Skip to main content

Siwrneiau Pêl Rwyd gyda thair o chwaraewyr Plu Cymru

Mae Cymru yng Nghwpan Pêl Rwyd y Byd yn Ne Affrica ar hyn o bryd - y tro cyntaf iddyn nhw gymhwyso ar gyfer y twrnamaint ers 2015.

I chwaraewyr Plu Cymru, dyma uchafbwynt eu gyrfaoedd a phenllanw blynyddoedd o ymdrechu.

Ond mae ganddyn nhw i gyd rywbeth yn gyffredin gyda phob chwaraewr ysgol a chlwb yn y wlad – fe ddechreuodd eu cyflawniadau pêl rwyd nhw drwy greu hoffter ac angerdd dros weithgarwch corfforol a'r hwyl mae’n gallu ei gynnig.

Fe roddodd y rhan fwyaf o’r chwaraewyr gynnig ar amrywiaeth o chwaraeon yn yr ysgol ac roedd un neu ddwy – fel y capten Nia Jones – yn ddigon da i gynrychioli Cymru mewn mwy nag un gamp hyd yn oed. Yn ei hachos hi, pêl droed a phêl rwyd.

Tair o Blu Cymru – Phillipa Yarranton, yr is-gapten Bethan Dyke a Clare Jones sy’n dweud wrthyn ni am eu siwrneiau pêl rwyd a beth sy’n gwneud amgylchedd chwaraeon iach.

Pa chwaraeon eraill wnaethoch chi eu chwarae yn ifanc?

Phillipa: Fe wnes i chwarae llawer o bêl droed ac fe wnes i lawer o athletau pan oeddwn i’n tyfu i fyny. Os oedd unrhyw gamp yn golygu bod posib i mi adael fy ngwersi, fe fyddwn i’n mynd i'w gwneud!

Rydw i’n rheolwr perfformiad pêl rwyd ym Mhrifysgol De Cymru ac rydw i’n gweld bod gan gryn dipyn o ferched bellach gefndir dawns a gymnasteg cyn iddyn nhw ddod i mewn i bêl rwyd ac mae hynny’n ddefnyddiol iawn.

Erbyn i bobl ifanc gyrraedd 18 oed a dod i’r coleg, maen nhw wedi dechrau arbenigo, ond yn sicr mae’n fantais dysgu sgiliau gwahanol o wahanol chwaraeon cyn hynny.

Bethan: Fe wnes i ddechrau chwarae pêl rwyd drwy wylio Mam yn chwarae. Roeddwn i'n arfer ei gwylio hi yn y cynghreiriau lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda fy chwaer.

Fe wnes i chwarae pêl rwyd drwy'r ysgol gynradd ac ymuno â chlwb y tu allan i'r ysgol hefyd.

Ond fe wnes i lawer o chwaraeon eraill wrth dyfu i fyny hefyd. Fe wnaeth fy chwaer a minnau lawer o gymnasteg, trampolinio a nofio.

Yn y diwedd, fe wnes i gyrraedd pwynt lle roedd popeth yn dechrau gwrthdaro ac fe wnes i ddewis pêl rwyd fel fy mhrif gamp.

Fel athrawes Addysg Gorfforol, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o chwaraeon yn yr ysgol. Mae llawer o ddisgyblion sy'n gwneud amrywiaeth o weithgareddau. Mae hynny'n bwysig oherwydd y sgiliau trosglwyddadwy ar draws yr holl chwaraeon gwahanol.

Yn sicr fe wnaeth gymnasteg fy helpu i gyda fy hyblygrwydd, er efallai nad ydw i mor hyblyg ag yr oeddwn i unwaith! Ond yr hyn sydd hefyd yn helpu ydi gweithio gyda gwahanol hyfforddwyr mewn gwahanol ddiwylliannau ac amgylcheddau chwaraeon.

Clare: Roeddwn i'n chwarae mwy o chwaraeon unigol pan oeddwn i'n tyfu i fyny - fel tennis ac athletau.

Fe wnes i chwarae tennis i’r sir ar un adeg ac mae fy sgiliau raced i’n reit dda o hyd! Fe helpodd hynny fi gyda chydbwysedd a chydsymud.

Pan wnes i weld merched yn chwarae pêl rwyd i ddechrau, roeddwn i'n meddwl ei fod yn edrych yn anhygoel. Fe es i adref at Mam a dweud wrthi fy mod i wedi gweld gêm oedd yn edrych yn egnïol iawn, ac yn llawer o hwyl, ac roedd yn cynnwys pêl. Roeddwn i eisiau rhoi cynnig arni.

Yn debyg i Beth, rydw i'n meddwl bod well gen i amgylchedd tîm na chwaraeon unigol. Roeddwn i eisiau bod yn rhan o'r wefr o fod mewn tîm. Fe ddaeth pêl rwyd a hoci yn ddwy gamp fawr i mi, gydag athletau a thennis wedyn yn fwy at ddiben hamdden yn unig.

Roeddwn i’n ddigon ffodus i fynychu canolfannau talent Cymru ar gyfer hoci a phêl rwyd. Roeddwn i’n teimlo bod pêl rwyd yn rhoi rhyddhad gwych i mi o bwysau academaidd, a dyna oedd fy hoff gamp i wedyn. 

Pwy ydi'r bobl sydd wedi eich helpu chi ar hyd y ffordd?

Clare: Athrawes oedd fy hyfforddwr pêl rwyd cyntaf i – Rebecca Sear. Fe wnaeth hi roi cychwyn i mi pan oeddwn i tua wyth oed ac mae hi'n dal i fy ngwylio i nawr, chwarae teg iddi!

Phillipa: Fe wnes i syrthio mewn cariad hefo pêl rwyd yn ystod fy mlwyddyn gyntaf i yn y brifysgol ym Met Caerdydd. Nia Jones – sydd bellach yn gapten i ni – oedd fy mhrif hyfforddwr i. Roedd yr amgylchedd yn amgylchedd perfformiad uchel yn bendant ac roeddwn i wrth fy modd.

Yn blentyn, roedd fy mam yn ddylanwad enfawr, a hefyd Karen Moore, fy hyfforddwr Dan 16 i yng Nghaerwrangon.

Bethan: Roedd fy mam i’n gefnogaeth enfawr hefyd wrth i mi dyfu i fyny. A hefyd Gail Calford, fy hyfforddwr clwb cyntaf i a’r person cyntaf i gredu yna i mewn gwirionedd. Fe wnaeth hi i mi gredu fy mod i’n dda ac y gallwn i ddal ati i fwynhau gwella.

Ond roedd hi bob amser yn gwneud y sesiynau'n hwyl hefyd. Roedd hi’n gwneud i chwaraewyr fod eisiau mynd yn ôl.

Bethan Dyke yn dal pêl-rwyd
Bethan Dyke yn chwarae yn erbyn Malawi yn ystod Gemau'r Gymanwlad. Llun: Steve Pope, Sportingwales

Beth sy'n gwneud amgylchedd chwaraeon da ac iach?

Bethan: Yr amgylchedd chwaraeon gorau ydi’r un lle mae’n teimlo’n hwyl ac yn bleserus i fod yno. Dyna beth ydw i’n ceisio ei greu yn yr ysgol.

Rydych chi eisiau i blant fod yn mwynhau AG, yn mwynhau chwaraeon, a gobeithio wedyn y byddan nhw’n gwirioni ac yn cymryd rhan yn y ffordd o fyw iach, gorfforol honno am oes.

Rydw i'n meddwl bod ein hamgylchedd pêl rwyd ni yng Nghymru yn un da, oherwydd rydyn ni wedi dod yn agos ac yn treulio amser gyda'n gilydd oddi ar y cwrt yn ogystal ag arno.

Phillipa: Mae fy mhrofiad i o’r amgylchedd pêl rwyd wastad wedi bod yn un cadarnhaol.

Mae'r rhan fwyaf o fy hyfforddwyr i wedi gallu gwahaniaethu eu tasgau bob amser. Hynny ydi, maen nhw wedi herio'r chwaraewyr oedd yn gymwys ar gyfer hynny a hefyd wedi galluogi chwaraewyr llai hyderus i deimlo eu bod nhw’n gwneud cynnydd ac yn llwyddo. Mae hynny'n hollbwysig.

Rydych chi eisiau creu diwylliant lle mae pobl yn deall y bydd yna bobl sy'n well na chi, neu'n dda am un peth, ond bod gennych chi gryfderau eraill hefyd.

Rydw i’n meddwl ei bod yn wirioneddol bwysig i hyfforddwyr ac athrawon ddod i adnabod unigolion, fel eu bod nhw’n gwybod faint mae posib eu herio, neu ba fath o her maen nhw’n mynd i’w derbyn a bod yn fodlon ei gwneud.

Mae angen i chi wybod pa fath o brofiad sy’n brofiad negyddol yn eu barn nhw ac rydw i’n credu bod hynny'n ymwneud â meithrin perthnasoedd. Mae'n hynod bwysig.

Pa fath o ddylanwad ydi eich capten chi, Nia Jones, fel arweinydd?

Clare: Mae Nia bob amser yn gwahodd pawb i ddod â'u hunain gorau i'r amgylchedd. Mae hi'n galonogol iawn ac yn deg iawn. Ac mae hi'n frwd dros arwain drwy esiampl. Mae hi'n ofalus iawn, dydi hi ddim yn gadael dim un garreg heb ei throi.

Mae gan bawb barch enfawr tuag ati hi o fewn y gamp.

Phillipa: Mae Nia yn hynod broffesiynol, dim ots os ydi hi'n chwarae pêl droed neu bêl rwyd. Mae hi'n cael ei pharchu gan bob athletwr a phob hyfforddwr.

Beth fyddai eich negeseuon allweddol chi i hyfforddwyr sy'n gweithio gyda phobl ifanc?

Clare: Adnabod eich hun. Byddwch yn hyderus i wybod beth rydych chi ei eisiau o'r amgylchedd chwaraeon a beth mae'r chwaraewyr ei eisiau.

Mae cadw pethau'n hwyliog yn allweddol. Y ffordd orau o gael y gorau allan o unrhyw un ydi drwy greu awyrgylch hamddenol, digynnwrf.

Wedyn fe allwch chi adeiladu'r dwyster. Ond fe ddylech chi wneud hynny drwy ei gadw'n hwyl, drwy osod ffiniau, pennu gwerthoedd, a gosod diwylliant lle mae athletwyr yn teimlo eu bod nhw'n gallu bod yn nhw eu hunain.

Rydych chi eisiau dod â'u cymeriad nhw allan a chael lleoliad lle mae pawb yn cael eu derbyn. Mae’n hynod bwysig bod gan ferched ffigwr fel arweinydd maen nhw’n gallu ei edmygu a theimlo’n ddiogel yn ei gwmni. 

Bethan: Cofiwch ei gadw'n amgylchedd hwyliog a phleserus.

Phillipa: Maen nhw wedi dweud popeth yn gryno a thaclus!

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy