Skip to main content

Y Loteri Genedlaethol yn cynnig cysur i Glwb Canŵio Maesteg

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y Loteri Genedlaethol yn cynnig cysur i Glwb Canŵio Maesteg

Wedi cael grant y Loteri Genedlaethol yn ddiweddar, mae Clwb Canŵio Maesteg yn croesawu plant ac oedolion. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr Clwb Canŵio y Flwyddyn Cymru yn 2018. Ei arwyddair yw family-run, family fun ac mae'n ymfalchïo mewn bod yn gynhwysol.

Ddwy flynedd yn ôl, dyma'r clwb dŵr cyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yng Nghymru i sicrhau statws Insport aur Chwaraeon Anabledd Cymru – y safon uchaf y gall clwb ei chyflawni o ran creu a datblygu cynhwysiant.

Fel pob clwb, fe'i gorfodwyd i ganslo sesiynau o 23 Mawrth ymlaen wrth i'r cyfyngiadau symud cenedlaethol gael eu cyhoeddi. Yn awyddus i atgoffa’r plant bod y clwb yno o hyd, yn aros i'r cyfyngiadau symud ddod i ben, penderfynodd y clwb anfon pecynnau meddylgar at y plant.

boats on water

 

Dyma Emily Evans – Cadeirydd y Clwb – sydd hefyd yn gweithio fel Clerc Ward i GIG Cymru, i esbonio:

"Roedden ni eisiau iddyn nhw wybod ein bod ni'n eu colli nhw ac yn meddwl amdanyn nhw felly fe wnaethon ni anfon anrheg fach yn y post o sticeri enfys ac emoji, ffon yn goleuo a balŵn.

"Fe wnaethon ni hefyd gysylltu â’n gilydd i wneud yn siŵr bod pawb yn iawn."

Unwaith y gallai'r pwll nofio ailagor, cyfarfu'r clwb â'r darparwyr hamdden i benderfynu ar ffordd newydd o wneud pethau. Er mwyn sicrhau bod y plant a’r oedolion yn gallu parhau i fwynhau'r gamp maent mor hoff ohoni, mae'r hyfforddwyr yn torchi eu llewys ac yn helpu staff y pwll i ddiheintio ardal y pwll a’r offer.

Collodd y clwb refeniw yn ystod y cyfyngiadau symud ond mae arian y Loteri Genedlaethol o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru wedi helpu'r clwb i ailddechrau:

"Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi gwneud byd o wahaniaeth. Mae'n teimlo fel bod blanced ddiogelwch wedi'i thaflu dros y clwb. Rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n iawn nawr i ddal ati tan fis Mawrth."

Gan esbonio pwysigrwydd y clwb, ychwanegodd Emily: "Nid dim ond gweithgarwch canŵio ydyn ni’n ei ddarparu; mae'n ail gartref i'n haelodau ni. Rydyn ni’n gynhwysol ac mae gennym ni aelodau sy'n awtistig. Mae eu hyder nhw wedi gwella cymaint – dywedodd un rhiant wrthym ni bod y clwb wedi newid bywyd y teulu cyfan.

"Rydym yn croesawu pobl o bob gallu, hen ac ifanc ac rydyn ni'n gweld cyfeillgarwch cryf yn datblygu, sy'n hyfryd i'w weld. Rydyn ni hefyd wedi cael unigolion yn y clwb sydd wedi colli aelodau o’u cyrff ac aelod â cholled golwg. Mae croeso i bawb!”

Gyda help arian y Loteri Genedlaethol, mae miloedd o weithwyr chwaraeon ar lawr gwlad a gwirfoddolwyr mewn clybiau a sefydliadau lleol ledled y DU wedi gallu dal ati i helpu'r genedl i gadw’n actif, yn hapus ac yn llawn cymhelliant yn ystod pandemig Covid-19.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da. Mae llawer o’r arian yma’n cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni ledled y DU yn ystod argyfwng y Coronafeirws.  

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy