Skip to main content

Stori Arbennig: Sut mae chwaraeon ar y lefel uchaf yn parhau i addasu drwy’r pandemig

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Stori Arbennig: Sut mae chwaraeon ar y lefel uchaf yn parhau i addasu drwy’r pandemig

Pan gyrhaeddodd Dan Jervis dreialon dethol Nofio Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo fis diwethaf, roedd wedi treulio llawer o'r flwyddyn flaenorol yn gorfod nofio mewn llyn oer, tywyll ger Resolfen. 

Erbyn iddo ddringo allan o'r pwll, roedd wedi gadael ei holl gystadleuwyr ymhell tu ôl iddo – gan ennill y dull rhydd 1500m yn gyfforddus, dros bedair eiliad y tu mewn i’r amser ystyried Olympaidd.

Llwyddodd nofiwr arall o Gymru, Harriet Jones – un arall oedd wedi bod allan o'r pwll ers misoedd – i sicrhau gorau personol hyd yn oed yn y pili pala 100m wrth iddi hi, hefyd, sicrhau ei lle ar gyfer Tokyo.

Dim ond dau o'r cyflawniadau yw'r rhain sydd wedi gwneud i staff Athrofa Chwaraeon Cymru adlewyrchu ar y gwersi sydd wedi’u dysgu o flwyddyn o gyfyngiadau symud.

Mewn sawl achos, mae'r glasbrint wedi cael ei rwygo, a sicrwydd wedi’i daflu allan drwy'r ffenestr.

Efallai ei fod wedi cael ei orfodi arnynt, ond mae athletwyr elitaidd Cymru ar fin dod i ddiwedd arbrawf dynol mwyaf eu bywydau chwaraeon – a bywydau'r gwyddonwyr chwaraeon sy’n cael eu cyflogi i'w cefnogi hefyd.

Beth sy'n digwydd pan fyddwch chi’n atal pob cystadleuaeth, yn eu gorfodi i orffwys, ac wedyn yn cyfyngu ar eu mynediad i hyfforddiant a therapïau fel bod dynion a merched y byd chwaraeon elitaidd yn cael eu gorfodi i feddwl am ffyrdd newydd o wneud pethau?

Yr ateb, mae'n debyg, yw posibiliadau newydd cyffrous, yn seiliedig ar rinweddau fel gwydnwch, penderfyniad ac ymdeimlad rhydd o ddychymyg.

Pwy fyddai wedi meddwl yn ystod yr wythnosau rhyfedd cyntaf hynny o gyfyngiadau symud y byddai’r athletwyr oedd yn rhedeg o dan lampau stryd, yn codi bagiau siopa trwm wedi'u llenwi â llyfrau, neu’n herio ei gilydd i sialensau beicio ar Strava, yn edrych yn ôl ar y cyfnod yma fel un sydd wedi eu siapio mewn ffordd gadarnhaol?

Ond efallai y byddan nhw'n gwneud hynny.

Pan darodd y pandemig gyntaf, roedd rhaid i dîm Athrofa Chwaraeon Cymru, yn cynnwys ffisiotherapyddion, cynghorwyr perfformiad, dadansoddwyr, maethegwyr, seicolegwyr a hyfforddwyr cyflwr, symud yn gyflym.

Roeddent yn rhannu pwysau ac offer hyfforddi fel dulliau goroesi mewn ffilm Armageddon drychinebus.

Mae Felicity Hares, arweinydd pobl a gwasanaethau Athrofa Chwaraeon Cymru, yn cofio: "Yn ystod yr wythnosau cyntaf hynny, roedd gennym ni hyfforddwyr cryfder a chyflyru yn rhannu pwysau i'w rhoi i bobl fynd adref i ble bynnag oedden nhw.

"Rydw i'n credu ein bod ni wedi cael y rhan fwyaf yn ôl nawr, ond mae ambell ddarn ar hyd a lled y wlad o hyd.

"Roedd gennym ni ddull gweithredu i sicrhau cyn lleied o risg â phosibl, gan ddosbarthu dim ond os oedd yn hanfodol yn unig. Dim ond os nad oedd posib gwneud pethau o bell oedden ni’n ymyrryd."

Wedyn cefnogwyd yr athletwyr o bell drwy blatfformau rhithwir.

Roedd rhai’n teimlo bod hyn yn braf, yn enwedig gan fod technolegau cyfathrebu fel Zoom yn golygu eu bod yn gallu arbed amser ar deithio.

I eraill – a oedd efallai'n mwynhau agor eu calon a siarad am eu problemau tra oedd ffisiotherapydd yn tylino eu cyhyrau am awr neu ddwy – roedd y byd newydd yma’n gwneud iddyn nhw deimlo'n ynysig.

"Roedd rhaid rheoli argyfyngau ar y dechrau," meddai'r ffisiotherapydd Dan Grimstead, arweinydd clinigol a chyflenwi.

"Fe wnaethon ni gau'r athrofa ac roedd rhaid i ni roi sylw i ddisgwyliadau pobl. Roedd Gemau Olympaidd ar y gorwel a doedd gennym ni ddim sefydliad i ddarparu gwasanaethau mwyach.

"Roedd rhaid i ni wneud llawer o waith i sefydlogi'r sefyllfa. Wedyn, roedd rhaid i ni ddweud ein bod ni’n mynd i gyflwyno pethau mewn ffordd wahanol."

Ond nid yw'r hyn sydd wedi dod i'r amlwg ar draws llawer o chwaraeon wedi bod yn ddirywiad mewn lefelau ffitrwydd a chyflwr, ond yn aml yn welliant amlwg.

"Mae un gwyddonydd chwaraeon wedi cyflwyno rhywfaint o waith yn ymwneud â beicwyr benywaidd," meddai Hares.

"Cyn y cyfnod clo, ’fydden nhw byth wedi meddwl, heb fynediad i gampfeydd, neu hyfforddiant arbenigol, neu bwysau, y gallen nhw wella cryfder rhan isaf eu corff.

"Ond mae'r profion wedi dangos bod cymaint y gallan nhw ei wneud gartref yn eu garej neu eu gardd, felly efallai nad yw'r amgylchedd arbenigol mor allweddol ag yr oedden ni’n ei feddwl.

"Mae wedi arwain at newid yn y ffordd mae rhai o'r beicwyr yn cynnal eu sesiynau. Does dim rhaid iddyn nhw fynd i Gaerdydd drwy'r amser ar gyfer gwasanaethau arbenigol. Er enghraifft, mae posib defnyddio'r gampfa yng Nghasnewydd. Mae newid meddylfryd wedi bod."

Yn ogystal â nofwyr yn defnyddio llynnoedd neu'n gwella eu cyhyrau craidd ar dir, neu feicwyr yn ymarfer yn eu garejys, mae chwaraewyr hoci a phêl rwyd wedi bod yn gweithio ar eu sgiliau technegol yn eu gardd hefyd, neu chwaraewyr sboncen yn canolbwyntio ar eu strategaethau meddwl.

Mae addasu ymarferol wedi bod, fel y gawell taflu a adeiladwyd gan y pencampwr Paralympaidd Aled Davies yn ei ardd gefn.

Mae eraill wedi teimlo hwb gan gymuned leol gefnogol, fel y pencampwr tennis bwrdd Paralympaidd Rob Davies. Fe wnaeth ei ffrindiau a'i gymdogion yn Aberhonddu osod bwrdd iddo yn ei neuadd bentref leol pan nad oedd yn cael teithio i Gaerdydd i hyfforddi.

Trodd judoka Rhif 1 Cymru Natalie Powell ei hystafell fyw yn gampfa ac arena ymarfer dros dro, gyda matiau, a defnyddiodd y taflwr disgen F44, Harrison Walsh, lwybr troed lleol i daflu i gae cyfagos.

Roedd ambell rwystr, wrth gwrs, wrth i’r arloesi fynd rhagddo. Newidiodd y rhwyfwraig sydd wedi cipio medal arian Olympaidd, Vicky Thornley, ei chwch am feic a thorri ei braich yn y pen draw, ond mae cynghorydd perfformiad Athrofa Chwaraeon Cymru, Dan Farmer, yn credu bod y 12 mis diwethaf wedi bod yn drawsnewidiol.

Aled Davies yn codi pwysau yn ei ardd
Aled Davies yn codi pwysau yn ei ardd

 

"Mae athletwyr yn dod o hyd i ffordd yn aml. Mae Dan Jervis yn enghraifft wych o wneud yr hyn sydd raid ei wneud ar ôl cymhwyso'n ddiweddar ar gyfer y Gemau Olympaidd," meddai.

"Mae'n taflu goleuni ar y ffordd rydyn ni wastad wedi gwneud pethau a sut allwn ni wneud pethau'n wahanol yn y dyfodol."

Bydd angen y gwaith caled a’r dygnedd ar gyfer unrhyw athletwr sydd eisiau cyrraedd y brig, ond mae Farmer yn credu bod cyfyngiadau’r pandemig wedi tanlinellu bod mwy nag un ffordd o gyflawni pethau. 

"Mae rhai gofynion mewn chwaraeon sydd yno bob amser. Mae'n rhaid i chi hyfforddi, yn y gampfa orau yng Nghymru neu os ydych chi’n llenwi bagiau siopa yn yr ardd gefn.

"Roedd rhaid i athletwyr, hyfforddwyr a staff cefnogi addasu a meddwl yn wahanol. Mae'r gwaith yn cael ei wneud mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Roedd cyfathrebu rhithwir yn darparu platfform ar gyfer cefnogaeth ac arweiniad pan oedd angen. 

"Weithiau fel hyfforddwyr, mae angen cymryd cam yn ôl a gweld beth all yr athletwr ei gynnig ei hun. Gweld pa mor greadigol y gall fod.

"Fe ddefnyddiwyd rhaglenni fel Strava i gadw pethau'n gystadleuol. Mae'r rhain yn bethau y gallwn ni adeiladu arnyn nhw wrth symud ymlaen ac nid dim ond syrthio'n ôl i'r ffyrdd traddodiadol sydd gennym ni o wneud pethau."

Ond nid dim ond yn y maes hyfforddi mae athletwyr wedi gorfod addasu. Bu'n rhaid ailasesu eu hadferiad o anafiadau, eu cyflwr a'u parodrwydd corfforol i gyd pan nad oedd help wrth law mwyach.

Mae Grimstead – arweinydd Cyflenwi'r Athrofa – yn credu bod holl ddeinameg y ffordd mae athletwr yn cael triniaeth wedi'i wyrdroi gan brofiad y 12 mis diwethaf.

Yn hytrach na derbyn yn oddefol, bydd athletwr y dyfodol yn gwneud ei ddewisiadau ei hun.

"Yr hyn mae’r profiad yma wedi'i wneud yw gwneud i ni edrych yn fanwl iawn ar sut rydyn ni’n darparu arferion gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon," meddai.

"Mae llawer o feysydd wedi bod yn rhagorol ac yn gynaliadwy, ond mae wedi gwneud i ni edrych yn fanwl iawn ar yr hyn rydyn ni'n ei wneud a pham rydyn ni'n ei wneud.

"Rydyn ni wedi sylweddoli bod ffyrdd eraill o wneud pethau sydd yr un mor effeithiol. Er enghraifft, gyda therapyddion meinwe meddal, yr hyn mae athletwyr yn ei ddisgwyl yw eich bod yn gorffen eich hyfforddiant ac wedyn yn rhoi eich hun ar y gwely i gael triniaeth ymarferol.

"Wedyn, hanner awr yn ddiweddarach, rydych chi'n gadael.

"Yn y cyfnod clo, mae'r therapyddion meinwe meddal wedi cael sgyrsiau dyfnach a manylach gydag athletwyr am yr hyn sydd arnyn nhw ei angen mewn gwirionedd a'r hyn y gallan nhw ysgwyddo cyfrifoldeb amdano.

"Mae hon yn ffordd llawer mwy grymus o ddarparu gwasanaethau. Yn y broses, mae athletwyr yn dysgu mwy am eu gofynion a'u hanghenion eu hunain.

"Yn draddodiadol, roedden nhw’n cael eu cyflwyno 'ataf i'. Mae hynny wedi digwydd yn gyffredinol. Mae athletwyr yn llawer mwy ymwybodol nawr o sut mae pethau'n cael eu cyflwyno. Mae ganddyn nhw fwy o ddewisiadau. Fe allan’ nhw ddweud ei bod yn well ganddyn nhw i'r gwasanaeth gael ei ddarparu mewn ffordd benodol."

Wrth i athletwyr Cymru baratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yr haf yma, ac wrth i chwaraeon eraill ddod allan o’u gaeafgwsg gorfodol yn raddol, mae'r agweddau seicolegol ar effeithiau'r pandemig yn dechrau dod i'r amlwg.

Mae pêl-droedwyr a chwaraewyr rygbi wedi cydnabod faint maen nhw'n gwerthfawrogi gwylwyr a sut gall cefnogwyr effeithio ar berfformiad, tra bod athletwyr eraill yn gwneud addasiadau tebyg.

Nid yw rhai athletwyr wedi cael budd o lais hyfforddwr wrth eu hysgwydd chwaith, ac efallai na fydd hynny ar gael iddynt mewn cystadlaethau tramor am beth amser.

Dywed Hares: "Mae’r athletwyr wedi cael amser i ystyried, 'pwy ydw i a ble rydw i'n mynd?'

"Roedd gennym ni bobl wedi colli cymhelliant yn llwyr, colli nodau, a thra oedd y gefnogaeth ar gyfer hynny yn arfer bod yn eistedd wrth eu hochr ar ochr y trac neu'r pwll, roedden nhw'n bell nawr.

"Mae wedi herio'r staff a sut maen nhw'n cysylltu â'r athletwyr.

"Mae'r athletwyr wedi gorfod dangos cryfder meddyliol. Maen nhw wedi bod yn bwyta yn eu hystafelloedd ar eu pen eu hunain; doedd dim bwyta cymunedol dan do. 

"Mae pobl wedi gorfod bod ar eu pen eu hunain, diddanu eu hunain. Ond i'r rhai sy'n gobeithio mynd i'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, dyma'n union sut bydd pethau yn Japan. Felly, bydd yr hyn maen nhw wedi'i brofi nawr yn eu paratoi’n dda."

Barn y rhai sy'n gweithio ochr yn ochr ag athletwyr elitaidd Cymru yw y bydd 2020 i 2021 yn cael ei ystyried, rhyw ddiwrnod, nid fel trychineb iddynt, ond fel bendith efallai.

Roedd yn amser i orffwys meddyliau a chyrff blinedig a dechrau eto ar gyfer y dyfodol.

"Bydd pob un ohonyn nhw’n athletwyr gwell oherwydd y 12 mis diwethaf," mynna Grimstead.

"Mae eu gallu i addasu a bod yn greadigol wedi gwella. Mae cymaint am hyn sydd wedi bod yn gadarnhaol."

Mae Farmer yn cytuno ac yn mynegi barn feiddgar hyd yn oed.

"Ym myd perfformiad uchel, rydyn ni’n crefu am sicrwydd a rheolaeth. Mae'r 12 mis diwethaf yma wedi ein gorfodi ni i fod yn hyblyg ac addasu ac mae hynny’n siŵr o fod o fudd pan fyddwn ni’n camu i mewn i’r arena gystadlu.

"Bydd rhai athletwyr wedi elwa o beidio â chystadlu, peidio â theithio i bob cwr o’r byd a pheidio â bod dan straen seicolegol gyson.

"Efallai mai dyna beth rydyn ni'n mynd i'w weld. Efallai mai 2021 fydd y flwyddyn orau y mae llawer o'r athletwyr yma wedi'i chael erioed."

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy