Fe all Seren Hughes edrych yn ôl ar 2021 fel y flwyddyn pryd creodd hi hanes yn y byd criced yng Nghymru – er nad oedd hi’n gwybod hynny ar y pryd.
Sicrhaodd y ferch 20 oed le yn y llyfrau hanes yn ôl yn ystod yr haf drwy fod y fenyw gyntaf yng Nghymdeithas Griced De Cymru i sgorio cant ar lefel clwb.
Ar Awst 28 wnaeth Hughes – yr unig chwaraewraig fenywaidd yn chwarae i’r naill dîm neu’r llall - daro 105 yng Nghlwb Criced Cydweli, yn batio dros ail dîm Clwb Criced Briton Ferry Steel yn erbyn y clwb cartref.
Bedwar mis yn ddiweddarach, mae’n parhau yn un o eiliadau mwyaf cofiadwy’r byd chwaraeon yng Nghymru eleni – yn arwydd o nid dim ond talent ryngwladol Merched Cymru, ond hefyd y cynnydd cyflym sydd i’w weld yng ngêm y merched ac y tynnwyd sylw ato drwy lwyddiant y gystadleuaeth Cant gyntaf.
Ond eto, mae Hughes yn cyfaddef, heb sgorfwrdd ar y cae, a’i sgorio hi ei hun yn ei phen yn methu cyfrif yn ddigon cyflym, doedd hi ddim hyd yn oed yn gwybod ei bod yn dynesu at y tri ffigur.
Meddai: “Doeddwn i ddim wir yn gwybod beth i’w ddisgwyl wrth fynd i lawr i Gydweli. Dydw i heb chwarae yno o’r blaen.
“Roedd yn gae mawr, ni wnaeth fatio gyntaf a fi oedd batiwr rhif tri. Fe wnes i aros i mewn a sgorio cant.
“Ond doeddwn i ddim wir yn gwybod ar be oeddwn i. Roeddwn i wedi sgorio yn y 50au o’r blaen ac roeddwn i reit nerfus. Roeddwn i’n gallu gweld pobl ar yr ochr yn gwingo, yn ceisio eistedd yn llonydd, ac mae mam bob amser yn ei chadair haul ac roedd hi’n ceisio aros yn llonydd.
“Doeddwn i ddim wir yn gwybod beth i’w wneud pan wnes i gyrraedd cant. Fe aeth y cyfan dros fy mhen i a dweud y gwir, nes i mi ddod oddi ar y cae, ac wedyn fe wnaeth fy nharo i ’mod i newydd sgorio cant i’r dynion.”
Chwaraeodd Hughes, sy’n astudio hyfforddiant a datblygiad chwaraeon ym Mhrifysgol De Cymru, dros yr ail dîm, a oedd yn gwthio am ddyrchafiad i Adran Tri SWCA eleni, ac fe aeth ymlaen hyd yn oed i chwarae am y tro cyntaf i BFSCC.
“Roedd yn neis cael chwarae rhan yn hynny” meddai.
“Dydw i heb chwarae llawer dros y blynyddoedd oherwydd fy ymrwymiadau chwarae fy hun gyda Merched Cymru a hyfforddi – ond roedd yn grêt chwarae llawer mwy o gemau eleni.
“Roedd chwarae i’r ail dîm, gorffen yn ail a chael dyrchafiad yn gyflawniad gwych i’r tîm ac yn hwb enfawr i’r clwb ac roedd yn neis cael cyfrannu at hynny.”
Wedyn, pan oedd BFSCC yn herio un o’r gwrthwynebwyr lleol, CC Baglan yn y Graig, chwaraeodd Hughes i’r tîm cyntaf am y tro cyntaf.
“Roedd yn braf cael cyfle i chwarae i’r tîm cyntaf. Pan gyhoeddwyd y tîm ar ôl y cyfarfod dewis ar y dydd Iau, doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl e.
“Roeddwn i’n disgwyl bod yn yr ail dîm eto. Ond fe gefais i fy newis ar gyfer y tîm cyntaf pan ddaeth y diwrnod, roedd yn grêt gweld y lefel wahanol o chwarae.
“Roedd yn brofiad gwych.”