Skip to main content

Torri Sawl Record wrth i Bêl Droed Merched Gymryd Cam Mawr Ymlaen

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Torri Sawl Record wrth i Bêl Droed Merched Gymryd Cam Mawr Ymlaen

Mae Angharad James yn barod am ddwy garreg filltir yr wythnos yma – a’r ddwy yn tanlinellu sut mae ieuenctid yn tanio’r cynnydd enfawr yn y diddordeb mewn pêl droed merched yng Nghymru.

Yn gyntaf, bydd yn ennill ei chanfed cap dros ei gwlad ac yn dod yr ieuengaf i gyrraedd y garreg filltir honno pan fydd Cymru yn wynebu Slofenia yn eu gêm ragbrofol hollbwysig yng Nghwpan y Byd nos Fawrth.

Yn ail, bydd y chwaraewraig 28 oed yn rhan o dîm a fydd yn chwalu’r record am bresenoldeb mewn gêm bêl droed merched yng Nghymru, gyda mwy nag 11,000 o docynnau wedi’u gwerthu ar gyfer y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd erbyn bore Llun.

Mae’r lefel honno o gefnogaeth wedi’i hysgogi gan gynulleidfa newydd o ferched, wedi’u hysbrydoli gan James, Jess Fishlock, Sophie Ingle a’u cyd-chwaraewyr, ac mae wedi cael ffocws amserol yr haf yma gyda’n cymdogion yn Lloegr yn cynnal – ac yn ennill – yr Ewros.

Wales Women's Football Team celebrate scoring a goal in front of a crowded stand

 

Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi cydnabod manteision iechyd a chymdeithasol merched ifanc ledled Cymru yn hoff o bêl droed hefyd.

Am ormod o ddegawdau roedd y gêm yn un i ddynion, ond bellach mae hybiau hyfforddi ar draws ysgolion a chlybiau yn agor drysau i ferched fwynhau gweithgarwch corfforol rheolaidd.

Un rhaglen ddiweddar fu ymgyrch Be.Football CBDC.

Mae’n bartneriaeth gyda’r Youth Sport Trust sy’n ceisio gwella’r profiad o Addysg Gorfforol i ferched mewn ysgolion drwy ddefnyddio pêl droed mewn ffyrdd mwy perthnasol.

Gallai hynny olygu cysylltu sgiliau ar y cae â sgiliau bywyd, neu fagu hyder drwy weithgarwch corfforol, gyda phêl droed unwaith eto yn gyfrwng.

Mae hefyd yn ceisio gwella sgiliau arwain ymhlith merched fel eu bod hwy, yn eu tro, yn gallu helpu i wella lefelau gweithgarwch corfforol. Ystyrir bod modelau rôl a mentoriaid yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen.

Doedd dim digon o fodelau rôl pan oedd James yn yr ysgol yn Sir Benfro ond mae chwaraewraig Tottenham yn dweud bod help llaw a chefnogaeth yn hanfodol er mwyn galluogi iddi ddilyn ei huchelgais.

“Un peth rydw i wedi ceisio meddwl amdano’n ddiweddar ydi’r bobl sydd wedi fy helpu i gyrraedd y pwynt yma,” meddai.

“Roedd fy athrawon i yn Ysgol y Preseli mor bwysig ar fy siwrnai i. Fy hyfforddwyr i o oedran iau a’r chwaraewyr o'r adeg y des i i'r gwersyll am y tro cyntaf.

“Rydw i’n hoffi gwneud yn siŵr nad ydw i’n anghofio’r holl help rydw i wedi’i gael ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at y gemau yma, bydd cael y torfeydd mwyaf erioed yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn anhygoel. Bydd y gefnogaeth yn help mawr i'n gwthio ni dros y llinell.

“Mae fy mhennaeth i yn Ysgol y Preseli, Mike Davies, yn gefnogwr pêl droed mawr ac mae’n gwneud llawer o bethau i Sgorio, y rhaglen deledu.

“Pan oeddwn i yn yr ysgol roedd yn rhaid i mi gymryd llawer o amser i ffwrdd oherwydd pêl droed. Roedd rhaid i mi deithio i Abertawe a Chaerdydd, mae'r cyfleoedd i lawr yn y gorllewin yn llawer gwell nawr na beth oedden nhw.

“Chefais i erioed unrhyw drafferth, fe fyddai’n fy annog i gymryd diwrnod ychwanegol yma ac acw, roedd mor gymwynasgar ac mor gefnogol. Fe anfonodd neges destun ata’ i yr wythnos yma, felly roedd hynny'n grêt. Roedd yn braf clywed ganddo.”

Hefyd mae CBDC wedi addo gwneud yn siŵr bod y cynnydd diweddar ym mhoblogrwydd pêl droed ymhlith merched yn gynaliadwy drwy wella mynediad i’r gêm ar lawr gwlad.

Ymhlith addewidion diweddar y corff rheoli roedd ymrwymiad i gael 20,000 o ferched i chwarae pêl droed yng Nghymru erbyn 2024.

Mae hynny’n golygu sicrhau bod gan bob merch ifanc glwb lleol ynghyd â hyfforddwyr cymwys. Y targed sydd wedi’i nodi yw bod 600 o hyfforddwyr benywaidd newydd yn eu lle erbyn 2024.

Mae unrhyw un sy'n dymuno dilyn hyfforddiant yn cael ei annog i ddilyn y cymhwyster Tystysgrif C Gêm y Merched sydd newydd gael ei ddatblygu ac sydd wedi'i anelu at ferched a dynion sydd eisiau hyfforddi ym maes pêl droed merched.

Ar lefel clwb domestig, mae’r ailstrwythuro diweddar ar gêm y merched yn dechrau gwreiddio ac roedd dangosydd o’r twf posib yn amlwg ym mhenwythnos agoriadol Uwch Gynghrair Adran Genero.

Daeth record cynghrair o 1,426 o gefnogwyr i wylio'r pencampwyr Dinas Abertawe yn ennill yn erbyn Met Caerdydd yn Stadiwm Swansea.com.

“Pan oeddwn i’n tyfu i fyny, dim ond y dynion oeddwn i’n eu gweld yn chwarae, felly doeddwn i ddim yn sylweddoli y gallwn i wneud hynny hefyd. Ond rydych chi'n gweld y gêm yn tyfu, yr Ewros, Cwpanau'r Byd, mae’n enfawr.

Doedd y niferoedd hynny, y strwythur clybiau, a’r rhaglenni hyfforddi ac ysgolion sy’n sail iddynt ddim ar gael i James 20 mlynedd yn ôl.

Mae'n cyfaddef ei bod wedi gorfod gadael Cymru i ddod yn nes at wireddu ei breuddwydion.

“Mae’n bwysig dilyn eich breuddwyd ac roedd bob amser yn freuddwyd i mi chwarae pêl droed yn broffesiynol.

“Fe wnes i fentro ymhellach a symud i Lundain yn 15 oed. Doeddwn i ddim yn gwybod sut i goginio, sut i lanhau, roedd mam yn gwneud popeth i mi. Roedd jyst pacio a symud, roedd yn anodd iawn.

“Rydw i’n cofio ffonio fy nhad a gofyn iddo fe ddod i fy nôl i am fy mod i eisiau dod adref. Fe ddywedodd e jyst dal ati am rai wythnosau i weld sut mae'n mynd, a wnes i byth edrych yn ôl.

“Yn anffodus, roedd yn golygu bod rhaid i mi adael Cymru, ond fe wnes i ddilyn fy mreuddwyd ac rydw i wedi bod yn ei fyw ers hynny.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy