Byddai’n syniad da i unrhyw un sy’n chwilio am ffigur ysbrydoledig yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn ystod wythnos Diwrnod Rhyngwladol y Merched edrych ar ymdrechion anhygoel Menna Fitzpatrick.
Yn ddiweddar cynhaliodd Urdd Gobaith Cymru eu cynhadledd #FelMerch yng Nghaerdydd i gyd-fynd â’r diwrnod byd-eang blynyddol ar Fawrth 8.
Nod #FelMerch yw ysbrydoli a chefnogi merched ifanc a genethod i gymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel a byddai’n anodd dod o hyd i fodel rôl cystal â Fitzpatrick.
Does gan y sgïwr paralympaidd 23 oed o Gymru ddim golwg yn ei llygad chwith, a dim ond golwg gyfyngedig yn ei llygad dde.
Ond mae hi wedi goresgyn y rhwystr hwnnw – yn ogystal â’r holl rai strwythurol eraill y mae cymdeithas wedi’u creu iddi fel merch mewn camp nad yw’n cael ei chysylltu â Chymru fel arfer – i gyrraedd copa uchaf y mynydd.
Pan enillodd Menna fedal arian yn y gystadleuaeth sgïo Super-G yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf yn Beijing yr wythnos hon, daeth yn Baralympiad Gaeaf mwyaf llwyddiannus Prydain erioed.
Ar y cyfrif diwethaf, roedd hi wedi ennill chwe medal Baralympaidd – pedair yng Ngemau PyeongChang yn 2018 ac arian ac efydd yr wythnos hon yn Tsieina.
Nid yw'r ffaith ei bod wedi cael ei geni gyda phlygiadau retinal cynhenid sydd wedi cyfyngu ar ei golwg wedi amharu erioed ar ei phenderfyniad a'i huchelgais.
Aeth ar wyliau sgïo gyda'i rhieni ac roedd angen eu cefnogaeth hwy ar y llethrau yn ogystal â chefnogaeth ei thywyswyr, sy'n mynd gyda hi pan fydd yn hedfan i lawr y cwrs ar gyflymder o hyd at 60mya.
Mae ymgyrch #FelMerch yr Urdd yn cydnabod bod pob merch sy’n awyddus i gymryd rhan mewn chwaraeon yn wynebu heriau, hyd yn oed os nad ydynt mor amlwg efallai â’r rhai mae Menna yn eu hwynebu.
Ei nod yw cefnogi menywod a merched i deimlo eu bod wedi'u grymuso i gael y gorau o weithgarwch corfforol. Y bwriad yw sicrhau bod merched yn cadw'n heini wrth iddynt fynd yn hŷn a'u bod yn gallu goresgyn anghydraddoldebau o ran mynediad a chyfranogiad.
Mae llai o ferched yn cymryd rhan mewn chwaraeon na bechgyn ym mhob oedran, mae cadw genethod a merched ifanc mewn chwaraeon yn llai sicr nag ydyw ar gyfer eu cyfoedion gwrywaidd, ac mae’r gymhareb hyfforddwyr a gweinyddwyr hefyd yn pwyso'n drwm yn erbyn merched.
Mae ymchwil wedi dangos hefyd bod yr holl dueddiadau hyn o anghydraddoldeb wedi'u hehangu yn ystod cyfnodau clo’r pandemig.