Pa mor ddrwg mae pethau wedi bod?
Leshia Hawkins, prif weithredwr Criced Cymru (@LeshiaHawkEye)
Roedden ni’n ffodus ein bod ni’n gamp sy’n cadw pellter cymdeithasol beth bynnag. Rydych chi'n cychwyn 22 llath i ffwrdd oddi wrth eich partner batio a gallech chi fod ymhellach i ffwrdd oddi wrth y maeswyr.
Felly, does dim rhaid i ni rycio a chyffwrdd gwrthwynebwyr yn agos, oedd yn golygu, pan ddechreuodd pethau wella, ein bod ni wedi gallu gwneud y gorau o'r sefyllfa.
Roedd yn golygu y gallen ni droi’r tap yn ôl ymlaen i raddau helaeth pan oedd hynny’n cael ei ganiatáu. Wrth gwrs, roedd rhaid i ni addasu canllawiau Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ar gyfer Cymru, ond er gwaethaf popeth rydyn ni’n teimlo’n eithaf lwcus fel camp ein bod ni wedi gallu dychwelyd yn weddol ddianaf.
Rydyn ni'n teimlo “nôl yn y gêm” yn sicr. Mewn gwirionedd, rydyn ni wedi gallu cynyddu nifer y timau yng Nghymru yn ystod y pandemig. Rydyn ni'n ffynnu ac yn tyfu.
Hannah McAllister, prif weithredwr Golff Cymru (@HannahFitzpatr3)
Rydyn ni'n wirioneddol lwcus fel camp. Yn gynnar iawn, ni wnaeth y cyfyngiadau effeithio gormod arnom ni oherwydd ein bod ni’n ffodus o ran y ffordd y mae posib chwarae'r gêm.
Hyd yn oed yn gynnar, roedden ni’n gallu chwarae'r gêm yn unigol neu mewn parau. Gyda'r rheol o chwech, roedden ni’n gallu chwarae yn yr awyr agored a chadw pellter cymdeithasol.
Rydyn ni “nôl yn y gêm” yn sicr ac roedden ni nôl yn y gêm yn gynnar. Fodd bynnag, rydyn ni’n ddiwydiant mawr ac yn ffitio ar draws lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth. Mae'r incwm yn y meysydd hynny wedi cael ei daro'n wael gyda phobl ddim yn teithio.
Ond mae'r clybiau wedi addasu'n dda gydag ardaloedd awyr agored wedi'u diwygio fel bod mwy o bobl yn gallu eistedd yn yr awyr agored. Rydyn ni wedi cael ein heffeithio’n negyddol o ran incwm, ond mae cefnogaeth y llywodraeth a’r gefnogaeth gan Chwaraeon Cymru wedi helpu’n fawr gyda hynny.
Fergus Feeney, prif weithredwr Nofio Cymru (@fergus_feeney)
Cyn y cyfnod clo, roedd y data’n awgrymu bod gennym ni 400,000 o oedolion yn nofio unwaith yr wythnos yng Nghymru, a 100,000 ar y fframwaith dysgu nofio.
Roedden ni’n edrych ar hanner miliwn o bobl yng Nghymru oedd yn nofio.
Felly, mae’r cyfyngiadau i ni yng Nghymru wedi bod yn anodd tu hwnt. Mae mwy na 400 o byllau mynediad cyhoeddus ledled Cymru ac fe wnaethon nhw i gyd gau. Roedd rhaid i'r holl weithgarwch ddod i ben.
Roedd ceisio datgloi ein chwaraeon unigol fis Medi diwethaf yn her enfawr. Fel camp, doedd gofod ddim ar ein hochr ni. Amgylchedd dan do ydyn ni ar y cyfan, rydyn ni'n amgylchedd clos dan do, ac roedden rhai problemau gweithredol hefyd.
Roedden ni’n gwybod bod 80 y cant o'n cyfleusterau ni dros 20 oed ac mae rhai ohonyn nhw mewn llefydd bach lle mae'r gofod yn brin.
Mae'r gamp wedi cael ei tharo'n wael a dydyn ni ddim yn agos at fod yn gwbl weithredol eto.
Sut mae'ch ffigurau aelodaeth chi wedi bod?
FF, Nofio Cymru
Mae wedi bod yn llwybr araf yn ôl. Mae’r ffigurau aelodaeth clybiau tua 30 y cant yn is, rydyn ni tua 80 y cant yn is o ran cyfranogiad, ond mae hynny oherwydd capasiti - y cyfyngu mae'r cyfyngiadau wedi'i greu.
Nid galw sy’n gyfrifol am hynny. Mae galw mawr o hyd gyda phob pwll ac awdurdod lleol wedi'u harchebu'n llawn.
Mae gennym ni 100 o glybiau ledled Cymru, gyda 12 ohonynt yn glybiau perfformiad. Ac mae wedi dod yn gêm rhifau. Rydyn ni’n ceisio lleoli 150 o nofwyr perfformiad mewn capasiti bach.
Ond mae hyder yn dod yn ôl. Y broblem ydi bod nofio cystadleuol a datblygiad wedi cael ergyd fawr.
Y pryder ydi bod pobl ifanc 15 neu 16 oed wedi symud ymlaen at rywbeth gwahanol. Os ydyn nhw dal yn y gamp, gwych. Ond y pryder ydi bod chwaraeon wedi eu colli a'u bod yn eistedd gartref ar eu PlayStation.
HM, Golff Cymru
Dydyn ni ddim yn cael ein ffigurau aelodaeth swyddogol tan fis Awst, ond rydyn ni’n disgwyl cynnydd o 15 i 20 y cant.
Rydyn ni’n gweld bod y rhan fwyaf o’r twf ymhlith golffwyr gwrywaidd, oherwydd bod merched yn hoffi dod at y gamp yn raddol.
O ystyried y ffaith honno, ein prif ffocws ni ar gyfer y flwyddyn nesaf fydd cael mwy o ferched yn rhan o’r gêm.
Ond, ar y cyfan, mae wedi bod yn gadarnhaol iawn o ran y twf mewn aelodaeth er gwaethaf y pandemig.
Fe gawsom ni ddirywiad sylweddol yn yr aelodaeth ar ôl y chwalfa ariannol yn 2008, felly mae'r twf wedi bod yn wych. Ond mae angen i ni weithio ar y bwlch rhwng y rhywiau a pharhau i ymdrechu i ddenu demograffeg iau.
Mae golff wedi bod yn wych i helpu gydag unigrwydd ac ynysu yn ystod y 18 mis diwethaf, a phrofwyd hefyd ei bod yn gamp dda i’w chwarae ochr yn ochr â chwaraeon eraill. Mae Gareth Bale wedi bod yn enghraifft wych o hynny.
LH, Criced Cymru
Rydyn ni'n gwybod ein bod ni wedi cynyddu nifer y clybiau yn ogystal â nifer yr adrannau. Rydyn ni hefyd wedi gweld parhad yn nhwf criced merched.
Rydyn ni wedi parhau i ddatblygu’r cyfranogiad D11 drwy gyfrwng ein dau gynnyrch cenedlaethol blaenllaw - y rhaglenni All Stars a Dynamos.
Roedden ni wedi gosod targed twf eithaf beiddgar i ni ein hunain yn yr All Stars ac rydyn ni wedi ei gyrraedd eisoes.
Mewn gwirionedd, doedden ni ddim wir yn gwybod sut byddai'r dilyniant ar gyfer plant 11 oed, y cynnyrch Dynamos, yn gweithio. Ond rydyn ni ymhlith yr arweinwyr ar gyfer siroedd Lloegr, rhai ohonyn nhw â phedair gwaith cymaint o glybiau a dwywaith cymaint o bobl.
Gwaith gwych ein gwirfoddolwyr ni sy’n gyfrifol am hynny, wnaeth ein cynnal ni drwy'r holl amseroedd tywyll. Rydyn ni wedi cael ein siomi ar yr ochr orau.