Main Content CTA Title

Sioe deithiol ysgolion Tîm Cymru yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sioe deithiol ysgolion Tîm Cymru yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf

Mae athletwyr Tîm Cymru yn parhau i ysbrydoli pobl ifanc ledled Cymru i gymryd rhan mewn chwaraeon drwy fynd ar daith o amgylch ysgolion y wlad.

Ers dechrau'r flwyddyn ysgol ym mis Medi, mae athletwyr lefel uchaf sydd wedi cynrychioli Cymru mewn amrywiaeth o chwaraeon wedi galw heibio 167 o ysgolion i annog pobl ifanc i fyw bywyd actif.

Yn ystod un o’r ymweliadau diweddaraf, cymerodd y codwr pwysau Catrin Jones a’r chwaraewr sboncen Emily Whitlock yr awenau mewn gwers Addysg Gorfforol i blant chwech a saith oed yn Ysgol San Siôr yn Llandudno.

Plant ysgol yn rhoi cynnig ar rai technegau codi pwysau gyda Catrin Jones
Po fwyaf o gyfleoedd gewch chi i roi cynnig ar wahanol chwaraeon, y gorau fydd eich siawns chi o ddod o hyd i rywbeth rydych chi wir yn ei fwynhau.
Emily Whitlock

Dywedodd Catrin, a enillodd fedal aur yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad 2015: “Rydw i bob amser yn mwynhau siarad gyda phlant am fanteision chwaraeon a’u hannog nhw i roi cynnig ar rywbeth newydd. Mae chwaraeon yn helpu i wneud i chi deimlo’n dda yn eich bywyd, yn rhoi hwb i’ch hyder chi ac mae wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi y tu allan i gystadlu.”

Ychwanegodd y seren sboncen, Emily, a fu’n cynrychioli Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022: “Mae’n hynod bwysig cael cyfle i brofi gwahanol chwaraeon mor ifanc. Po fwyaf o gyfleoedd gewch chi i roi cynnig ar wahanol chwaraeon, y gorau fydd eich siawns chi o ddod o hyd i rywbeth rydych chi wir yn ei fwynhau, a gwneud mwy o ffrindiau hefyd.”

Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Swyddog Gweithredol Tîm Cymru: “Mae gennym ni gymaint i’w gynnig yng Nghymru ac mae yna gamp i bawb. Gan ei bod hi’n gystadleuaeth aml-chwaraeon gyda phara-chwaraeon wedi’u hintegreiddio ochr yn ochr â chwaraeon heb fod yn benodol ar gyfer anabledd, mae Gemau’r Gymanwlad a Thîm Cymru mewn sefyllfa berffaith i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a rhannu manteision bywyd mewn chwaraeon.”

Derbyniodd Tîm Cymru arian tuag at yr ymweliadau ag ysgolion gan Chwaraeon Cymru.

Mae Tîm Cymru nawr yn derbyn archebion ar gyfer ymweliadau ag ysgolion o fis Medi 2024 ymlaen. Gall unrhyw ysgol a hoffai wneud cais am ymweliad gan athletwr Tîm Cymru wneud hynny ar-lein.

Newyddion Diweddaraf

Ffenestri ymgeisio newydd ar gyfer Cronfa Cymru Actif

Bydd Cronfa Cymru Actif yn cael ei rhedeg gyda thair ‘ffenestr’ ymgeisio yn ystod 2025-26.

Darllen Mwy

Rhoi llais i bobl ifanc ym maes diogelu

Darganfod pam y dylech gynnwys pobl ifanc mewn penderfyniadau diogelu yn eich clwb neu sefydliad chwaraeon.

Darllen Mwy

Cyngor doeth ar gyfer creu clwb chwaraeon cynhwysol

Wrecsam Clwb Rygbi Cynhwysol Rhinos yn rhannu eu cyngor ar sut y gallwch greu amgylchedd cynhwysol

Darllen Mwy