Mae Jim Roberts yn mynnu nad yw’n edifar am ei benderfyniad i ymddeol - er bod rygbi cadair olwyn ar fin mwynhau ei foment fwyaf yng Nghymru yn 2023.
Mae Roberts - yr ysbrydoliaeth sgorio ceisiau y tu ôl i fedal aur hanesyddol Prydain Fawr yng Ngemau Paralympaidd Tokyo yr haf yma - wedi penderfynu rhoi’r gorau i chwarae yn 34 oed.
Mae’n cyfaddef bod ychydig o droi braich wedi bod yn y gamp i geisio ei gael i aros tan 2023, pan fydd Cymru’n cynnal Pencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn Ewrop yn Stadiwm y Principality, ond dyna’r rheswm sy’n gwneud iddo roi’r gorau iddi ryw fath.
Mae troi braich yn fwy poenus nag yr arferai fod - nawr ei fod yn ei dridegau canol ar ôl bron i ddegawd fel chwaraewr rhyngwladol dros Brydain Fawr.
“Roedd yna ychydig o ffactorau i’w hystyried,” meddai Roberts, y seren a aned yn y Trallwng a sgoriodd 24 cais wrth i Brydain Fawr drechu UDA o 54-49 yn rownd derfynol y Gemau Paralympaidd yn Tokyo.
“Un oedd yr anafiadau tymor hir sydd gen i, sy’n gwaethygu’n raddol po hiraf rydw i’n chwarae yn y gadair.
“Ond hefyd y ffaith ’mod i’n gweithio’n llawn amser. Rydw i wedi bod yn ceisio ffitio hynny i mewn gyda bod yn athletwr llawn amser, sy'n anodd a ’dyw e ddim yn gadael llawer o amser i ddim byd arall.
“Mae gen i bethau eraill rydw i eisiau eu cyflawni mewn bywyd ac felly roedd yn rhaid i mi dorri rhywbeth allan. Rygbi oedd yr elfen gafodd ei thorri.”
Dyma'r math o resymu digynnwrf a gwrthrychol yr oedd Roberts yn ei gyfrannu at fyd prysur, byrlymus rygbi cadair olwyn, gyda'i wrthdrawiadau swnllyd, y codymu achlysurol a’r bwrlwm di-baid.
Ers iddo ddechrau chwarae’n rhyngwladol dros Brydain Fawr yn ôl yn 2013, mae dull cŵl Roberts o weithredu wedi bod yn nodwedd o esgyniad Prydain Fawr i fyny yn safleoedd y byd.
Fe helpodd i sicrhau pumed safle yng Ngemau Paralympaidd Rio yn ôl yn 2016, teitl Pencampwriaethau Ewropeaidd yn 2017, ac eto yn 2019, ac wedyn aur Paralympaidd yn Japan yn y Gemau a ohiriwyd yr haf yma.
Ond nawr, mae'n amser gorffwys yr ysgwyddau yna sy’n pwmpio’r olwynion a defnyddio'r canolbwyntio craff hwnnw yn amlach yn ei swydd o ddydd i ddydd - fel pensaer gyda Phenseiri Corstorphine a Wright yn Llundain.
“Dydw i ddim wedi chwarae heb ryw fath o boen ers dwy neu dair blynedd,” mae’n cyfaddef.
“Roedd gen i ffysio oedd yn ei reoli ac fe gefais i lawdriniaeth y Nadolig diwethaf, ond ’wnaeth hynny ddim helpu llawer.
“Rydw i wedi bod yn ceisio ei reoli, ond mae wedi bod yno yn y cefndir erioed.
“Ond mae'n cyrraedd pwynt lle nad ydych chi'n fodlon gwneud yr aberth mwyach.
“Does dim llawer o athletwyr sy’n gallu rhoi’r gorau iddi ar ôl uchafbwynt mawr, lle maen nhw eisiau, fel ar ôl yr un mawr yn Tokyo. Felly, rydw i'n teimlo'n eithaf breintiedig i fod yn y sefyllfa honno.
“Ar hyn o bryd, fe fyddaf yn canolbwyntio ar fy ngyrfa bensaernïaeth ac yn datblygu hynny. Mae'r cwmni rydw i'n gweithio gyda nhw, Corstorphine a Wright, wedi bod o gymorth mawr ac wedi caniatáu amser i ffwrdd i mi fynd i hyfforddi ond nawr mae'n bryd i mi roi'r amser hwnnw yn ôl.”