MAE’R GRONFA GWEITHWYR LLAWRYDD CHWARAEON AR GAU NAWR.
I GAEL GWYBOD MWY AM GYLLID YN Y DYFODOL AR GYFER GWEITHWYR LLAWRYDD: COFRESTRWCH I FOD AR EIN RHESTR BOSTIO
Mae’r Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon wedi'i chynllunio i helpu gweithwyr llawrydd ym maes chwaraeon a gweithgarwch corfforol i adfer y colledion maent wedi'u profi o ganlyniad i'r pandemig.
Mae'r gronfa ar gyfer gweithwyr llawrydd y mae eu gwaith yn darparu gweithgarwch yn uniongyrchol i gyfranogwyr (e.e. hyfforddwyr personol, cyfarwyddwyr/ymarferwyr a hyfforddwyr cyflogedig) sydd wedi colli o leiaf £1,500 o incwm oherwydd pandemig COVID-19.
Bydd gweithwyr llawrydd sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd yn cael £1,500 i adfer eu colledion. Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i brofi eu cymhwysedd, fel y manylir isod.
MEINI PRAWF CYMHWYSEDD
Bydd rhaid i chi fodloni meini prawf cymhwysedd i fod yn gymwys ar gyfer y gronfa.
Rydych chi’n gymwys os gallwch chi gadarnhau’r canlynol:
- Rydych yn weithiwr llawrydd yn y sector chwaraeon sy'n wynebu heriau ariannol o ganlyniad i COVID-19 ac mae eich gwaith yn darparu gweithgarwch yn uniongyrchol i gyfranogwyr*
- Mae eich gweithgaredd yn digwydd yng Nghymru ac o fudd i bobl yng Nghymru
- Cyn 1 Mawrth 2020 roeddech yn derbyn tâl am wasanaethau fel ymarferydd hunangyflogedig yng Nghymru yn darparu gweithgarwch yn uniongyrchol i gyfranogwyr yng Nghymru
- Mae eich gwaith wedi cael ei effeithio gan Covid-19 ers mis Mawrth 2020
- Mae eich gwaith llawrydd yn ffynhonnell incwm sylweddol ac mae’r incwm rydych wedi’i golli oherwydd COVID-19 yn cyfateb i £1,500 o leiaf
- Mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus priodol yn ei le ar gyfer y gweithgareddau rydych yn eu cyflwyno
- Nid ydych wedi derbyn cyllid / mae gennych gais wedi’i gyflwyno ar gyfer Cronfa Adfer Ddiwylliannol Cymru
- Nid ydych wedi derbyn cyllid gan y Grant Sefydlu Busnes a lansiwyd ym mis Mehefin 2020 i helpu busnesau newydd i oroesi canlyniadau economaidd y coronafeirws (Covid-19), y cynllun cymorth incwm hunangyflogedig, nac unrhyw fath arall o gymorth ariannol cysylltiedig â COVID-19 gan unrhyw gorff cyhoeddus
- Nid ydych wedi derbyn taliad yswiriant am golli incwm.
* Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau sy’n cefnogi pobl yn uniongyrchol i fod yn actif, fel hyfforddwr chwaraeon, hyfforddwr personol, cyfarwyddwr/ymarferydd.
Nid yw'n cynnwys gweithgareddau fel ymgynghorydd chwaraeon; maethegydd chwaraeon; ffisiotherapydd chwaraeon, awdur chwaraeon / sylwebydd / ffotograffydd / dadansoddwr; ymgynghorydd busnes; swyddog achub bywyd; cynorthwy-ydd hamdden.
Y DYSTIOLAETH OFYNNOL YN EICH CAIS
Er mwyn i’ch cais gael ei ystyried rhaid i chi ddarparu’r dystiolaeth a’r dogfennau canlynol:
- Tystiolaeth o bwy ydych chi
Un o’r canlynol: trwydded yrru cerdyn llun gyfredol y DU neu’r EEA; pasbort cyfredol wedi’i lofnodi; tystysgrif geni wreiddiol; arall (rhowch fanylion). - Tystiolaeth o’ch cyfeiriad
Un o’r canlynol: bil cyfleustodau; datganiad banc; datganiad ffôn symudol. - Tystiolaeth o waith a ganslwyd rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021*
* Sylwer na fydd angen tystiolaeth o waith ar gyfer yr holl gyfnod o amser uchod. Os na allwch ddarparu'r dogfennau perthnasol oherwydd absenoldeb mamolaeth/rhiant neu fabwysiadu, rhowch wybod i ni. - Mae’r esiamplau o sut gall y dystiolaeth hon gael ei darparu’n cynnwys y canlynol:
- Contractau / contractau wedi'u canslo;
- Anfonebau;
- Geirda gan gyflogwr / cadarnhad o waith a ganslwyd gan gyflogwr;
- Llythyr Ymgysylltu / canslo ymgysylltu;
- Arall (bydd angen i chi roi manylion).
- Gwybodaeth Arall y mae’n rhaid ei darparu:
- Bydd angen darparu copi diweddar o’ch datganiad banc unigol (mae angen y copi hwn er mwyn cadarnhau manylion banc ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio i werthuso eich cais);
- Tystiolaeth o waith;
Mewngofnodi i’r System Ymgeisio am Grantiau
Os ydych chi wedi cael cyllid yn flaenorol gan Chwaraeon Cymru ar gyfer clwb / sefydliad a bod gennych fanylion mewngofnodi eisoes ar gyfer ein Porthol Grantiau Ar-lein, bydd angen i chi ofyn am fynediad i weld ffurflen ar-lein y Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon. I wneud hynny, anfonwch e-bost at [javascript protected email address] a chyfeiriwch at eich enw, y cyfeiriad e-bost rydych yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i'r Porthol Grantiau Ar-lein ac enw'r clwb / sefydliad rydych chi'n credu eich bod eisoes yn gysylltiedig ag ef. Bydd Chwaraeon Cymru wedyn yn gallu rhoi mynediad i chi at ffurflen ar-lein y Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon.