Skip to main content

Sut mae clwb hoci yng Ngogledd Cymru yn addasu ei gamp i ddiwallu anghenion gwahanol bobl

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sut mae clwb hoci yng Ngogledd Cymru yn addasu ei gamp i ddiwallu anghenion gwahanol bobl

Yn llechu ym mynyddoedd deheuol Eryri mae clwb hoci sy'n sicrhau bod pawb yn ei gymuned yn gallu mwynhau chwaraeon am oes.

Mae Clwb Hoci Dysynni yn enghraifft wych o glwb chwaraeon yn addasu camp i weddu i anghenion ei aelodau.

Fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, mae ganddyn nhw dîm hŷn yn ogystal ag adran iau. Ond nid cystadlu a’r plant yw’r ffocws i gyd.

Darganfyddwch y gwahanol ffyrdd y mae Dysynni yn cael pobl i ymwneud â hoci.

Hoci Cerdded

Pan fyddwch chi'n dechrau arafu, mae Dysynni'n arafu'r hoci i chi. Ar ddyddiau Llun, mae'r clwb yn dechrau'r wythnos ar y llwybr iawn gydag ychydig o ymarfer corff ysgafn ar ffurf hoci cerdded.

Ymhlith y chwaraewyr mae dyn 70 oed gyda dwy ben-glin newydd a chyn chwaraewr rygbi gyda chlun newydd. Mae wedi rhoi’r cyfle i famau rannu’r cae gyda’u meibion hefyd hyd yn oed.

Mae cyn-chwaraewyr a rhieni aelodau iau y clwb wedi bod yn codi’r ffyn hoci hefyd ac yn rhoi cynnig ar y gamp. Mae dau o'r tadau hynny bellach wedi ymuno â'r pwyllgor ac mae un arall wedi mynd ati i hyfforddi'r tîm iau. Chwaraewyr a gwirfoddolwyr – pawb ar eu hennill!

Mae cymaint o alw wedi bod, mae cynlluniau i greu sesiwn hoci cerdded arall i ferched er mwyn rhoi’r cyfle i’r rhai y mae’n well ganddyn nhw chwarae yn yr amgylchedd hwnnw.

Dwy fam a'u meibion ar ôl cymryd rhan mewn hoci cerdded gyda'i gilydd
Dwy fam a'u meibion ar ôl cymryd rhan mewn hoci cerdded gyda'i gilydd

Hoci Cymdeithasol

Nid yw rhai chwaraewyr wedi bod yn dda iawn am y rhan peidio â rhedeg sy’n rhan o hoci cerdded ac sydd, fel y gallwch chi ddychmygu, yn eithaf pwysig.

Er mwyn sicrhau bod y chwaraewyr hynny sy’n fwy heini yn gallu cynyddu'r cyflymder tra mae eraill yn parhau i allu cymryd pethau’n hawdd, mae Dysynni wedi cynnig sesiwn hoci cymdeithasol i’w gynnal ochr yn ochr â hoci cerdded.

Os yw pobl eisiau chwarae hoci heb orfod ei gymryd ormod o ddifrif neu ddim ond i gael ychydig o ymarfer corff, gallant gymryd rhan. Rhywbeth at ddant pawb.

Hoci Dan Do

Pan ddaw'r haf i ben a phan mae'n mynd ychydig yn oerach a'r nosweithiau'n byrhau, efallai y bydd y niferoedd yn dechrau lleihau. Y peth olaf mae rhai pobl eisiau ei wneud ydi rhedeg o gwmpas ar ôl pêl hoci yn socian wlyb ac yn crynu.

Pan mae Dysynni yn gweld problem, mae'n dod o hyd i ateb. Ar ddydd Mercher gaeafol bydd hyd at 20 o bobl yn heidio dan do i chwarae’r hyn y gellid ei ddisgrifio fel ffurf ar ‘hoci stryd.’ Dydych chi ddim yn cael codi’r bêl, ond fe allwch chi ddefnyddio’r waliau i’w symud.

Mae timau cymysg yn cael eu rhoi at ei gilydd ac yn chwarae mewn cylchdro gornest gron, gan greu cystadleuaeth gyfeillgar heb fod angen poeni eich bod chi’n mynd i wlychu. Gan fod fformat stryd y gamp wedi bod mor boblogaidd, mae wedi dod yn gêm reolaidd yn yr haf hefyd hyd yn oed.

Hoci Haf

Gyda'r tymor yn rhedeg o fis Medi tan fis Mawrth, mae cit hoci yn aml yn cael ei adael o gwmpas yn casglu llwch yng nghefn y sied. Ond, nid yn Dysynni. Mae'r clwb yn sylweddoli'r effaith y gall hoci ei chael ar bobl ifanc yn y clwb ac mae eisiau cadw’r plant yn brysur ac yn actif yn ystod y gwyliau.

Dyna pam eu bod yn cynnal twrnamaint hoci haf 7 bob ochr mewnol dros wyliau’r ysgol. Maen nhw’n cymysgu ac yn paru'r timau, oedolion a phlant, ac yn chwarae gemau wythnosol i gadw eu haelodau'n actif ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon.

Llun sgwad Hoci Iau Dysynni
Gall plant iau Dysynni fwynhau haf o hoci.

 

Lynda Bennett, hyfforddwraig yng Nghlwb Hoci Dysnni, ydi trefnydd y sesiynau yma. Dywedodd: “Rydw i wrth fy modd yn ysbrydoli pobl i roi cynnig arni a chyflawni'r hyn maen nhw’n gallu a chael llawer o hwyl ar hyd y ffordd!

“Fe gefais i sgwrs gyda mam y diwrnod o'r blaen ar ôl twrnamaint iau yr oedd ei mab wedi chwarae ynddo. Fe ddywedodd hi 'Dydw i ddim yn adnabod Steffan a ddim yn gwybod i ble mae'r bachgen bach swil, pryderus, ddechreuodd gyda chi ychydig dros flwyddyn yn ôl wedi mynd, ac i chi a gweddill y clwb mae’r diolch am hynny.' Pa mor dda ydi hynny?!"

Dywedodd Alice Gregory, Rheolwr Prosiectau yn Hoci Cymru: “Mae Clwb Hoci Dysynni yn enghraifft berffaith o glwb hoci cymunedol cynhwysol – maen nhw’n gwrando ar eu cymuned ac yn teilwra’r hoci i’w hanghenion a’i dymuniadau, gan sicrhau bod cyfleoedd i bawb. Mae Hoci Cymru yn hynod falch o Lynda a'r tîm. Mae llwyddiant y clwb a’r cyswllt sydd ganddo gyda’i gymuned yn dyst i ymdrech pob unigolyn sy’n rhan o Glwb Hoci Dysynni.”

Ydych chi eisiau cynnig mwy o sesiynau yn eich clwb i gael mwy o bobl i gymryd rhan yn eich camp? Cysylltwch â'ch Corff Rheol Cenedlaethol – efallai y bydd yn gallu cynnig y cymorth a'r cyngor sydd arnoch eu hangen i roi'r sesiynau yma ar waith.

Newyddion Diweddaraf

Athletau wedi rhoi cymaint mwy na medalau i James Ledger

Roedd James yn poeni efallai nad oedd chwaraeon yn addas iddo, ond mae nawr yn gobeithio gwisgo fest…

Darllen Mwy

Meghan Willis: “Mae chwaraeon wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus am fy anabledd.”

Mae Meghan Willis yn dweud bod nofio wedi rhoi cymaint mwy na medalau a goreuon personol iddi.

Darllen Mwy

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy