Skip to main content

Parkwood Leisure yn ffurfio partneriaeth â Chwaraeon Cymru i weithredu Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Parkwood Leisure yn ffurfio partneriaeth â Chwaraeon Cymru i weithredu Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai

Parkwood Leisure, un o weithredwyr cyfleusterau hamdden mwyaf blaenllaw y DU, fydd darparwr rheolaeth newydd Plas Menai, Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, o 01 Chwefror 2023 ymlaen.

Bydd y contract newydd yn golygu y bydd Parkwood Leisure yn rhedeg y Ganolfan o ddydd i ddydd am gyfnod cychwynnol o ddeng mlynedd. Bydd yr adeiladau a’r tir yn parhau i fod yn eiddo i Chwaraeon Cymru a bydd yr holl staff presennol yn parhau i gael eu cyflogi ar y safle.

Fel rhan o’r cytundeb newydd, mae grŵp partneriaeth strategol sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru, Parkwood Leisure, a staff Plas Menai, wedi’i sefydlu i ganolbwyntio ar ddatblygu a gwella’r gwasanaethau presennol, a chefnogi’r staff gyda’r pontio.

Wrth siarad am lofnodi’r contract, dywedodd Graham Williams, Cyfarwyddwr yn Chwaraeon Cymru: “Rydw i’n falch iawn o groesawu Parkwood Leisure yn ffurfiol fel y partner sydd wedi’i gomisiynu i reoli’r Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ym Mhlas Menai.

“Mae Parkwood yn deall yn glir pa mor bwysig yw Plas Menai i Chwaraeon Cymru, y sector a’r gymuned leol ac mae eu hanes o gydweithio i wella a darparu gwasanaethau yng Nghymru a thu hwnt yn nodedig.

“Mae Plas Menai eisoes yn ddarparwr byd-enwog ar weithgareddau awyr agored gyda staff balch ac angerddol a does gen i ddim amheuaeth y bydd yr arbenigedd ychwanegol fydd yn cael ei gyfrannu gan Parkwood Leisure yn arwain at fwy o bobl yn mwynhau popeth sydd gan Blas Menai i’w gynnig. Rydw i’n gyffrous i weld yr hyn y gallwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd.”

Gyda mwy na 25 mlynedd o brofiad mewn datblygu a gweithredu cyfleusterau hamdden, mae Parkwood Leisure yn rhedeg mwy na 75 o safleoedd mewn mwy na 30 o awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys canolfan gweithgareddau awyr agored Dolygaer, sydd ym Mannau Brycheiniog.

Dywedodd Glen Hall, Rheolwr Gyfarwyddwr Parkwood Leisure: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn ymgymryd â gweithredu Plas Menai, gan weithio gyda Chwaraeon Cymru i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r safle yn y tymor hir. 

“Mae annog ffyrdd o fyw hapusach ac iachach wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn Parkwood, ac rydyn ni’n ymroddedig i gynnal y lefelau uchel o wasanaeth y mae Plas Menai yn adnabyddus amdano a darparu mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau’r cyfleuster gwych.”

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu ymweliad â Phlas Menai, ewch i https://www.plasmenai.wales/.

Newyddion Diweddaraf

Wythnos Hinsawdd Cymru 2023: Beth mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd?

Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu’r genedl i gyrraedd sero net erbyn 2030 a chreu Cymru wyrddach, gryfach…

Darllen Mwy

Rhoi mwy o resymau i bobl ifanc ddewis sboncen

Dylai mwy o sylw ar y llwyfan byd-eang helpu i danio diddordeb pobl ifanc.

Darllen Mwy

Gorllewin Cymru yn cymryd cam hanfodol tuag at drawsnewid chwaraeon cymunedol

Mae Dr Sue Barnes wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru.

Darllen Mwy