Skip to main content

Sut bydd £4.5m o fuddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru o fudd i chwaraeon yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sut bydd £4.5m o fuddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru o fudd i chwaraeon yng Nghymru

Mae’r prosiectau sydd ar fin elwa o ran o fuddsoddiad ychwanegol o £4.5m mewn chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu henwi.

Bydd y cynlluniau o bob rhan o Gymru sydd wedi’u dewis i dderbyn y cyllid hwn yn helpu Chwaraeon Cymru i gyflawni’r uchelgais o ddarparu mynediad i amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon o ansawdd uchel i bob person yng Nghymru.

Ymhlith y datblygiadau chwaraeon sy'n cael eu cefnogi mae lleoliadau aml-chwaraeon, traciau beicio, lleoliadau dan do, traciau rhedeg, pyllau nofio, a chaeau 3G, ymhlith eraill.

Yn dilyn proses mynegi diddordeb a gynhaliwyd ar ddiwedd 2021, nodwyd prosiectau blaenoriaeth. Mae panel o bob rhan o’r sector chwaraeon yng Nghymru wedi cytuno ar fuddiolwyr y cyllid hwn, gan sicrhau dosbarthiad daearyddol eang a bod gwahanol chwaraeon a gweithgareddau’n cael eu cefnogi.

Dywedodd Brian Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru; “Rydyn ni wrth ein bodd, ar ôl sicrhau’r cyllid ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru, o allu cefnogi’r prosiectau gwych yma. Bydd y datblygiadau a'r gwelliannau i gyfleusterau yn helpu'r sector gyda’i nod o roi cyfle i bob person yng Nghymru fod yn gorfforol actif. 

“Mae rhai o’r prosiectau sy’n cael eu cefnogi eisoes wedi dechrau ar eu datblygiadau a byddant yn gobeithio eu cwblhau cyn gynted â phosibl. Felly ni fydd yn hir cyn i gymunedau Cymru ddechrau gweld manteision y dyraniad.”

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: “Mae buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon yn un o ymrwymiadau allweddol ein Rhaglen Lywodraethu ac mae'n rhan annatod o iechyd a lles ein cenedl wrth i ni wella o'r pandemig.

“Mae'r cyllid hwn yn adlewyrchu'r gwerth rydym yn parhau i'w roi ar ein cyfleusterau chwaraeon fel amgylcheddau sy'n creu cyfleoedd cynhwysol i bobl fwynhau manteision corfforol a meddyliol chwaraeon, ac i ryddhau eu potensial chwaraeon – ac mae'n newyddion gwych bod y cyllid yn cyrraedd y prosiectau cyffrous hyn fel y gall cymunedau ledled Cymru ddechrau manteisio ar y cyfleusterau dan sylw.”

Dyma rai o'r prosiectau a fydd yn elwa o'r cyllid hwn.

Neuadd Aer Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Clwb Tennis Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael arian i ddatblygu neuadd aer dau gwrt. Bydd buddsoddiad Chwaraeon Cymru yn mynd tuag at adeiladu neuadd aer ddwbl, gadarn dros y ddau gwrt newydd sydd eisoes wedi’u gosod yn eu lle.

Heb unrhyw gyfleusterau dan do rhwng Abertawe a Chaerdydd a phoblogaeth sirol o 150,000 o bobl, mae Tennis Cymru wedi targedu Pen-y-bont ar Ogwr fel y lleoliad delfrydol i gael y cyrtiau dan orchudd cwbl hygyrch yma.

Dywedodd Simon Johnson, Prif Weithredwr Tennis Cymru: “Bydd cyrtiau dan do, fel Neuadd Aer Pen-y-bont ar Ogwr, yn galluogi i bobl leol chwarae tennis drwy gydol y flwyddyn. Bydd darparu mwy o gyfleusterau y gellir eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn yn galluogi’r gamp i barhau i dyfu a bod yn ariannol gynaliadwy.”

“Rydyn ni eisiau cael gwared ar y rhwystrau sy’n atal cymryd rhan, a gweld pobl yn cael ystod wych o gyfleusterau chwarae tennis yn eu hardal leol.”

Cae 3G Ynys Môn  

Bydd Cyngor Sir Ynys Môn, ochr yn ochr â’r Grŵp Cyfleusterau Chwaraeon Cydweithredol, yn datblygu cae 3G yn Amlwch gyda chyllid gan Chwaraeon Cymru.

Mae gan y cyfleuster presennol gwrt 5 bob ochr gyda llifoleuadau ac ardal gemau amlddefnydd a fydd yn cael ei newid am ardal lawer mwy gyda charped 3G newydd wedi'i osod ar ei phen. Bydd yr uwchraddio hwn y mae ei wir angen yn moderneiddio’r cyfleusterau chwaraeon yn y gymuned wledig.

Bydd potensial ar gyfer cynghrair 6-bob-ochr newydd a bydd y cyfleuster yn cael ei ddatblygu hefyd i fod yn addas ar gyfer rygbi.

Dywedodd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ynys Môn, Christian Branch: “Bydd y cae 3G newydd yn rhoi mynediad i glybiau lleol, ysgolion a’r gymuned leol i ardal chwaraeon a hyfforddi o ansawdd uchel drwy gydol y flwyddyn, waeth beth fo’r tywydd. .

“Fe fydd yn ddwbl maint y cae presennol yn y Ganolfan Hamdden gyda phad sioc arbennig i sicrhau bod modd cynnal hyfforddiant rygbi hefyd.”

Prosiect Awyr Agored Pêl Fasged Cymru

Bydd prosiect Awyr Agored Pêl Fasged Cymru yn derbyn cyllid i adnewyddu pedwar cwrt mewn pedwar lleoliad gwahanol ar draws Cymru. Bydd cyrtiau awyr agored yng Nghaernarfon, y Fflint, Langland ac Aberystwyth yn cael eu hailwynebu a bydd eu cylchoedd yn cael eu gwella.

Hefyd wedi'u nodi fel rhan o'r cyllid mae chwe chwrt dan do wedi'u lleoli mewn cymunedau gwledig. Bydd basgedi ochr ychwanegol yn cael eu gosod yn eu lle i alluogi mwy o blant iau i fynd ar y cyrtiau.

Bydd posib addasu’r cylchoedd sy'n caniatáu ar gyfer dilyniant neu fwy o lwyddiant ar lefel is i gadw plant i fwynhau’r gamp.

Dywedodd Gavin Williamson, Prif Swyddog Gweithredol Pêl Fasged Cymru: “Bydd y cyllid yma’n cael ei ddefnyddio i wella’r cyfleusterau presennol drwy newid basgedi, atgyweirio arwynebau’r lloriau ac ychwanegu marciau cwrt i helpu i ddenu a chadw chwaraewyr o bob oed a gallu i’r cyrtiau.

“Rydyn ni wedi gweld cynnydd nodedig yn nifer y chwaraewyr sydd eisiau chwarae pêl fasged 3x3 yn yr awyr agored ledled Cymru, a bydd cyflwyno’r ffurf gyflym hon ar y gêm yng Ngemau Olympaidd Tokyo a Gemau’r Gymanwlad sydd i ddod yn siŵr o ychwanegu at y niferoedd yma, felly mae cael cyfleusterau ledled Cymru sy’n ysbrydoli ac yn galluogi i chwaraewyr chwarae pêl fasged 3x3 yn bwysig iawn.”

BMX - Caerdydd

Bydd trac BMX safonol cenedlaethol yn cael ei ddatblygu yng Nghaerdydd drwy gyllid Chwaraeon Cymru.

Gyda BMX yn dod yn fwy poblogaidd ers ei gynnal yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf yn 2012, mae Beicio Cymru wedi tynnu sylw at yr angen am drac cenedlaethol yng Nghymru. Bydd y cyfleuster hwn nawr yn galluogi iddynt gynnal cystadleuaeth ar lefel genedlaethol a bydd yn rhoi cyfle i feicwyr yng Nghymru ddechrau rasio.

Bydd y datblygiad yn cael ei arwain gan Glwb Rasio BMX Caerdydd ochr yn ochr â Beicio Cymru gyda'r trac yn cael ei adeiladu yn Llanrhymni.

Dywedodd Prif Weithredwr Beicio Cymru, Anne Adams-King: “Rydyn ni’n gyffrous iawn i weld datblygiad y cyfleuster BMX yn Llanrhymmi. Does gennym ni ddim amheuaeth y bydd hwn yn gyfleuster BMX o’r radd flaenaf a bydd yn helpu i ddatblygu a meithrin y dalent yma yng Nghymru.

“Bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd i gynnal digwyddiadau BMX lefel elitaidd yn y dyfodol, gan roi cyfle i’r cyhoedd yng Nghymru weld y beicwyr BMX gorau ar waith.”

Newyddion Diweddaraf

Meghan Willis: “Mae chwaraeon wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus am fy anabledd.”

Mae Meghan Willis yn dweud bod nofio wedi rhoi cymaint mwy na medalau a goreuon personol iddi.

Darllen Mwy

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy