Skip to main content

Sut mae Ficer ym Mhontarddulais wedi datblygu i fod yn ‘Weinidog ar Wib’

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sut mae Ficer ym Mhontarddulais wedi datblygu i fod yn ‘Weinidog ar Wib’

John Gillibrand yw Ficer Anhygoel Pontarddulais y mae ei hoffter newydd o redeg wedi ei wneud yn ddyn newydd.

Mae ei stori - o fod yn offeiriad rhwystredig yn ystod y cyfnod clo a’i fol yn prysur ehangu i fod yn rhedwr Hanner Marathon - yn un ysbrydoledig iawn, yr un mor llawen ag un o'i bregethau ar y Sul.

Mae hefyd yn ein hatgoffa ni yn ystod cyfnod o addunedau blwyddyn newydd llym bod ystyriaeth garedig i ofalu am eich iechyd meddwl eich hun yr un mor hanfodol ag unrhyw ddyheadau corfforol.

Yn weinidog ar wib, mae’r ficer wedi mynd o fod yn pwyso ychydig dros 15 stôn i ddim ond 12 stôn a hanner ers iddo wneud y cynllun Couch to 5K ac wedyn symud ymlaen i Parkrun. Ond mae’n dweud ei fod yn dawelach ei feddwl ac yn llai pryderus hefyd.

Mae hefyd wedi cryfhau ei berthynas gyda’i fab, Peter, rhedwr marathon rheolaidd sydd wedi helpu i arwain siwrnai ei dad yn ôl i ffitrwydd corfforol a meddyliol.

Dywed John bod bywyd ficer o Orllewin Cymru, cyn y pandemig, wedi ei gadw'n eithaf actif, ond wedyn fe wnaeth y cyfnod clo a'r encilio i gyswllt ar-lein gael effaith fawr - yn llythrennol. 

“Fel offeiriad plwyf, roedd fy swydd i’n cynnwys llawer o ymarfer corff anffurfiol – llawer o redeg o gwmpas fel petai,” meddai’r ficer Anglicanaidd gyda’r Eglwys yng Nghymru, sy’n 61 oed.

“Ond fe wnaeth y cyfnod clo fy nhrefn ddyddiol i’n eisteddog iawn o gymharu â fy ffordd o fyw flaenorol. Fe wnes i ddod yn ymwybodol o faint o bwysau oeddwn i’n ei gario a meddwl, ‘Mae angen i mi wneud rhywbeth am hyn’.

“Roedd yn dod yn broblem ac fe wnes i sylweddoli bod rhaid i mi wneud rhywbeth i newid.

“Y peth arall i’w sylweddoli yw bod clerigwyr yn union fel pawb arall. Doedden ni ddim wedi ein heithrio o'r pwysau emosiynol a meddyliol yr oedd pawb yn eu teimlo yn ystod y cyfyngiadau symud.

“Eto, fe wnes i feddwl bod angen i mi wneud rhywbeth. Diolch byth, fe ddywedodd fy mab Peter wrthyf i, ‘Dad, dere i redeg ’da fi!’ A dyna ddechrau arni.”

Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Manceinion, mae John yn cyfaddef bod ei ddyddiau rhedeg wedi dod i ben ar ddiwrnod ei wers Ymarfer Corff olaf.

Hyd yn oed bryd hynny, doedd e ddim yn ddisgybl brwd iawn ac roedd yn well ganddo nofio yn achlysurol na wynebu heriau cwrs traws gwlad yr ysgol.

Felly, ei gamau cyntaf oedd dilyn rhaglen Couch to 5K - cynllun naw wythnos gyda chefnogaeth y GIG sy'n dechrau gyda cherdded cyflym am bum munud ac wedyn 60 eiliad o redeg ysgafn.

“Roedd y rhedeg cyntaf yn her – dim ond cynyddu ychydig iawn o gyflymder,” meddai John.

“Roedd y rhaglen Couch to 5K yn hynod ddefnyddiol. Mae'n eich cyflwyno chi’n raddol, rhedeg am funud ac wedyn cerdded eto.

“Yr hyn oedd yn frawychus iawn oedd ’mod i wedi edrych ar ddiwedd y cynllun Couch to 5k i weld sut brofiad oedd e ar y diwedd. Fe wnes i feddwl, ‘Fydda i byth yn gallu gwneud hynny!’

“Ond, bob tro oeddwn i’n mynd allan ar gyfer pob sesiwn unigol, roeddwn i’n meddwl, ‘Fe allaf i wneud hyn.”

Cyn ac ar ôl lluniau o John Gillibrand yn ei Parkrun cyntaf ac yn edrych yn deneuach 3 mis yn ddiweddarach.
Chwith: John yn ei Parkrun cyntaf. | Dde: John ysgafnach 4 mis yn ddiweddarach
Rydw i’n rhedeg o gwmpas Pontarddulais ac un diwrnod fe wnes i redeg 5k o amgylch y ffyrdd a’r llwybrau wrth ymyl fy nghartref ac fe feddyliais i y byddwn i’n dal ati. Wedyn, pan oeddwn i wedi gwneud 7k, roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n dal ati i wneud ychydig mwy.
John Gillibrand

Roedd John bron â chyrraedd ei nod o 5K pan ffoniodd Peter, newyddiadurwr radio sy’n gweithio yng Nghaerdydd, i awgrymu ei bod yn amser am y cam nesaf.

“Fe ofynnodd Peter i mi fynd draw i Gaerdydd ar gyfer y cyntaf o’r Parkruns ar ôl y cyfnod clo ac fe ddywedodd y byddai’n rhedeg gyda mi.

“Roedd yn braf rhedeg gyda rhywun arall. Roedd hynny'n beth mawr i fy narbwyllo i gymryd rhan.

“Roedd y croeso gefais i yn Parkrun yn wych – yn gynhwysol ac yn galonogol iawn. Roeddwn i’n ofni agweddau pobl eraill ond mae’r bonllefau a’r anogaeth i’r rhai sy’n gorffen y rhedeg yn gyntaf yr un mor uchel pan ddaw’r bobl yn y cefn i mewn.

“Roedd y stiwardiaid yn fy annog i ymlaen pan oeddwn i’n gorffen yn y cefn ac roedd hynny'n wych. Mae’n gynllun sy’n derbyn pawb yn ddiamod.”

Yn fuan, roedd yn cymryd rhan yn rheolaidd yn Parkrun - gan deimlo manteision corfforol ymarfer corff rheolaidd yn ogystal â'r hwb seicolegol enfawr mae rhywun yn ei gael. 

Daeth camau bach yn rhai hirach ac arweiniodd un peth at y llall.

“Rydw i’n rhedeg o gwmpas Pontarddulais ac un diwrnod fe wnes i redeg 5k o amgylch y ffyrdd a’r llwybrau wrth ymyl fy nghartref ac fe feddyliais i y byddwn i’n dal ati. Wedyn, pan oeddwn i wedi gwneud 7k, roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n dal ati i wneud ychydig mwy.

“Yn fuan iawn, erbyn i mi gyrraedd yn ôl i’r ficerdy, roeddwn i wedi rhedeg fy 10k cyntaf. Rydw i bellach wedi gwneud tair 10k ac yn gobeithio gwneud llawer mwy.

“Mae budd aruthrol i les rhywun, yr hyn mae rhai pobl yn ei alw’n “buzz”.

“Unwaith rydych chi allan yn rhedeg, rydych chi’n canolbwyntio ar y rhedeg, neu'r hyn sydd o'ch cwmpas chi. Rydych chi'n anghofio am bethau eraill am ychydig ac mae'n fantais enfawr i les meddyliol ac ysbrydol, yn ogystal â lles corfforol. 

“Dydi hynny ddim yn wir bob tro rydych chi’n rhedeg – mae rhai’n well nag eraill – ond weithiau mae’n rhoi ymdeimlad gwell o ymwybyddiaeth i chi.

“Rydych chi'n gweld yr harddwch naturiol o'ch cwmpas chi a'ch lle chi yn rhan o hynny.”

Mae’r offeiriad yn rhedeg bob yn ail ddiwrnod bellach ac roedd yn gwneud Parkrun rheolaidd ar ddydd Sadwrn nes i gyfyngiadau Llywodraeth Cymru atal cyfarfodydd o fwy na 50 o bobl yn yr awyr agored.

Nesaf ar y gorwel iddo mae Hanner Marathon Caerdydd, sydd wedi'i threfnu ar gyfer diwedd mis Mawrth.

“Rydw i hefyd yn ymwybodol fy mod i’n gwneud hyn mewn oedran penodol. Mae angen i mi ofalu am fy iechyd.

“Diolch byth, ychydig iawn o drafferth ydw i wedi’i gael gyda fy mhengliniau, heblaw am pan lithrais i ar dail gwartheg yn rhedeg ar Ynys Weryn! 

“Rydw i’n mynd i weld sut mae’r Hanner Marathon yn mynd cyn ystyried marathon llawn. Mae’n ymwneud â byw bywyd i’r eithaf, felly, mewn egwyddor, fe hoffwn i fynd i’r afael â marathon llawn un diwrnod.”

I'r rhai sydd dal ar linell gychwyn eu taith ffitrwydd eu hunain, mae gan John gyngor doeth.

“Codwch allan. Fe fyddwch chi'n teimlo'n hunanymwybodol yn eich dillad rhedeg, ond mewn gwirionedd ’dyw pobl ddim yn sylwi arnoch chi. Rydych chi jyst yn berson arall sydd allan yn rhedeg.

“Mae'r adborth rydw i’n ei gael bob amser yn gadarnhaol.

“‘Gwthia dy hun, Dad’. Dyna mae Peter yn ei ddweud bob amser.

“Roeddwn i’n meddwl mai’r funud gyntaf yna oedd munud hiraf fy mywyd i pan ddechreuais i.

“Ond peidiwch â digalonni. Mae'n dod yn haws.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy