Skip to main content

Rownderi yn ffynnu oherwydd y galw am chwaraeon cymdeithasol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Rownderi yn ffynnu oherwydd y galw am chwaraeon cymdeithasol

Maen nhw’n chwarae bob wythnos ac yn ceisio rhagori ar ei gilydd gyda'u henwau gymaint ag y maen nhw ar y sgorfwrdd.

Base Invaders v Son Of A Pitch. Drum and Bases v Saved By The Balls. Bats Hit Crazy v The Merry Go Rounders.

Neu efallai y byddai'n well gennych chi fod yn rhan o Base City Rollers? Neu Positive Battitudes? Bat To The Future efallai?

Dyma rownderi, y gamp y mae’r rhan fwyaf o bobl wedi ei chwarae fwy na thebyg – a’i mwynhau – ar ryw adeg yn ystod eu dyddiau ysgol, sydd bellach yn cael ei hatgyfodi, ei threfnu, ei chaboli, ac yn cael bywyd newydd ledled De Cymru.

Mae rhai yn chwarae mewn timau i ferched yn unig. Rhai mewn timau cymysg. Mae gan y rhan fwyaf ystod oedran sy'n caniatáu i famau chwarae gyda meibion a merched, tadau i chwarae gyda nithoedd, neu hyd yn oed y rhai y mae eu dyddiau ysgol ymhell y tu ôl iddyn nhw ei mwynhau gyda'u wyrion a’u wyresau.

Yn gyffredinol, maen nhw’n chwarae yn yr awyr agored yn yr haf a dan do pan fydd y dyddiau'n fyrrach a'r tywydd yn troi.

menyw mewn bib rhif 9 yn dal bat rownderi allan, yn barod i daro'r bêl

 

Fe ddechreuodd y cyfan fel syniad annelwig a grybwyllwyd ar draeth Aberafan gan gyn-hyfforddwr pêl droed, Julie Clayden.

Roedd hynny fis Tachwedd diwethaf – dim ond 10 mis yn ôl.

Ers hynny, mae My Rounders wedi blaguro yn 73 o dimau cofrestredig sy’n chwarae mewn wyth cynghrair ar wahân gyda mwy na 1,200 o chwaraewyr.

“Roedd galw allan yna am gamp gymdeithasol a fyddai’n hwyl i’w chwarae, ond a fyddai hefyd yn helpu eich ffitrwydd chi,” meddai Julie.

“Fe wnes i roi neges ar y cyfryngau cymdeithasol ac o fewn tair wythnos roedd gen i 152 o bobl oedd eisiau chwarae. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cofio rownderi o’u dyddiau iau a’r hwyl roedd yn ei gynnig iddyn nhw.”

Dyna oedd y sbarc i Gynghrair Port Talbot, sy’n cael ei chwarae yng Nghanolfan Hamdden Aberafan. Nesaf daeth Tre-gŵyr ger Abertawe, Pontardawe, Castell-nedd ac mae cynghreiriau ar y ffordd i Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a'r Barri.

I'r rhai sydd wedi hen anghofio, mae rownderi yn gamp sy'n cynnwys naw chwaraewr mewn tîm, bat, pêl, pedwar postyn siâp diemwnt, bowliwr, a dyfarnwr.

Mae pob batiwr yn ceisio mynd o amgylch y pedwar postyn i ennill pwynt neu rownder a'r tîm gyda'r mwyaf o rownderi ar ôl nifer penodol o fatiadau ydi'r enillydd. 

Gall y timau fod o'r un rhyw neu'n gymysg. Mae My Rounders yn caniatáu i bob tîm gynnwys uchafswm o dri chwaraewr gwrywaidd, ond maen nhw hefyd yn rhedeg timau a chynghreiriau merched yn unig ar wahân.

“Mae rownderi yn gamp gymdeithasol gwbl hygyrch y mae pawb i weld yn ei mwynhau,” meddai Julie.

“Mae pobl wrth eu bodd gyda’r ffaith ei bod ar gyfer pob oedran, a phob lefel o ffitrwydd. Rydyn ni wedi denu rhai pobl sy'n eithaf heini ac actif ac sy’n chwarae chwaraeon eraill hefyd, ond mae gennym ni hefyd lawer mwy o chwaraewyr oedd eisiau'r agwedd o gyfeillgarwch a'r elfen o hwyl - yn enwedig ymhlith eu ffrindiau a'u teuluoedd, neu gydweithwyr.

“Pan wnaethon ni ddechrau yng Nghanolfan Hamdden Aberafan, roedd gennym ni oriel wylio ac roedd yn wych bod mam sengl yn gallu dod draw, chwarae rownderi, a chael ei phlant yn ei chymeradwyo o'r oriel wylio lle roedden nhw'n gwbl ddiogel a saff.

“Dydych chi ddim yn cael llawer o chwaraeon mor gymdeithasol â rownderi, mae’r rheolau’n syml ac mae’n ymddangos bod pobl wrth eu bodd.” 

Fel pob camp sy’n cael ei threfnu, mae angen swyddogion a dyfarnwyr ar gyfer My Rounders i'w helpu i redeg yn esmwyth, a dyna pam eu bod yn cynnig hyfforddiant i ddyfarnwyr.

Mae My Rounders yn archebu'r lleoliadau, yn cyflenwi'r dyfarnwyr, a hyd yn oed yn helpu i ffurfio timau os yw unigolyn eisiau chwarae ond nad oes ganddo gyd-chwaraewyr parod eraill.

Mae'r costau tua £50 yr wythnos i bob tîm, sy'n costio rhwng £4 a £5 i bob chwaraewr.

Felly, beth am y chwaraewyr? Pwy ydyn nhw a pham maen nhw'n chwarae rownderi?

Natalie Edwards ar gae yn gwisgo bib oren gyda'r rhif 5 wedi'i argraffu arno, yn dal bat rownderi ac yn gwenu i'r camera.
Natalie Edwards
Danny James yn sefyll ar gae, yn gwenu ar y camera tra mae pobl yn chwarae rownderi y tu ôl iddo
Danny James

Natalie Edwards – Bats Hit Crazy

Roeddwn i'n arfer chwarae rownderi gyda mam pan oeddwn i'n fach. Fe fyddai hi wedi bod wrth ei bodd gyda chynghreiriau trefnus fel hyn.

Rydw i'n 42 oed, yn fam ac rydw i’n cael fy ystyried dros bwysau.

Does dim unrhyw chwaraeon tîm i bobl fel fi mewn gwirionedd, does yna ddim. Mae'n debyg y gallwn i fynd i chwarae tennis gydag un person arall, neu badminton.

Fe allwn i redeg, ond rownderi ydi’r unig beth y galla’ i ei wneud fel rhan o dîm a dyna pam rydw i wrth fy modd.

Mae’n debyg bod pêl rwyd, ac efallai pêl droed, i ferched nawr, ond roedd yn teimlo i mi bod llechen lân gyda rownderi a phawb ar yr un lefel.

Mae fy ngŵr i wedi dechrau chwarae a fy mhlentyn naw oed i hefyd. Am faint o chwaraeon eraill allwch chi ddweud hynny?

Mae yna bobl o bob lefel ffitrwydd gwahanol, pob gallu gwahanol, ac rydw i'n gweld hynny drwy'r amser oherwydd fy mod i hefyd yn dyfarnu.

Mae’n gamp gwbl wych.

Danny James – Base Invaders

Fe glywais i am y cynghreiriau rownderi ar Facebook ac fe ddywedodd fy ngwraig, fy chwiorydd a fy merched i gyd y bydden nhw’n hoffi chwarae felly fe benderfynodd ryw ychydig ohonom ni gofrestru tîm.

Yn y diwedd fe wnes i fod yn gapten y tîm oherwydd fi oedd yr un wnaeth ei gofrestru. Ond ar y dechrau, roedden ni'n cael crasfa bob wythnos!

Fe wnaethon ni ddechrau ymarfer ychydig mwy ac yn araf bach fe wnaethon ni ddechrau gwella.

Roedd pawb yn sôn am y rownderi ym Mhort Talbot ac fe wnaeth nifer y timau a'r chwaraewyr gynyddu yn arw.

Am ei bod hi’n gamp mor gymdeithasol rydw i’n meddwl. Rydych chi'n cymryd rhan mewn chwaraeon, ond rydych chi'n cael hwyl gyda'ch teulu a'ch ffrindiau.

Roedd fy ffrindiau i’n tynnu fy nghoes i pan wnes i ddechrau chwarae, ond y peth nesaf roeddwn i'n ei wybod oedd fy mod i ar y posteri i gyd!

Rydw i wedi ymddeol yn ddiweddar, ond rydw i wedi gwneud pob math o chwaraeon dros y blynyddoedd – pêl droed, carate, golff.

Mae rownderi yn gymdeithasol iawn. Mae rhai timau yn aros o gwmpas wedyn ac yn sgwrsio gyda the a chacen a phan es i i’r noson gyflwyno ar ddiwedd y tymor diwethaf, roedd hi’n un o’r nosweithiau allan gorau i mi ei chael erioed!

Rydw i wedi chwarae chwaraeon tîm ar hyd fy oes, ond rydw i bob amser wedi sylwi nad oedd llawer o chwaraeon tîm wedi'u trefnu ar gyfer merched erioed, felly mae hyn yn wych.

Mae gan rai pobl rydw i'n eu hadnabod sy'n chwarae fywydau caled. Maen nhw'n byw ar eu pen eu hunain, does ganddyn nhw ddim llawer o arian, dydyn nhw ddim yn cael cymdeithasu llawer.

Ond mae rownderi wedi bod yn fendith iddyn nhw ac mae gweld hynny'n codi calon.

Gyda fy ngwraig a fy merched yn chwarae, fe fyddwn i'n dweud bod tua 30 y cant o'n sgwrs ni yn y tŷ nawr yn ymwneud â rownderi!

Merched ar gae yn chwarae gêm o rownderi
Kathy Griffiths yn gwenu ar gyfer y camera, yn taflu pêl rownderi i'r awyr.
Kathy Griffiths

Kathy Griffiths – Base City Rollers a Your Base Or Mine

Mae rownderi newydd ffrwydro ac rydw i'n adnabod rhai pobl sy'n chwarae pedair gwaith yr wythnos!

Mae wedi dod yn dipyn o gwlt bron, ond mae'r atyniad mor amlwg ac mae'n gymaint o hwyl i'w chwarae.

Mae ein merch ni, Stella, yn y brifysgol yn Portsmouth ac fe ddechreuodd hi chwarae yno. Roedd yn swnio'n wych ac roeddwn i ychydig yn genfigennus, oherwydd roeddwn i'n caru rownderi yn yr ysgol.

Yna, fe soniodd ffrind i mi ei bod hi’n chwarae mewn cynghrair ym Mhort Talbot ac fe ddywedais i wrthi y byddwn i wrth fy modd yn gwneud hynny.

Felly, fe wnes i roi fy enw i lawr, gydag un o fy ffrindiau, a dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny!

Y rheswm pam rydw i'n ei hoffi gymaint ydi fy mod i'n chwarae mewn tîm gyda fy mab, Dan, a Stella. Pa gamp arall allwch chi ei chwarae'n gystadleuol gyda dau berson 20 oed o’ch teulu eich hun - un yn fachgen a'r llall yn ferch?

Mae yna ŵr a gwraig yn chwarae yn ein tîm ni hefyd. Rydw i’n meddwl efallai y galla’ i berswadio fy ngŵr i chwarae yn fuan.

Mae pobl o bob oed yn chwarae - a phob siâp a maint. Mae rhai yn dda mewn chwaraeon, ac eraill heb wneud unrhyw chwaraeon ers blynyddoedd.

Does neb yn malio a neb yn barnu. Mae'n hwyl fawr.

Rydw i'n 57 oed ac nid fi ydi'r hynaf yn chwarae o bell ffordd. Mae'n actif ac yn gymdeithasol iawn oherwydd rydych chi'n dod i adnabod pobl.

Mae'n gamp mor gymdeithasol. Mae pawb sy'n chwarae yn teimlo eu bod nhw wedi gwneud rhywfaint o gyfraniad, hyd yn oed os mai dim ond un peth wnaethon nhw wrth faesu neu gael un ergyd gyda'r bat.

Mae wedi fy atgoffa i gymaint rydw i wrth fy modd yn bod yn rhan o chwaraeon tîm.

Rydw i wedi cael blynyddoedd yn sefyll ar y llinell gyffwrdd, yn gwylio fy mhlant yn gwneud chwaraeon, a nawr rydw i'n teimlo mai dyma fy amser i .

Os ydi plant yn gallu gweld bod eu mam yn dal ati i wneud rhywfaint o chwaraeon pan mae hi’n 40 neu’n 50 oed, yna mae honno’n neges wych iddyn nhw i ddal ati i gymryd rhan mewn chwaraeon hefyd.

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy