Skip to main content

Stori 2020 doedden ni byth yn meddwl oedd yn bosib

Os yw chwaraeon yn aml yn ymwneud â gwaith tîm a'r gallu i feddwl ar eich traed, mae'n bur debyg y bydd 2020 yn cael ei chofio fel y flwyddyn pryd cafodd chwaraeon yng Nghymru eu profi’n fwy nag erioed o'r blaen.

Pwy fyddai wedi dychmygu yn ôl ar 1 Ionawr y byddem yn dod â’r flwyddyn i ben gyda chyfarfodydd Zoom ar-lein a gweminarau fel dulliau cyfathrebu cyffredin rhwng cyrff rheoli a'u haelodau?

Neu y byddai nofwyr yn hyfforddi ar dir sych? Neu y byddai rhedwyr a beicwyr yn cystadlu yn erbyn y cloc mewn rasys rhithwir, yn hytrach nag yn erbyn ei gilydd?

Masgiau, diheintio dwylo, cyffwrdd penelinoedd yn lle coflaid – mae'r pethau yma bellach yn rhan o’n bywyd bob dydd ni, fel cymhorthion pen-glin, pawen lawen a diodydd protein.

I'r rhan fwyaf o bobl, ni all diwedd 2020 ddod yn ddigon cyflym, ond yn wyneb anhawster, mae arloesi wedi bod yn y byd chwaraeon yng Nghymru, ac ymdeimlad bod posib goresgyn y rhwystrau mwyaf hyd yn oed yn aml.

O real i rithwir 

Mae symud o'r byd real i’r rhith-fyd wedi bod yn anghenraid i'r rhan fwyaf o chwaraeon, hyd yn oed os oedd hynny dim ond er mwyn cadw mewn cysylltiad â chwaraewyr ac athletwyr oedd wedi'u cloi allan o'u lleoliadau a'u caeau chwarae.

I lawer, serch hynny, daeth y sgrin yn achubiaeth. Defnyddiodd Reuben Florence, prif hyfforddwr Dragon Karate Cymru ym Mangor, wersi carate ar-lein fel ffordd o gadw mewn cysylltiad ag aelodau'r clwb, yn ogystal â chyflwyno aelodau newydd i'r gamp.

"Doedd gweithgareddau ar-lein ddim yn mynd i gymryd lle hyfforddiant wyneb yn wyneb go iawn, ond ar y pryd roedden nhw'n ffordd wych o gyflwyno'r gamp a chadw pobl mewn cysylltiad," meddai Reuben.

Yn yr un modd, y byd ar-lein oedd yn cadw clybiau criced ledled Cymru mewn cysylltiad â'i gilydd drwy gydol yr haf – gyda fideos doniol, awgrymiadau hyfforddi a chwisiau - pan nad oedd posib mynd i’r clybiau eu hunain.

Sesiynau Jazz

Ar y lefel elitaidd, aeth beicwyr fel Geraint Thomas ac Elinor Barker i'w garejys lle'r oedd sesiynau rhithwir ar feic yn gysylltiedig â meddalwedd fel Zwift yn eu galluogi i gadw mewn siâp.

Wedyn datblygodd hyfforddiant rhithwir yn rasys rhithwir, ac un o’r negeseuon a ddenodd y sylw mwyaf yn gynnar yn ystod y cyfyngiadau symud ar y cyfryngau cymdeithasol oedd y sesiynau ffitrwydd nofio cyfarwyddiadol a bostiwyd gan Jazz Carlin, enillydd dwy fedal arian Olympaidd.

Rhannwyd ei threfn ymarfer – ar gyfer nofwyr a phawb arall – gan filoedd o bobl, ac felly hefyd fideos Chwaraeon Cymru ei hun ar gyfer cadw’n actif yn y cartref, a oedd yn cynnwys yr athletwyr rhyngwladol o Gymru, Melissa Courtney a Mica Moore.

Mae dyfeisgarwch wedi bod yn thema gyfarwydd hefyd yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn ystod 2020, gydag athletwyr a chwaraeon cyfan yn defnyddio eu creadigrwydd i sicrhau’r effaith orau bosib. 

Digon o gymhelliant

Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, llenwodd Sarah Abraham, seren y naid hir o Gymru, ddau fag siopa Sainsbury's gyda llyfrau trwm a'u clymu i far codi - er mwyn creu campfa ffug yn ystafell fyw ei fflat yn Llundain.

Yn yr un modd, dangosodd pencampwr Paralympaidd dwbl Cymru, Aled Davies, ei fod yn feistr ar DIY yn yr ardd drwy osod ardal daflu iddo’i hun yno, a thaflu rhwyd rhwng dwy goeden afalau.

"Mae'n rhaid i chi fod yn ddyfeisgar," meddai. "Dydw i ddim yn anelu am record byd yn yr ardd gefn. Dim ond ceisio dal ati a gobeithio na fydd gormod o rwd yn setlo ar y cymalau."

Aeth seren Olympaidd Cymru a chyn judoka rhif un y byd, Natalie Powell, gam ymhellach drwy greu ardal matiau gyfan a champfa dan do yn ei hystafell fyw yng Nghaerdydd.

Nofwyr gwych

Pan ddechreuodd y cyfyngiadau lacio ychydig yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn, gyda champfeydd, pyllau a chaeau chwarae’n dechrau ailagor, defnyddiodd llawer o chwaraeon yr hyn oeddent wedi'i ddysgu yn ystod y cyfyngiadau symud.

Efallai bod y cyswllt a'r undod wedi bod yn absennol heb gemau a chystadlaethau rheolaidd, ond mae sefydliadau fel Nofio Cymru wedi bod yn ddychmygus yn eu hymateb.

Aethant ati i greu Uwch Gyfres Nofio Cymru – bwrdd arweinyddion rhithwir lle gallai nofwyr clwb oedd yn methu cystadlu bostio eu hamser gorau yn eu pyllau lleol i'w gosod ochr yn ochr ag eraill ar hyd a lled y wlad.

Cymerodd cyfanswm o 34 o glybiau a mwy na 1,000 o nofwyr ran yn y gyfres gyntaf, ac mae’r ail ar y gweill erbyn hyn.

Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru gadw mewn cysylltiad â'i holl glybiau gyda gweminarau rheolaidd, gan gynnig cyngor ar gyfer dychwelyd i hyfforddi, ac er bod pob un ond y clybiau proffesiynol yn dal i aros am ddychwelyd i gemau, mae'r Undeb wedi gallu caniatáu rygbi cyffwrdd a rygbi tag i blant yn ddiweddar.

Dim clo i Lily 

Ond dylai unrhyw un sydd eisiau gweld beth yw ystyr gwydnwch a chymhelliant mewn gwirionedd edrych ar y fideos ymarfer a bostiwyd yn ystod y cyfyngiadau symud gan Lily Rice ar ran Chwaraeon Anabledd Cymru.

Dyma fideos cwbl ysbrydoledig gan bencampwraig byd croesfoduro cadair olwyn y merched, hwb gwerth chweil i bawb oedd yn teimlo dan glo a ddim yn mynd yn bell iawn o gwbl.

Edrych Ymlaen

Cafwyd enghreifftiau di-ri eraill o arloesedd a phenderfyniad rhyfeddol yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn ystod 2020, a chofiwch os ydych chi'n ymwneud â chlwb neu sefydliad chwaraeon sy'n gorfod 'meddwl y tu allan i'r bocs' i helpu eraill i fod yn actif yn ystod y pandemig, edrychwch ar sut gallai Cronfa Cymru Actif gefnogi eich syniadau.

Rydyn ni'n gwybod bod pethau’n heriol o hyd, ond mae 2021 yn dangos arwyddion o obaith a beth bynnag fydd y flwyddyn nesaf yn ei daflu atom ni, mae’r byd chwaraeon yng Nghymru wedi dangos y gall ei oresgyn.

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy