Skip to main content

Y Paralympiad o Gymru Olivia Breen yn dyheu am fwy o fedalau yn Birmingham 2022

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y Paralympiad o Gymru Olivia Breen yn dyheu am fwy o fedalau yn Birmingham 2022

Mae’r seren Baralympaidd Olivia Breen yn edrych ymlaen yn fawr at gynrychioli Cymru yn y Gemau Cymanwlad nesaf ac mae’n dyheu am fwy fyth o lwyddiant ar ôl ennill ei medal Baralympaidd unigol gyntaf yn Tokyo yr haf yma. 

Ar ôl cymryd seibiant haeddiannol yn dilyn haf prysur, mae’r ferch 25 oed yn cynllunio’r flwyddyn sydd i ddod fel un o athletwyr Paralympaidd mwyaf cyson ac amryddawn Cymru.

Hawliodd Breen efydd yn y naid hir T38 yn Japan ar ôl ennill yr un lliw yn y ras gyfnewid 4x100m yn Llundain 2012.

Roedd hi hefyd yn bencampwraig byd yn y naid hir T38 ym Mhencampwriaethau'r Byd IPC yn 2017, ond fe aeth i'r Gemau Paralympaidd dan gysgod blwyddyn yr amharwyd arni gan broblemau anafiadau.

“Rydw i ar ben fy nigon gyda sut aeth pethau yn Tokyo,” meddai Breen, y mae’r wên ar ei hwyneb yn dangos yn glir pa mor falch yw hi o’i chyflawniadau.

“Fe gymerodd lawer o waith caled i gyrraedd y sefyllfa i allu ennill medal unigol.

“Fy mreuddwyd i oedd dod adref o Tokyo gyda medal ac mae wedi digwydd bellach.”

Mae Breen - sydd â pharlys yr ymennydd ac sydd wedi helpu yn ddiweddar i roi cyhoeddusrwydd i Ddiwrnod Parlys yr Ymennydd y Byd - yn ddiolchgar iawn bod y Gemau wedi cael eu cynnal o ystyried yr holl gyfyngiadau a’r ansicrwydd oedd wedi’i greu gan y pandemig.

“Fe wnaeth yr oedi fy helpu i mewn ffordd bositif gan fy mod i wedi gallu gweithio ar fy ngwendidau,” esboniodd.

“Rydw i’n credu ei fod wedi chwarae rhan fawr o ran fy helpu i ennill medal yn Tokyo.

“Roedd yn drueni na allen ni gael unrhyw deulu na ffrindiau allan gyda ni ond roedden nhw yno mewn ysbryd.

“Mae wedi bod yn hyfryd ers i mi gyrraedd yn ôl gan fy mod i wedi cael llawer o ddathliadau gyda fy holl deulu a ffrindiau.

“Rydw i eisiau mwynhau’r foment, mae fel cyflawniad unwaith mewn oes.”

Un siom i Breen oedd na allai weld mwy o Japan oherwydd y gofyniad i’r athletwyr fod mewn swigen. 

“Fe fyddwn i wedi bod wrth fy modd yn cael gweld mwy o Japan gan mai dim ond pan oedden ni'n teithio ar y bws y gwnaethon ni weld rhannau o'r wlad.

“Mae Pencampwriaethau’r Byd yn Japan y flwyddyn nesaf hefyd ac mae ychydig ohonom ni eisoes wedi sôn am fynd i weld rhai rhannau o’r wlad bryd hynny.

“Roedd y bobl wnaethon ni eu cyfarfod yno i gyd mor hyfryd ac yn bositif iawn.” 

Olivia Breen yn dangos ei medal efydd o flaen arwydd Chwaraeon Cymru yn y Ganolfan Genedlaethol
Olivia Breen yn dangos ei medal efydd yn y Ganolfan Genedlaethol

 

Mae ffocws Breen bellach ar ddychwelyd i ffitrwydd llawn gan y bydd yn cael llawdriniaeth ar ei hysgwydd yn fuan, ar ôl ymladd drwy boen anaf oedd yn bodoli eisoes yn ystod y Gemau Paralympaidd diweddar.

“Rydw i’n cael llawdriniaeth ar fy ysgwydd felly rydw i jyst yn canolbwyntio ar gael trefn ar hynny a dychwelyd i hyfforddiant.

“Rydw i eisiau dal ati i gael cymaint o oreuon personol â phosib ac rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at Gemau'r Gymanwlad, felly gobeithio y gallaf i ddod dros yr anaf yn gyflym."

Yn enedigol o Guildford, ond gyda mam o Gymru, mwynhaodd Breen Gemau'r Gymanwlad llwyddiannus yn 2018 gan ennill aur yn y naid hir T38.

Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr nawr at geisio amddiffyn y fedal honno a chynrychioli Cymru yn Birmingham.

“Rydw i wrth fy modd yn cynrychioli Cymru, mae’n golygu cymaint i mi. Mae pawb sy'n ymwneud â Thîm Cymru mor gefnogol.

“Alla’ i ddim aros i wisgo cit Cymru eto a gobeithio y gallaf ennill medal arall.”

Dywed Breen, sy'n bwriadu bod yn ôl yn hyfforddi cyn gynted ag y bydd yn goresgyn ei llawdriniaeth ddiweddar, fod bod yn bara athletwraig wedi newid ei bywyd a'i bod yn gobeithio y gall ysbrydoli eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae wedi rhoi llwyfan iddi yn ogystal â ffocws ac eleni codwyd ei phroffil yn y byd chwaraeon fwy fyth ar ôl nifer o ymddangosiadau ar y cyfryngau lle bu’n siarad am ddillad chwaraeon, delwedd y corff a safbwyntiau am athletwyr benywaidd.

“Rydyn ni eisiau cael y genhedlaeth nesaf allan yn ysbrydoli pobl ag anableddau i gymryd rhan mewn chwaraeon,” meddai Breen, sydd bob amser yn llawn brwdfrydedd heintus.

“Fe all wneud cymaint o wahaniaeth i'ch bywyd chi ac yn bendant gall eich helpu chi gyda'ch anabledd.

“Rhowch gynnig ar bopeth a dod o hyd i'r hyn rydych chi’n angerddol amdano. Y peth pwysicaf yw mwynhau'r hyn rydych chi'n ei wneud a pheidio byth â rhoi'r ffidil yn y to.

“Gobeithio ein bod ni eisoes yn ysbrydoli pawb wnaeth ein gwylio ni yn Tokyo.”

Newyddion Diweddaraf

‘Oedi’ Cronfa Cymru Actif ar gyfer ceisiadau newydd

Oherwydd y nifer aruthrol o geisiadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn eleni, mae Chwaraeon Cymru yn oedi…

Darllen Mwy

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy