Skip to main content

Pecyn cefnogi i weithwyr llawrydd y byd chwaraeon

Mae cyfarwyddwyr ffitrwydd, hyfforddwyr personol a hyfforddwyr eraill ymhlith gweithwyr hunangyflogedig a llawrydd y sector chwaraeon a all wneud cais am becyn cefnogi Covid-19 newydd gan Chwaraeon Cymru. 

Sefydlwyd 'Cronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon' newydd gwerth £3m i ddarparu rhywfaint o gymorth ariannol i'r gweithwyr niferus yn y maes sy'n darparu gweithgareddau yn uniongyrchol i gael y genedl i symud. 

Mae cyllid o £1,500 ar gael, a bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut maent wedi colli o leiaf y swm hwnnw mewn incwm ers i'r argyfwng ddechrau oherwydd bod contractau'n cael eu canslo neu gyfyngiadau'n atal eu gwaith. 

Bydd cyfnod byr ar gael i ymgeiswyr gyflwyno eu hawliadau – mae’r ceisiadau’n agor ar wefan Chwaraeon Cymru am hanner dydd, dydd Iau 26 Tachwedd a byddant yn cau am 5pm ddydd Mercher 9 Rhagfyr.

Mae cyfarwyddyd llawn ynghylch pwy sy’n gymwys i wneud cais i’r Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon, a sut i ymgesio, ar gael yn www.chwaraeon.cymru/cronfagweithwyrllawrydd. 

Mae'r cyllid o £3m yn rhan o Becyn Adfer Chwaraeon a Hamdden cyffredinol gwerth £14m a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru i Chwaraeon Cymru fel bod posib diogelu sefydliadau, cyfleusterau a swyddi chwaraeon. 

Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru.: "Y gronfa hon yw'r gyntaf o'i bath yn y DU ar gyfer gweithwyr llawrydd chwaraeon, ac mae'n arwydd clir arall o'r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i chwaraeon a'u gallu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. 

"Mae cymaint o unigolion gweithgar yng Nghymru sy'n gwneud bywoliaeth o hyfforddi, rhedeg gwersylloedd ymarfer, addysgu dosbarthiadau ffitrwydd, a gwneud pob math o bethau eraill i'n cadw ni’n actif.

“Gan weithio yng nghalon y cymunedau, maen nhw’n gwneud cyfraniad arwyddocaol at y sector chwaraeon. Ond, fel pawb arall, mae’r pandemig wedi eu taro’n galed iawn.             

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi na fydd £1,500 yn talu am yr holl golledion ariannol y mae llawer wedi'u dioddef, ond rydyn ni’n gobeithio y bydd yr arian yma’n cyfrannu rhywfaint at helpu i sicrhau y gall yr unigolion yma aros yn y sector, gan barhau i ddefnyddio eu doniau i wella bywydau pobl eraill." 

Ychwanegodd Sarah: "Gan ein bod ni am gael y taliadau allan i ymgeiswyr llwyddiannus cyn gynted â phosib, yn enwedig gyda'r Nadolig yn agosáu, mae'r ffenest ar gyfer ceisiadau yn eithaf byr. Felly, rydyn ni’n annog ymgeiswyr i ddarllen y canllawiau ar ein gwefan ni’n ofalus er mwyn sicrhau eu bod yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol gyda'u cais." 



Mae'r £1,500 ar gael i weithwyr llawrydd a gweithwyr hunangyflogedig yng Nghymru y mae eu gwaith yn cefnogi pobl yn uniongyrchol i fod yn actif, fel hyfforddwyr chwaraeon, hyfforddwyr personol, hyfforddwyr ffitrwydd a chyfarwyddwyr dawns. Nid yw ar gael i weithwyr llawrydd eraill sy'n gweithio yn y diwydiant, fel awduron chwaraeon, sylwebyddion, ffotograffwyr, therapyddion chwaraeon a maethegwyr.