedd Deas yn chwarae hoci ac roedd yn marchogaeth ceffylau pan oedd yn iau, nes iddi gael ei gweld yn 2009 mewn rhaglen adnabod talent.

Yn yr un modd, roedd Mica Moore o Gymru yn sbrintwraig cyn iddi roi cynnig ar fobsled ac aeth ymlaen i fod yn bencampwraig iau y byd yn 2017, ochr yn ochr â Mica McNeill, cyn i’r pâr orffen yn wythfed yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Pyeongchang.

Laura Deas ar rediad sgeleton
Pan rydych chi’n ifanc, os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi wedi dod o hyd i'ch camp eto, neu os ydych chi'n cymryd rhan mewn sawl camp, yn sicr dydi hynny ddim yn beth drwg.
Laura Deas

Dilynwyd yr un broses yn fwy diweddar gan Beth Munro, enillydd medal arian Baralympaidd a ddewiswyd gan Chwaraeon Anabledd Cymru pan oeddent yn anelu am aur.

Symudodd Munro, chwaraewraig pêl rwyd a thaflwr gwaywffon ar y pryd, i Gaerdydd i ddechrau cymryd rhan mewn taekwondo a daeth o fewn trwch blewyn i fod yn bencampwraig Baralympaidd yn Tokyo yn gynharach eleni, cyn setlo am fedal arian.

Nid oes gan Gymru unrhyw lithrfeydd sledio cydnabyddedig ar gyfer sgeleton, ceir llusg na bobsled, er bod trac gwthio sydd wedi'i ddylunio'n arbennig ym Mhrifysgol Caerfaddon.

Yn gartref i Bobsled a Sgeleton Prydain, dyma lle mae Deas wedi'i lleoli ar gyfer hyfforddi pan nad yw'n teithio o amgylch y byd yn cystadlu. Mae'r ganolfan yn cynnal cyfres o sesiynau blasu gwanwyn a haf yn y gamp.

Gallwch gael gwybod mwy drwy gysylltu â Bobsled Prydain ar office@thebbsa.co.uk.

Mae chwaraeon gaeaf eraill, fel sgïo ac eirafyrddio, ar gael i roi cynnig arnynt mewn canolfannau ledled Cymru, gyda llethrau artiffisial yng Nghaerdydd, Pont-y-pŵl, Llandudno, Llangrannog, Pembre a Than-Yr-Ogof.

Snowsport Cymru Wales yw'r corff rheoli ar gyfer sgïo ac eirafyrddio yng Nghymru, gan oruchwylio clybiau ledled y wlad a hyrwyddo cyfranogiad. Gellir gweld eu gwefan yn: snowsportwales.com

Mae bellach yn fwy na degawd ers i Deas gymryd ei chamau cyntaf tuag at ddod yn Olympiad y Gaeaf drwy gofrestru ar gyfer y rhaglen adnabod talent honno, “Girls4Gold”.

Mae hynny'n rhywbeth mae'n ei ystyried fel sbardun mawr tuag at ei llwyddiant ei hun ac ychwanega: “Mae'n wych gweld ei fod yn dal i fynd yn gadarn.

“Rydw i'n credu ei fod yn hawdd weithiau, pan rydych chi'n dechrau ar rywbeth, ac, yn y bôn, yn ddechreuwr mewn camp eto, colli cymhelliant a hyder.

“Am yr ychydig flynyddoedd cyntaf, mae’n anodd. Mae'n anodd iawn. Roedd rhaid i mi ddysgu sut i godi pwysau yn y gampfa, heb sôn am y llithro i lawr ochr mynydd!

“A thrwy’r amser, rydych chi'n oer ac rydych chi'n taro waliau! Rydych chi’n meddwl, ‘pam ar y ddaear wnes i hyn?’.

“Ond os oes gennych chi’r hyder i deimlo y bydd yn werth chweil oherwydd eich bod yn mwynhau, ac yn gwybod y bydd cyfleoedd enfawr ar y diwedd, wel daliwch ati.”

Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf yn cael eu cynnal yn Beijing, Tsieina, rhwng Chwefror 4 a 20.

Newyddion Diweddaraf

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy

Paneli solar yn rhoi ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae chwyldro ynni gwyrdd ar droed mewn chwaraeon cymunedol yng Nghymru, gyda phaneli solar yn dod yn…

Darllen Mwy