Skip to main content

Ronaldo Abertawe …. gyda'r medalau i brofi hynny

Breuddwyd y pencampwr Paralympaidd David Smith ar un adeg oedd bod yn beilot awyren, ond mae ei lwybr wedi ei lywio i gyfeiriad gwahanol iawn.

Mae seren Prydain Fawr o Abertawe wedi ennill popeth sydd i'w ennill yn y byd boccia.

Nawr, ag yntau’n chwaraewr mwyaf llwyddiannus Prydain erioed, mae eisiau creu gwaddol.

Dychwelodd Smith o Japan yn ddiweddar ar ôl amddiffyn y fedal aur a enillodd yng Ngemau Paralympaidd Rio yn 2016.

Hefyd enillodd aur yn y gystadleuaeth i dimau yn ôl yn 2008, yn ogystal â hawlio dwy fedal yn Llundain 2012.

David Smith holds up his gold medal won at Tokyo 2020
David Smith won Boccia gold at Tokyo 2020

 

Ond mae ei lwyddiant yn Tokyo, a oedd yn cynnwys dod yn ôl yn y rownd derfynol i ennill, yn un o'i lwyddiannau gorau eto.

“Mae’n deimlad anhygoel,” meddai Smith, a oedd yn siarad mewn digwyddiad yng Nghaerdydd i nodi Diwrnod Cenedlaethol Boccia.

“Hwn oedd un o fy hoff dwrnameintiau i erioed.

“Dim ots beth fyddai’r canlyniad wedi bod, rydw i’n credu y byddwn i wedi bod yn llawn bwrlwm yn dod adref o Tokyo.

“Rydw i wrth fy modd mewn gêm gystadleuol ac roedd dod yn ôl ac ennill yn y rownd derfynol yn fath o ornest rydw i’n ei mwynhau.

“Fe wnes i sylwi ar rai gwendidau yn fy ngwrthwynebydd a gwneud yn siŵr fy mod i’n manteisio arnyn nhw. Doedd e ddim yn bert bob amser ond rydw i'n ymfalchïo mewn bod yn anodd fy nghuro. 

“Mae meddwl bod 1.1 miliwn o bobl wedi gwylio fy rownd derfynol i’n wallgof i mi ac i’r byd boccia yn gyffredinol.

“Fe wnaeth y sylw leihau’r ergyd o fethu cael cefnogwyr allan yna.

“Mewn rhai ffyrdd, roedd yn eithaf braf mewn gwirionedd oherwydd roedd bron â gwneud y dychwelyd adref hyd yn oed yn well.

“Dydi fy ffôn i heb stopio canu ers i mi ddod nôl.”

Crëwyd Boccia gan feddwl am chwaraeon anabledd. Gall unrhyw un ei chwarae waeth beth yw eu hoedran a difrifoldeb eu hanabledd. Mae'n debyg i fowls a'r nod yw dod agosaf at y jac.

Mae Smith, sydd â pharlys yr ymennydd, wedi cael gyrfa hir hyd yn hyn, gan ennill ei deitl Prydeinig cyntaf yn 14 oed a chystadlu yn y Gemau Paralympaidd bedair gwaith.

Mae'r chwaraewr 32 oed yn dweud bod seren y byd pêl droed, Cristiano Ronaldo, yn un ysbrydoliaeth iddo a thynnodd sylw at y tebygrwydd rhyngddo ef a seren fawr Manceinion Unedig.

“Rydyn ni ar gynllun maeth tebyg. Os yw’n ddigon da i Ronaldo, mae’n ddigon da i mi,” meddai Smith yn llawn brwdfrydedd.

“Mae’n chwaraewr proffesiynol gwych, rydw i wir yn edmygu ei hirhoedledd. Mae'r hyn mae e'n ei wneud nawr yn 36 oed fel yr hyn rydw i'n ceisio ei wneud yn y byd boccia.

“Mae'n ymwneud â phrofi nad oes ots pa oedran ydych chi, mae unrhyw beth yn bosibl cyn belled â'ch bod chi'n gofalu amdanoch chi'ch hun. 

“Rydw i’n hoffi pa mor gystadleuol ydi e, ac mae ganddo ryw elfen drahaus i’w gymeriad hefyd, sy’n fy atgoffa i ychydig ohono i fy hun,” meddai Smith gan chwerthin.

“Ond hefyd mae e’n chwaraewr tîm ac rydw i’n ceisio gwneud fy rhan i bawb hefyd.

“Mae e’n llysgennad gwych i bêl droed ac rydw i eisiau bod yr un fath ar gyfer boccia.”

Mae'n deg dweud bod llwyddiant Smith mewn boccia wedi newid ei fywyd ac wedi rhoi atgofion oes iddo.

“Fe ddaeth Boccia o hyd i mi pan oeddwn i ar groesffordd a ddim yn gwybod beth oeddwn i eisiau ei wneud hefo fy mywyd,” meddai.

“Hon oedd yr un gamp oedd â llwybr cystadleuol i mi. Un diwrnod yn Beijing yn 2008, fe wawriodd yn sydyn arna’ i fod hyn bellach yn eithaf difrifol mewn gwirionedd.

“Ac wedyn roeddwn i wedi gwirioni a dyna sut mae pethau wedi bod byth ers hynny, a dweud y gwir. Rydw i'n gaeth i ennill.

“Yn syth ar ôl ennill aur yn Beijing, fe wnes i astudio peirianneg awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe.

“Wedyn, ar ôl i mi orffen fy ngradd, daeth boccia yn bwysig iawn eto gyda Llundain, Rio a nawr Tokyo.

“Doedd yr ochr beirianneg ddim wedi cydio yn llwyr felly roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n canolbwyntio ar chwaraeon. Rydw i hefyd yn hyfforddwr ffordd o fyw ac yn mwynhau helpu pobl eraill.” 

Mae Smith yn chwarae ac yn hyfforddi yng nghanolfan LC2 Abertawe yn y ddinas ac er nad oedd y lleoliad ar gael iddo am 13 mis yn ystod y cyfnod clo, mae'n ddiolchgar i'r ganolfan ac i Chwaraeon Anabledd Cymru am ddod o hyd i leoliad iddo yng Nghaerdydd yn ystod ei gyfnod yn paratoi ar gyfer Tokyo. 

“Roedd pawb o help mawr. Doeddwn i ddim yn gallu mynd i LC2 am amser hir, ond roeddwn i'n gallu hyfforddi yng Nghaerdydd ac wedyn dod yn ôl i Abertawe ar gyfer y paratoadau terfynol. Roedd hynny'n golygu llawer. ”

Ar ôl symud i Gymru dros ddegawd yn ôl, byddai wrth ei fodd yn gweld mwy o bobl yn cymryd rhan mewn boccia ac mae’n dweud ei fod yn agor llawer o wahanol lwybrau o fewn a thu allan i chwaraeon.

“Mae gan chwaraeon yn gyffredinol lawer o bŵer. Rydw i'n credu ei fod yn llesol i bawb.

“I bobl ag anableddau, mae'n bwysig iawn gan ei fod yn eich helpu i sylweddoli'r hyn y gallwch ac na allwch chi ei wneud,” eglura Smith, a ddechreuodd chwarae’r gamp yn yr ysgol.

“Mae'n rhoi cyfle i chi fod yn aelod gweithredol o gymdeithas sydd wir yn rhoi hyder i chi.

“Fe fyddai’n anhygoel pe gallai gydio go iawn mewn ysgolion oherwydd bydd pobl a fyddai fel arfer yn gwneud mathemateg ychwanegol yn lle addysg gorfforol yn dal i allu cymryd rhan mewn chwaraeon.

“Fe allwch chi chwarae boccia mewn tîm, fel pâr, neu'n unigol, felly rydw i'n credu bod gan y gamp lawer o apêl.

“Hyd yn oed os nad ydych chi eisiau bod yn chwaraewr, fe allwch chi ddyfarnu neu wirfoddoli i helpu pobl eraill mewn meysydd fel ffisiotherapi.”

Does dim arwyddion bod gyrfa boccia Smith yn mynd i ddod i ben yn fuan iawn. Mae'n bwriadu cymryd rhan yng Ngemau 2024 ym Mharis a'r rhai yn Los Angeles yn 2028, o leiaf.

Ond er gwaethaf ei gyflawniadau hyd yma, mae ganddo lawer o gymhelliant o hyd i hyrwyddo'r gamp mae'n ei mwynhau gymaint.

“Does dim posib mynd yn rhy hen i chwarae boccia mewn gwirionedd. Dydi hi ddim yn gamp debyg i chwaraeon eraill lle gall oedran eich taro chi a bod rhaid i chi ymddeol.

“Fe alla’ i ddal ati tra rydw i eisiau. Yn sicr, rydw i’n gweld fy hun yn cystadlu yn y ddau gylch nesaf yn y Gemau Paralympaidd, ac yn eithaf ffansïo Awstralia yn 2032 hefyd.

“I mi, gweld pa mor hir y galla’ i ddal ati ar y lefel yma sy’n bwysig. Rydw i eisiau dal ati i ysbrydoli pobl eraill a byddai'n anhygoel creu gwaddol ar gyfer y gamp.

“Os ydi hynny'n golygu fy mod i’n estyn fy record fuddugol ymhellach fyth – wel grêt.”

Ewch i Chwaraeon Anabledd Cymru i gael gwybod mwy am y gamp Boccia a sut i gymryd rhan.

Newyddion Diweddaraf

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy

Paneli solar yn rhoi ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae chwyldro ynni gwyrdd ar droed mewn chwaraeon cymunedol yng Nghymru, gyda phaneli solar yn dod yn…

Darllen Mwy