Mae gobeithion Olympaidd a Pharalympaidd Cymru wedi cael eu paratoi i ddisgwyl profiad gwahanol iawn yn Tokyo yn 2021 – ond profiad arbennig yr un fath.
Wrth i athletwyr fel Jade Jones, Aled Davies, Melissa Courtney, Owain Doull, Natalie Powell, Lauren Price a gobeithion eraill Prydain Fawr adlewyrchu ar 2020 o darfu mawr, byddant yn obeithiol y bydd 2021 yn cynnig dyddiau gwell.
Mae'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol wedi addo gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod y Gemau'n mynd rhagddynt fis Gorffennaf nesaf.
Ond wrth i bandemig byd-eang y coronafeirws barhau, yr unig wir sicrwydd yw os bydd y Gemau'n cael eu cynnal – flwyddyn ar ôl y dyddiad gwreiddiol ar y calendr – y bydd yn ddigwyddiad gwahanol iawn.
Mae unrhyw athletwr ifanc addawol sy'n gobeithio y bydd y Gemau Olympaidd yn gyfle i gymdeithasu â thîm sbrintio Jamaica ym mwyty pentref yr athletwyr, neu am wahoddiad i barti ar ôl gêm tîm pêl foli traeth Brasil, yn debygol o gael ei siomi.
I mewn ac allan
Bydd y Gemau hyn yn llai, yn llymach a gyda mwy o reolaeth. Bydd llai o gymdeithasu a mwy o i mewn ac allan.
Ond mae Brian Davies, cyfarwyddwr chwaraeon yn Chwaraeon Cymru, yn mynnu: "Er y bydd Tokyo yn Gemau Olympaidd gwahanol iawn, bydd yn brofiad arbennig yr un fath i'r rhai sy'n mynychu.
"Byddan nhw'n creu atgofion, yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth o’r safon uchaf gyda llygaid y byd arnyn nhw. Ond mae'n mynd i fod yn wahanol i unrhyw beth rydyn ni wedi'i weld o'r blaen."
Nid yw'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol wedi amlinellu ei amserlen eto, ond mae'n ymddangos yn anochel y bydd y Gemau a'r Gemau Paralympaidd yn gweithredu fersiwn lai, gyda llai o athletwyr mae’n debyg, a llai o ddigwyddiadau.
Mae hynny'n ymddangos yn anochel, ar ôl i'r pwyllgor ddatgan yn gynharach y mis yma y bydd y pentref athletwyr yn fwy o ‘gorlan’ i ddal athletwyr sydd ar fin cystadlu, yn hytrach na lleoliad traddodiadol ar gyfer y cyfnod cyfan.
"Bydd yr amserlen yn ddiddorol," meddai Davies. "Pa ddigwyddiadau fydd pryd ac, yn hollbwysig, pa ddigwyddiadau fydd ddim yn cael eu cynnal efallai.
"Oni bai fod cyfnod y Gemau'n cael ei ymestyn – sy'n annhebygol iawn – ni fydd posib gweithredu yn y ffordd y mae angen a hefyd cynnwys popeth roedden nhw wedi bwriadu ei gael.