Skip to main content

Wynne Evans - Sut mae ymarfer wedi newid bywyd er gwell

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Wynne Evans - Sut mae ymarfer wedi newid bywyd er gwell

Mae Wynne Evans yn cyfaddef nad oedd iechyd a ffitrwydd yn uchel ar ei restr o flaenoriaethau erioed, ond eleni mae'n bygwth mynd i’r gampfa ar fore Nadolig.

I'r canwr opera o Gymru, y cyflwynydd teledu a radio, a pherchennog laryncs enwocaf byd yr hysbysebion, mae’r ‘gampfa’ dan sylw yn ei garej wedi'i haddasu yng Nghaerdydd.

"Fe fydda’ i'n mynd yno yn bendant fore Nadolig," meddai. "Hanner awr cyflym ar y beic, neu 5k cyflym, ac wedyn fe fydda’ i wedi gorffen am y diwrnod ac yn barod i fwynhau fy hun.

"Pan oedd Parkrun yn cael ei gynnal, roeddwn i'n arfer cael yr hyn oeddwn i’n ei alw’n ddydd Sadwrn smyg. Does dim teimlad gwell na dydd Sadwrn smyg, pan rydych chi wedi gorffen rhedeg erbyn 10 o'r gloch yn y bore ac rydych chi'n bwyta eich brecwast. Dyna'r teimlad gorau yn y byd."

Ond ’dyw bywyd ddim wedi bod mor iach â hyn i Wynne erioed. Mae'n cyfaddef ei fod yn ei bedwardegau hwyr cyn canolbwyntio ar weithgarwch iach fel rhan o’i drefn ddyddiol.

Byw ar y Beic 

Yr hyn wnaeth ei gymell oedd y dyhead i beidio â theimlo’n fyr ei wynt wrth ddringo grisiau, gorfod chwilio am ddillad sy'n ffitio'n well, a hefyd cymhelliant ei fab 16 oed, Taliesin, sydd wedi gwirioni mwy na’i dad hyd yn oed ar ffitrwydd.

O ran y cyflwynydd ar Radio Wales yn y bore, mae wedi datblygu o fod yn rhedwr Parkrun brwd i geisio cynnwys pedwar neu bum sesiwn wythnosol yn ei gampfa, ar y pwysau, neu ei obsesiwn newydd, beic Peloton lle mae'n hoff iawn o chwysu.

"Dydw i ddim wedi bod yn berson ffit erioed a dydw i ddim wedi serennu mewn chwaraeon," meddai.

"Ond pan ddaeth y cyfyngiadau symud, fe benderfynais i y byddai'n amser da i wneud rhywbeth mae'n debyg. Felly, fe wnes i drawsnewid y garej yn gampfa, cael rhai pwysau a phethau, ac wedyn dechrau rhedeg."

Ar ôl mentro cwblhau Parkrun 5k ar Gomin Clapham yn Llundain, ac wedyn rhoi cynnig ar fersiwn Caerdydd yng Ngerddi Sophia, mae'n dweud bod ei hyder a'i uchelgais wedi dechrau cynyddu.

"Fy nod i yn ystod y cyfyngiadau symud oedd gwneud Parkrun a gorffen rhedeg cyn i'r trefnwyr bacio popeth.  Ar y dechrau, roedd yn ymddangos fel pe bai pawb yn clirio i fynd adref erbyn i mi orffen!

Problemau Pengliniau

"Ond fe wnes i ddod yn fwy heini'n raddol wrth i'r cyfyngiadau symud fynd yn eu blaen a chael fy amser i lawr o 43 munud i 31 munud a 45 eiliad.

"I foi mawr – rydw i dal yn 19 stôn, er ’mod i'n 21 stôn pan ddechreuodd y cyfyngiadau symud – ’dyw hynny ddim yn rhy ddrwg. Dydw i byth yn mynd i gael siâp fel Usain Bolt, ond fe wnes i ddal i redeg, rhedeg ar hyd y strydoedd, dal ati i wneud fy ymarferion, a dechrau mwynhau fy hun."

Yn anochel efallai, bu'n rhaid i rywbeth roi wrth i'w gorff ddod i arfer â gofynion anghyfarwydd. Ei bengliniau oedd y broblem, gan arwain at ostyngiad cyflym iawn yn y rhedeg ar darmac mor aml, a chyflwyno'r beic statig.

"Rydw i wrth fy modd ar gefn y beic. Fe allwch chi weithio’n galed heb deimlo bod eich pengliniau chi ar fin mynd."

Yr unig anfanteision i gampfa gartref hyd yma yn ôl pob tebyg yw pan wnaeth band ymwrthedd ei daro yn ei wyneb, gan roi llygad du iddo, a rhywbeth iddo siarad amdano gyda'i wrandawyr.

Nid yw cantorion opera gwrywaidd yn enwog am fod yn fain, ond mae Wynne yn credu mai ffordd o fyw sy’n bwysig yn y fan hyn, nid manteision cario llai o bwysau ar lwyfan.

Codi Ysbryd

"Mae cael brest fawr yn helpu, gwagle mawr, i gael y cyseiniant yn eich llais chi, ond does dim angen i ni fod yn dew. Mae bod yn dew yn cael ei ganiatáu i’r rhan fwyaf, a dyna pam maen nhw’n cael bod felly. 

"Dydw i ddim wedi gallu gwneud cyngerdd ers misoedd, ond fe wnes i 16 o hysbysebion yn ystod y cyfyngiadau symud ac fe wnes i sylwi nad oedd y siwt mor dynn ag yr oedd hi’n arfer bod. 

"Mae canu’n gallu bod yn egnïol iawn, ond dydw i ddim yn gwybod a yw bod yn fwy heini’n mynd i helpu. Bydd rhaid i ni weld. Doedd dim gwell canwr opera na Pavarotti a phrin ei fod e’n athletig.

"Yr hyn mae bod yn fwy heini wedi'i wneud yw helpu i godi fy hwyliau i, yn sicr. Rydw i wedi cael anhawster gydag iechyd meddwl yn y gorffennol, rydw i wedi bod yn agored iawn am hynny. Ond pan rydw i'n mynd i'r gampfa, neu'n rhedeg, mae hwnnw'n amser i mi – ac mae hynny'n beth da iawn i'w gael, mae'n amser i chi'ch hun."

Nid yw yn y gampfa ar ei ben ei hun yn aml, serch hynny, gan fod Taliesin yn hoffi bod wrth law – hyd yn oed os yw hynny er mwyn profi y gall bellach godi bron cymaint â'r hen ddyn.

"Mae fy mab i wedi bod ar y daith anhygoel yma. Mae e wedi colli tua 20 cilo ac wedi newid ei faint. Fe yw'r un sydd wedi fy ysbrydoli i ac wedi gwneud i mi newid fy ffitrwydd a fy neiet.

Ta Ta Tedi 

"Mae e wedi gwneud yn rhyfeddol o dda ac mae'n dal i fy ysbrydoli i heddiw. Mae'n rhaid i mi geisio gwneud yn siŵr ’mod i’n dal i allu codi 5 cilo yn fwy nag e, ond mae ei faeth e’n well. Rydw i'n dal i hoffi gwydraid neu ddau o win yn ormod."

I unrhyw un sy'n gobeithio gwella ei ffitrwydd a chynnwys mwy o weithgarwch yn ei fywyd, mae gan Wynne eiriau syml o gyngor.

"Mae fel dechrau canu yn nes ymlaen mewn bywyd, fe all deimlo'n frawychus. Dydw i ddim yn dda mewn chwaraeon mewn unrhyw ffordd, felly rydw i'n gwybod y gall mynd i gampfa deimlo'n frawychus.

"Ond fe ddylai pobl roi cynnig ar fod yn fwy actif yn gorfforol, cerdded yn lle mynd yn y car, mynd am dro, dechrau rhedeg yn araf bach, a chofio nad oes neb yn chwerthin ar eich pen chi. 

"Rydw i'n foi mawr, ond pan fydda’ i'n rhedeg rydw i'n ceisio gwella fy hun a ’sa i’n mynd i ymddiheuro am hynny.

"Y Parkrun olaf wnes i, fe wnaeth rywun redeg heibio i mi wedi gwisgo fel tedi. Doeddwn i ddim yn teimlo unrhyw embaras. Doeddwn i ddim yn poeni.

"Roeddwn i'n gwybod ’mod i'n mynd i gael dydd Sadwrn smyg.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy