Skip to main content

Sut mae pobl ifanc yn tanio clybiau criced Cymru

Mae cyn gapten Lloegr Alastair Cook yn credu y bydd hwn yn haf lle byddwn yn gweld hoffter plant at griced.                           

Ledled y DU, mae gweithgareddau’n agor i ieuenctid chwarae’r gêm a datblygu eu sgiliau mewn camp y bu’n rhaid iddi fod ar gau drwy gydol 2020 yn ystod misoedd cynnar y cyfyngiadau symud. 

Ond gyda chyfyngiadau Covid yn llacio nawr, yn enwedig ar gyfer ieuenctid dan 18 oed, mae criced eisiau gwneud iawn am yr holl amser sydd wedi’i golli gyda rhaglen ledled y wlad i ddatgloi gwefr y bat a’r bêl.         

Yng Nghymru, mae 4,000 o blant eisoes yn cael eu cyflwyno i’r gêm yr haf yma drwy All Stars, y cynllun i gynnig hwyl i blant pump i wyth oed. Mae 2,000 yn rhagor yn adeiladu ar eu sgiliau craidd drwy Dynamos, y rhaglen i blant wyth i 11 oed y bu’n rhaid ei rhoi i’r naill ochr yr haf diwethaf. 

“Mae’r haf yma’n gyfle gwych i’r gamp alluogi i blant brofi gwefr a hwyl chwarae criced,” meddai Cook, a gymerodd ran yn yr Wythnos Griced Genedlaethol ym mis Mehefin. 

“Dros y blynyddoedd, mae Chance to Shine wedi bod yn elusen wych i gael criced yn ôl yn ysgolion y wladwriaeth a rhoi cyfle i blant brofi criced.

“Nawr mae rhaglenni eraill ar gael i gael plant i fwynhau criced, neu eu hailgyflwyno i’r gamp ar ôl holl broblemau Covid. Maen nhw’n dysgu undod ac yn dysgu syrthio mewn cariad â chriced.”

Yn All Stars, mae pob plentyn sy’n cofrestru’n cael bag cefn, bat a phêl criced a hefyd crys-T personol. 

Mae’r Dynamos hŷn yn cael crysau T hefyd, ac yn ymwneud â gemau yn ogystal â sgiliau, a gallant weithio gydag ap sy’n gysylltiedig â’u sesiynau.                 

Mae gwirfoddolwyr – sy’n cael eu hadnabod fel gweithredwyr – yn cynnal sesiynau All Stars a Dynamos nawr mewn lleoliadau criced ledled Cymru, ganol wythnos gan fwyaf, yn gynnar gyda’r nos. 

Yng Nghlwb Criced Pontardawe yng Nghwm Tawe, maent yn cynnal y ddau gynllun gyda 14 o ieuenctid yn cymryd rhan yn All Stars a 27 yn rhagor yn Dynamos. 

Mae bechgyn a merched yn rhan o’r ddau grŵp, gyda’r merched yn cyfrif am ychydig llai na hanner y cyfansymiau.   

Mae’r rhaglenni nid yn unig yn helpu i gyflwyno criced i’r genhedlaeth nesaf, ond fel clybiau eraill, mae Pontardawe’n defnyddio’r aelodau newydd posib a ddaw i’r clwb fel cyfle i roi egni newydd yn y clwb gyda wynebau newydd ac aelodau eu teulu. 

Dywedodd cadeirydd y clwb, Rob Pick: “Mae Pontardawe wedi syrthio i lawr drwy’r cynghreiriau yn ystod y blynyddoedd diwethaf a byddem yn hoffi codi eto. Mae hyn wedi rhoi hwb i ni gyda’r amcan hwnnw. 

“Rydyn ni eisiau bod yn rhan o gynghrair iau y tymor nesaf, felly mae hyn wedi bod yn sbardun allweddol ar gyfer yr amcan. 

“Fe wnaethon ni sefydlu All-Stars flwyddyn cyn i Covid daro ac roedd honno’n flwyddyn gyntaf wych. Fe wnaeth yr ieuenctid fwynhau yn fawr. 

“Roedd y llynedd wedi’i difetha, ond rydyn ni wedi dod yn ôl eto eleni ac mae wedi bod yn dda. Mae’r plant a’r rhieni wedi bod yn frwdfrydig iawn. Mae pawb wedi dod i arfer â threfn Covid a dydych chi ddim wir yn sylwi ar ôl sbel.”

Mae blentyn All Stars Cricket yn chwarae criced

 

Mae Pontardawe yn cynnal un sesiwn bob nos Fercher rhwng 6pm a 7pm, gan gynnwys un grŵp o All Stars ac un arall o Dynamos.

Y gobaith yw y bydd y plentyn pump oed sy’n swingio bat am y tro cyntaf yr haf yma, neu’r plentyn 11 oed sy’n taro’r stymp canol gyda iorcar, yn gwneud yr un peth i dimau ieuenctid neu hŷn yng nghriced y dynion a’r merched yn y dyfodol. 

“Mae’n llwybr at adeiladu’r clwb,” ychwanegodd Rob. “Fe wnaeth ein hadran iau ni gael ei hesgeuluso. 

“Y nod ydi cael y plant i gael hwyl a mwynhau. Wedyn, wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, byddant yn cael eu hyfforddi mewn mwy o dechneg. 

“Rydyn ni’n cynnal tîm cyntaf ac ail dîm, gyda thrydydd tîm achlysurol sy’n chwarae gemau cyfeillgar. Rydyn ni eisiau sefydlu tîm ieuenctid yn y gynghrair ac mae gennym ni rywfaint o gyllid ar gyfer hynny. Dyna’r cynllun.

“Mae’r clwb yn gwneud cynnydd. Dylai fod yn haf gwych o griced.”

Draw ar arfordir gorllewin Cymru yn Aberaeron, mae niferoedd mwy trawiadol fyth o ieuenctid yn taro pêl â bat.             

Ar hyn o bryd mae gan Glwb Criced Aberaeron 26 o All Stars a 36 o Dynamos, gyda thua 10 o ferched ym mhob grŵp. 

“Mae hynny heb unrhyw farchnata o gwbl,” meddai hyfforddwr lefel dau a gweithredwr prysur Aberaeron, Jenny Pitchford.

“Fe aeth y gair ar led am y ddarpariaeth ac mae’r rhieni wedi bod yn awyddus iawn i gofrestru eu plant.                         

“Y peth gwych am All Stars yw eich bod chi’n ennyn diddordeb plant mewn criced o oedran ifanc iawn – mor ifanc â phedair neu bump oed. Rydyn ni’n eu bachu nhw’n gynnar.

“Mae’n gallu bod fel bugeilio cathod, ond rydyn ni’n gwneud iddyn nhw hoffi’r gêm. Mae diddordeb enfawr wedi bod ac rydyn ni’n agos at orfod gwrthod pobl.”

Yn helpu Jenny mae gweithredwr arall, Arif Saad, sydd yng ngofal y Dynamos, a’i mab hi, Jacob Jenkinson, yw hyfforddwr D13 y clwb. 

Fel Pontardawe, mae’r clwb yn meddwl y gall gwaed newydd roi egni newydd i’r clwb mewn ardal lle nad oes gormodedd o gyfleoedd i blant bob amser. 

“Nid yw hon yn ardal ddifreintiedig yn economaidd, ond gall fod yn gymdeithasol oherwydd weithiau does dim llawer i’w wneud,” ychwanegodd Jenny.

“Roedd y plant gymerodd ran gydag All Stars wedi cyffroi’n lân am ddod yn ôl a gwneud Dynamos.

“Ond os byddwch chi’n gwneud ymdrech fawr i gynnal All Stars, ac wedyn yn cynnal Dynamos, ond ddim yn cynnal sesiynau iau, rydych chi’n colli tric. Mae fy mab i’n helpu i hyfforddi’r tîm D13 ac fe aethon nhw o fod â phedwar chwaraewr yn ystod yr wythnos gyntaf yr haf yma i 15 yn ystod yr ail wythnos. 

“Mae hynny’n dangos y diddordeb yn y gamp, ond rhaid i glybiau sicrhau bod plant yn cael cyfle i ddal ati i chwarae mewn timau iau unwaith maent yn rhy hen ar gyfer y rhaglenni hyn.”

Mae gwyliau’r ysgol ar ddod bron. Beth am i haf o gariad at griced godi’r gwres.     

https://www.ecb.co.uk/play/junior

https://ccricedwales.org.uk/all-stars-cricket

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy